Menyw yn edrych allan o'r ffenest

Menyw yn edrych allan o'r ffenest

Iechyd Menywod yng Nghymru: Blaenoriaeth mewn egwyddor - Ond, yn ymarferol?

Cyhoeddwyd 19/01/2026

Pan ddaeth Eluned Morgan AS yn Brif Weinidog, nododd iechyd menywod fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru — gan adeiladu ar y gwaith y dechreuodd arno fel Gweinidog Iechyd i fynd i'r afael â degawdau o anghydraddoldeb systemig o ran gofal i fenywod a merched.

Ym mis Gorffennaf 2022, cyflwynodd ddatganiad llafar gerbron y Senedd yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd newydd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched, gan gydnabod y niwed a achosir pan fydd menywod yn derbyn gofal sydd wedi'i fodelu ar "brofiad gwrywaidd” o salwch yn hytrach na gwasanaethau sydd wedi'u teilwra i anghenion menywod. Roedd yr ymrwymiad yn glir, sef cau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau a gwella canlyniadau ar draws cwrs bywyd. 

Cynnydd a chyflymder

Roedd cynnydd tuag at sicrhau Cynllun Iechyd Menywod cynhwysfawr yn araf, ac wedi cymryd rhagor na dwy flynedd i’w wireddu.

Cymerwyd camau graddol yn ystod 2024, a oedd yn cynnwys datganiad ysgrifenedig ym mis Mawrth ar nyrsys arbenigol endometriosis, cydlynwyr iechyd pelfig ac Adroddiad Darganfod, ac ym mis Hydref cynhaliwyd Uwchgynhadledd Weinidogol a oedd yn blaenoriaethu anhwylderau mislif, endometriosis a'r menopos. Ni chafwyd y cynllun llawn, fodd bynnag, tan fis Rhagfyr 2024.

Roedd y Cynllun yn gosod gweledigaeth ar gyfer deng mlynedd (2025–2035), ac yn cynnwys 64 o gamau gweithredu, gan gynnwys:

  • Sefydlu hybiau iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn 2026;
  • Dyrannu £750,000 ar gyfer ymchwil; a
  • Hyfforddi clinigwyr i wella sgyrsiau am iechyd mislif a menopos.

Er y croesawyd y Cynllun fel dogfen garreg filltir, lleisiodd rhanddeiliaid, gan gynnwys Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, bryderon bod ei ffocws ar wasanaethau gynaecolegol i raddau helaeth, ac roeddent yn galw am ddull gweithredu ehangach, sydd wedi'i ariannu'n well, o ran iechyd menywod drwyddo draw.

Roedd llwyddiant cynnar y cynllun, mae’n ymddangos bellach, yn dibynnu ar gyflwyno Hybiau Iechyd Menywod, a threfnir i glywed rhagor yn hyn o beth mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon (ar 20 Ionawr).

Blwyddyn 1: yr hyn a gyflawnwyd

Ym mis Rhagfyr 2025, adroddodd Llywodraeth Cymru am gynnydd a wnaed o ran tua thraean o’r 64 o gamau gweithredu'r Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf. Nododd y canlynol:

  • Lansiad Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, sef canolfan genedlaethol newydd a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2025 i ddod ag arbenigwyr ynghyd a chryfhau ymchwil ym maes iechyd menywod;
  • Datblygu cynllun braenaru Hybiau Iechyd Menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd, sydd i ddechrau agor yn gynnar yn 2026; ac
  • adnoddau ysgol newydd i wella dealltwriaeth pobl ifanc o iechyd a lles o ran y mislif, gan gynnwys diweddariadau i'r “Ymgyrch “Mislif Fi”.

Hefyd nododd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, flaenoriaethau Blwyddyn 2 y Cynllun gan y llywodraeth, sef: hybiau, ymchwil, endometriosis, gofal erthyliad, a chynnwys lleisiau menywod drwy gydgynhyrchu ar draws pob bwrdd iechyd.

Mae'r rhain yn gamau nodedig, a llawer ohonynt wedi’u hargymell gan fenywod a sefydliadau eiriolaeth - ond mae pryderon o hyd mai sylw cyfyngedig a roddir i faterion iechyd ehangach (fel clefyd cardiofasgwlaidd, iechyd meddwl, heneiddio a chyflyrau hirdymor) a phenderfynyddion iechyd ehangach (fel tlodi, tai a gweithredu trawslywodraethol), er bod eu pwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn y Cynllun ei hun.

Hybiau Iechyd Menywod – pwrpas ac addewid

Beth yw’r rhain?

Mae Hybliau Iechyd Menywod wedi'u lleoli gan Lywodraeth Cymru fel conglfaen y Cynllun 10 mlynedd, ac maen nhw’n fecanwaith allweddol i gyflawni llawer o’i gamau gweithredu. Eu nod yw cynnig mynediad integredig, cymunedol ar gyfer y menopos, problemau mislif, atal cenhedlu a phoen pelfig. Eu nod yw dod â chefnogaeth yn agosach at gartrefi menywod, a lleddfu'r pwysau ar lwybrau gofal ysbyty. Mae disgwyl i hybiau braenaru agor o ddechrau 2026.

Pam y gallent weithio

Drwy gydleoli gwasanaethau menywod a galluogi diagnosteg ar lefel uwch yn y gymuned, nod yr hybiau yw symleiddio llwybrau gofal, torri atgyfeiriadau diangen a gwella mynediad - yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae sylwebaeth glinigol a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal (BMJ)) yn dadlau y gall Hybiau Iechyd Menywod ddarparu gofal graddadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n deg, pan gânt eu hintegreiddio â gwasanaethau iechyd rhywiol, gwasanaethau menopos a gofal gynaecoleg ynghyd â darpariaeth ddiagnosteg uwch. Mae’r erthygl yn tynnu sylw at y Clinig gynaecoleg cymunedol enghreifftiol Bevan yng Ngheredigion fel clinig arfer da, sy’n nodi llai o waith dilynol, capasiti diagnostig wedi'i ryddhau, a mynediad gwell ar gyfer menywod.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud yn ddiweddar?

Mae’r Cylchlythyr Iechyd Menywod (Rhagfyr 2025) yn cadarnhau bod pob bwrdd iechyd wedi dechrau datblygu hybiau, gyda chefnogaeth adolygiadau gan y gweithlu, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rowndiau ariannu, ac mae’n ailadrodd yr amserlen fraenaru ar gyfer dechrau 2026. Mae hefyd yn tanlinellu ymrwymiad i gydgynhyrchu ac i lansio gwefan iechyd menywod genedlaethol i ganoli gwybodaeth.

Fodd bynnag, mae tryloywder yn anghyson, ac er bod pob bwrdd iechyd yn datblygu hybiau, nid yw cynlluniau gweithredu lleol manwl yn cael eu cyhoeddi'n gyson.

O’r bwriad i’r cyflawni: cwestiynau i'w hystyried

Gyda hybiau braenaru i agor ddechrau 2026, y cam nesaf yw darparu mewn modd y gall menywod ei weld a'i deimlo’n wirioneddol. Er mwyn darparu hyder ac eglurder, mae llawer o gwestiynau i'w hateb o hyd, er enghraifft:

  • A fydd yr hybiau’n gweithredu fel canolfannau amlddisgyblaethol gwirioneddol—yn cyfuno’r menopos, atal cenhedlu, iechyd rhywiol, poen pelfig a diagnosteg o dan un to—a sut y byddant yn rhyngweithio â gwasanaethau meddygon teulu a llwybrau arbenigol ysbytai, i osgoi dyblygu a dryswch?
  • Pa safonau gwasanaeth gofynnol fydd yn berthnasol ar draws y byrddau iechyd i sicrhau mynediad teg (gan gynnwys, ar gyfer cymunedau gwledig), a sut y bydd perfformiad yn cael ei fonitro a'i gyhoeddi — er enghraifft, ar amseroedd aros, dargyfeirio atgyfeiriadau a chanlyniadau a adroddir gan gleifion?
  • A fydd gan hybiau gyfleusterau diagnosteg ar y pwynt gofal (e.e., uwchsain) ac asesiad dan arweiniad ymgynghorydd pan fo'n briodol, gan efelychu y model ‘Enghreifftiol’ Bevan ar raddfa fawr? Pa uwchraddio sgiliau'r gweithlu a buddsoddiad cyfalaf sydd ar waith i gyflawni hyn yn gyson?
  • Sut fydd yr hybiau yn cefnogi menywod sydd â risg cardiofasgwlaidd, anhwylderau iechyd meddwl, cyflyrau sy’n gysylltiedig a heneiddio a chyflyrau hirdymor, ac yn ymdrin â thrais yn erbyn menywod — fel bod y model yn hyrwyddo dull cwrs bywyd y Cynllun, yn hytrach na'i gulhau?
  • Pa fecanweithiau fydd yn sicrhau bod lleisiau menywod yn parhau i lunio dyluniad a gwelliant yr hybiau ym mhob ardal bwrdd iechyd, a sut y bydd hyn yn cael ei adrodd yn gyhoeddus?
  • Beth yw'r cerrig milltir ar gyfer pob hwb braenaru yn 2026, pryd y disgwylir eu cyflwyno'n llawn, ac a fydd byrddau iechyd yn cyhoeddi eu cynlluniau gweithredu a'u fframweithiau gwerthuso mewn fformat cyson a hygyrch?

Prawf hollbwysig o ran cyflawni - ac o ran ymddiriedaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfeiriad clir: sef i wrando ar fenywod, i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, ac i sicrhau bod gwasanaethau yn fwy cyfartal ar draws cwrs bywyd. Mae'r hybiau newydd yn ganolog i'r uchelgais hon, drwy symud gofal yn agosach at bobl, integreiddio gwasanaethau, a dod â diagnosteg i'r gymuned. Awgryma tystiolaeth gynnar o Gymru y gall y dull hwn wella mynediad at wasanaethau a’u gwneud yn fwy effeithlon.

Ond bydd llwyddiant yr hybiau yn dibynnu ar ba mor dda y cânt eu cynllunio a pha mor agored y cânt eu darparu. Nid a yw hybiau yn syniad da mewn egwyddor yw’r cwestiwn i’w ofyn; ond yn hytrach, a fydd cyflwyno’r hybiau yn cyflawni ar gyfer menywod ledled Cymru - a hynny yn deg, yn gyson, ac yn gyflym.

Os gall y Gweinidog ateb hynny yn argyhoeddiadol, gallai'r hybiau ddod yn ysgogiad sy'n troi cynllun deng mlynedd yn newid mesuradwy ym mywydau menywod. Os na all, y risg yw y ceir darpariaeth sy’n glytwaith, a fydd yn arwain at ddiffyg cyflawni’r addewid ehangach.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru