Iechyd meddwl mewn addysg uwch – beth sydd angen ei newid?

Cyhoeddwyd 09/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae myfyrwyr yn haeddu safon gyson o gymorth iechyd meddwl ar gyfer yr heriau unigryw y maent yn eu hwynebu. Dyna oedd neges ganolog adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn ei ymchwiliad i gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch.

Pwysleisiodd y Pwyllgor, er bod mynd i’r brifysgol yn brofiad cyffrous sy’n newid bywyd i lawer o fyfyrwyr, i eraill gall achosi neu waethygu anawsterau iechyd meddwl. Yng nghyd-destun effaith barhaus y pandemig a’r argyfwng costau byw, mae’r Pwyllgor yn dweud ei bod yn bwysicach nag erioed bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol, i’w helpu i gyrraedd eu llawn botensial yn y brifysgol.

Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran iechyd meddwl myfyrwyr?

Mae nifer y myfyrwyr sy'n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), cododd nifer y myfyrwyr a ddatganodd gyflwr iechyd meddwl o 2,065 (1.6% o fyfyrwyr) yn 2014/15 i 6,245 (4.3% o fyfyrwyr) yn 2020/21. Mae cyfraddau hapusrwydd a boddhad bywyd myfyrwyr ddwywaith yn waeth yn gyson … na phoblogaeth ehangach y DU.

Dywed y Pwyllgor, er ein bod yn gwybod bod cyfraddau cyflyrau iechyd meddwl wedi cynyddu, ei bod hefyd yn debygol iawn nad yw’r ystadegau sydd ar gael yn rhoi darlun cyflawn o faint yr her, gan nad yw’n debygol y bydd pob myfyriwr yn dewis datgan ei gyflwr iechyd. Clywodd y Pwyllgor fod mynd i’r afael â stigma, a chefnogi myfyrwyr y mae angen cymorth arnynt i ddod ymlaen, yn ganolog i ddeall a mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl myfyrwyr.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cymryd camau i geisio gwella’r cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch. Yn 2019, lansiodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Ddatganiad Polisi Llesiant ac Iechyd mewn Addysg Uwch, ac ers 2020/21 mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid blynyddol (drwy CCAUC) i gefnogi strategaethau llesiant ac iechyd a chynlluniau gweithredu prifysgolion. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch Cymru gael siarter myfyrwyr yn hyn o beth, sy'n integreiddio iechyd meddwl a lles, ac mae holl brifysgolion Cymru wedi ymrwymo i Fframwaith Stepchange Prifysgolion y DU.

Wrth i bryderon ynghylch materion iechyd meddwl myfyrwyr barhau i fod dan y chwyddwydr, fodd bynnag, dywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor fod gwaith i’w wneud o hyd, yn enwedig ynghylch ffiniau’r gofal y gellir ei ddarparu gan brifysgolion a lleoliadau statudol. Ym mis Mai 2022, daeth grŵp ar y cyd o randdeiliaid o bob rhan o’r sector addysg ôl-16 ynghyd i ddatblygu argymhellion ar sut i wella iechyd meddwl myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Profiad cyfartal;
  • Rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn effeithiol;
  • Rolau, cylchoedd gwaith a chyfrifoldebau clir;
  • Cefnogaeth ychwanegol ar gyfer pontio; a
  • Chyllid cynaliadwy, hirdymor.

Yn y cyd-destun hwn y dechreuodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei waith ar gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch, drwy lansio ymgynghoriad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2022.

Beth sydd angen newid?

Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cael cymorth i fyfyrwyr, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn. Mae ei adroddiad sylweddol yn gwneud 33 o argymhellion sydd â’r nod o “sicrhau nad oes unrhyw un yn colli'r cyfle i wireddu ei botensial yn y brifysgol oherwydd ei iechyd meddwl”. Mae’r rhain yn cyffwrdd â meysydd fel:

  • Gwella’r broses o gasglu data, er mwyn meithrin dealltwriaeth well o faint y galw am gymorth iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr;
  • Camau penodol i fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr ar gyrsiau gofal iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Parhau i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd strategaethau addysgu a dysgu cyfunol;
  • Datblygu dull system gyfan o ran iechyd meddwl ar draws y sector ôl-16, gyda fframwaith cyffredin ar gyfer addysg uwch, sy'n lledaenu disgwyliadau ac egwyddorion cyffredin;
  • Cadw diddordebau ac anghenion staff yn ganolog i waith cynllunio; ac
  • Ei gwneud yn symlach i fyfyrwyr gael mynediad at gymorth y GIG, er enghraifft drwy ei gwneud yn haws i gofrestru â meddyg teulu, ac edrych ar ba mor ymarferol fyddai pasbort gofal iechyd i fyfyrwyr.

Roedd yr angen i gydbwyso cymorth cyson a disgwyliadau cyffredin gan fyfyrwyr a darparwyr, ag amrywiaeth y corff o fyfyrwyr sydd yng Nghymru yn thema gyson. Ym mhob menter i gefnogi myfyrwyr, roedd y Pwyllgor yn sicr y dylai llais myfyrwyr fod yn ganolog.

Nododd y Pwyllgor hefyd amrywiaeth o ddarnau o waith eraill sy’n digwydd yn y Senedd a thu hwnt. Yn fwyaf nodedig, mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo'n benodol argymhellion gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ac adroddiad Meddyliau Iau o Bwys Senedd Ieuenctid Cymru.

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru?

Dywed Llywodraeth Cymru:

Mae'n hanfodol ein bod yn creu amgylchedd lle mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel i ddatgelu cyflwr iechyd meddwl, fel y gellir rhoi cymorth a darparu gwasanaethau priodol i'w cefnogi, a'u helpu i lwyddo ac i wneud yn fawr o'u hamser yn y brifysgol.

O’r 33 argymhelliad, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 16, mae 3 yn cael eu derbyn yn rhannol, mae 11 yn cael eu derbyn mewn egwyddor, ac mae 3 wedi’u gwrthod.

Dywedodd y Llywodraeth hefyd fod ei hymateb yn rhoi ystyriaeth i sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), ac y bydd angen i’r Comisiwn hwnnw ystyried llawer o’r argymhellion.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Mercher 14 Mehefin 2023 Gallwch wylio’r sesiwn yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Rosemary Hill and Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru