menyw yn darllen y cyfarwyddiadau gyda'i gilydd ar gefn pecyn meddyginiaeth.

menyw yn darllen y cyfarwyddiadau gyda'i gilydd ar gefn pecyn meddyginiaeth.

Anghenion iechyd menywod a sicrhau tegwch: diffyg cynllun pwrpasol

Cyhoeddwyd 31/01/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaeth Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad i’r Senedd, yn esbonio’r angen am ddull trawsnewidiol o ymdrin â gofal iechyd menywod yng Nghymru. ”Nid yw hyn yn iawn ac nid yw'n deg,” dywedodd y Gweinidog, gan gyfeirio at ragfarnau ar sail rhywedd sydd wedi eu hen ymwreiddio yn y system gofal iechyd ac sy’n aml yn golygu esgeuluso anghenion penodol menywod a merched. Nododd mai’r broblem sylfaenol yw bod gwasanaethau iechyd menywod yn aml wedi’u seilio ar brofiadau dynion o salwch, gan arwain at ganlyniadau gwaeth i fenywod.

Er gwaethaf natur frys y broblem, nid oes eto gan Gymru gynllun iechyd penodol i fenywod a merched.

Gweledigaeth ar gyfer gwella gofal iechyd i fenywod

Yn ei adroddiad 'Better for Women' a gyhoeddwyd yn 2019, cyflwynodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr weledigaeth gynhwysfawr ar gyfer gwella gofal iechyd i fenywod. Roedd y weledigaeth hon yn tanlinellu pwysigrwydd gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ynghyd â grymuso menywod yn y broses o wneud penderfyniadau. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei chynllun iechyd menywod ym mis Awst 2021, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched ym mis Gorffennaf 2022.

Mae'r Datganiad Ansawdd, sy’n rhagflaenydd i’r cynllun 10 mlynedd sydd i ddod, yn amlinellu’r safonau gofal iechyd a ragwelir y dylai GIG Cymru eu darparu ar gyfer menywod a merched drwy gydol eu hoes. Dywedodd y Gweinidog fod y datganiad ansawdd yn "[g]am cyntaf" hollbwysig wrth drawsnewid gofal iechyd menywod yng Nghymru. Dywedodd hefyd ei bod yn disgwyl i'r cynllun 10 mlynedd cynhwysfawr, dan arweiniad GIG Cymru, gael mewnbwn sylweddol gan sefydliadau iechyd menywod.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth iechyd menywod ar gyfer Lloegr ym mis Awst 2022. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yng Nghym’u i'w weld yn arafach na’r disgwyl. Ym mis Medi 2022, rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad ar y cynllun iechyd menywod, gan gyhoeddi sefydlu’r Rhwydwaith Iechyd Menywod gan Weithrediaeth y GIG. Mae’r Rhwydwaith yn gyfrifol am ddrafftio'r cynllun. Serch hynny, dim ond cam cyntaf y cynllun a gyhoeddwyd gan GIG Cymru ym mis Rhagfyr 2022, sef y "cam darganfod” fel y’i gelwir.

Mae'r llinell amser yn dod i ben yn y fan hon, sy’n gadael cwestiynau ynghylch statws presennol y cynllun a’r trywydd yn y dyfodol. Roedd y Rhwydwaith Iechyd Menywod i fod yn weithredol erbyn mis Mai 2023. Dylai nawr fod yn gweithredu ac yn monitro Cynllun Iechyd Menywod a Merched 2024-2034.

Rhesymau dros yr oedi

Gofynnodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, am ddiweddariad ar y cynllun ym mis Tachwedd 2023. Cydnabu’r Gweinidog gynnydd araf y cynllun:

This is now an NHS health plan, so this is not going quite as quickly as I’d hoped.

Ychwanegodd y canlynol:

I can't determine what they're going to do, because it's their plan—it's the NHS plan. I do the quality statement, they do the delivery.”

Er gwaethaf yr oedi, mae’r broses o sefydlu Rhwydwaith Iechyd Menywod (sy’n gyfrifol am ddrafftio’r cynllun a goruchwylio ac asesu cynnydd yn unol â’r Datganiad Ansawdd Iechyd Menywod) wedi symud ymlaen, gyda swyddi allweddol, gan gynnwys arweinydd clinigol a rheolwr rhwydwaith, i fod wedi’u llenwi ym mis Rhagfyr 2023.

Fodd bynnag, mae’r diffyg cynllun cyhoeddedig yn codi cwestiynau am y rhesymau y tu ôl i'r oedi. Awgrymodd y Gweinidog fod datblygu cynllun clinigol cynhwysfawr ar gyfer iechyd menywod yn golygu mynd i'r afael ag ystod eang o faterion, cynnal ymgyngoriadau â menywod ledled Cymru, a sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd ag adborth rhanddeiliaid. Gall cyfyngiadau o ran adnoddau a heriau o ran cydweithredu hefyd fod yn ffactorau sy’n cyfrannu.

Rôl y Rhwydwaith Iechyd Menywod

Rôl arfaethedig y Rhwydwaith Iechyd Menywod yw hybu iechyd menywod drwy ddull strategol clinigol. Dan arweiniad clinigwyr, nod y rhwydwaith yw gwella ansawdd, diogelwch a chanlyniadau gofal cleifion yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Mae Adroddiad Darganfod GIG Cymru eisoes wedi amlinellu tasgau’r Rhwydwaith, gan gynnwys datblygu camau gweithredu, pethau allweddol i’w cyflawni, a chanlyniadau mesuradwy o fewn chwe maes blaenoriaeth, gan gynnwys:

  • cryfhau lleisiau menywod mewn rhyngweithiadau gofal iechyd
  • darparu mynediad gwell at wybodaeth
  • mynediad prydlon at gymorth
  • hybu llesiant yn y gweithle
  • gwella cymorth iechyd meddwl
  • gwneud ymchwil ar bynciau allweddol o ran iechyd menywod.

Mae tasgau eraill yn cynnwys adolygu a dadansoddi cyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod a merched (y tu allan i faterion atgenhedlol a gynaecolegol) drwy archwiliadau a modelu galw/capasiti, gweithredu argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Menopos Cymru Gyfan, a bwrw ymlaen ag argymhellion y rhaglen gofal a gynlluniwyd ar wasanaethau gynaecolegol.

Gweledigaeth rhanddeiliaid ar gyfer y cynllun iechyd menywod a merched

Mae Atodiad A i'r Datganiad Ansawdd yn rhestru cyflyrau iechyd penodol yn ymwneud â menywod a merched sy'n cael eu hesgeuluso'n aml, fel problemau mislif, endometriosis, a’r menopos. Mae'r datganiad hefyd yn cynnwys rhestr o broblemau iechyd cyffredinol, fel clefyd isgemia'r galon, clefyd cardiofasgwlaidd, a sgrinio canser, lle gall fod angen trin menywod yn wahanol.

Rhagwelir y bydd cynllun iechyd menywod a merched y GIG yn mynd i’r afael â’r materion amrywiol a amlinellwyd yn Adroddiad Darganfod GIG Cymru a'r Datganiad Ansawdd. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynnwys cau bylchau rhwng y rhywiau, dileu anghydraddoldebau rhywedd, a thrawsnewid y ffordd y mae’r GIG yn cefnogi menywod a merched ac yn gofalu amdanynt.

Ym mis Mawrth 2022, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sesiwn dystiolaeth gyda Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru, clymblaid o dros drigain o elusennau a sefydliadau iechyd gan gynnwys Colegau Brenhinol a chynrychiolwyr cleifion. Amlinellodd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru ei blaenoriaethau ar gyfer cynllun iechyd menywod a merched (ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei chynllun ei hun ar gyfer Cymru).

Galwodd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru am ddull trawslywodraethol o fynd i’r afael ag iechyd menywod a merched, gan gydnabod bod materion iechyd menywod yn ymestyn y tu hwnt i iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cwmpasu addysg, tai, cyfiawnder cymdeithasol, a meysydd eraill. Er nad yw’r Datganiad Ansawdd yn sôn yn benodol am waith trawslywodraethol, mae tystiolaeth o gydweithio, fel y strategaeth urddas mislif dan arweiniad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r ffaith bod addysg llesiant mislif wedi ei chynnwys yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Mae’r blaenoriaethau eraill a nodwyd gan Glymblaid Iechyd Menywod Cymru yn cynnwys:

  • gwrando ar straeon a phrofiadau bywyd go iawn menywod a merched, gan gydnabod rôl croestoriadedd a normaleiddio trafodaethau ynghylch iechyd menywod;
  • cynyddu mynediad at wasanaethau arbenigol;
  • mynd i’r afael â phryderon ynghylch ymarferion atgyfeirio meddygon teulu;
  • mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y system gofal iechyd;
  • gwella ansawdd data, yn enwedig mewn achosion lle mae menywod wedi’uu tangynrychioli mewn treialon clinigol, neu lle mae diffyg dadgyfuno yn ôl rhyw a rhywedd yng nghanfyddiadau ymchwil;
  • hyfforddiant uwch ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o ran rheoli cyflyrau a phroblemau iechyd menywod.

Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn dweud bod mynd i’r afael ag anghenion nas diwallwyd ym maes iechyd menywod yng Nghymru yn gofyn dull cynhwysfawr a rhyw-benodol o ran gwasanaethau gofal iechyd i fenywod a merched, ac yn galw bod y cynllun yn adrodd yn flynyddol er mwyn asesu cynnydd. Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru hefyd yn credu bod cydraddoldeb o ran canlyniadau iechyd rhwng dynion a menywod yn gorfod bod y nod sylfaenol.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru