Iechyd Meddwl Amenedigol - Y Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddwyd 29/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

It is often forgotten that mental illness is by far the most common major health complication of having a baby, and suicide is always in the top 3 causes of maternal deaths, yet mental health is the only area of NHS maternity care without dedicated services. (Dr. Alain Gregoire, Cadeirydd y Maternal Mental Health Alliance, Tachwedd 2017).

Dechreuodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol ym mis Mawrth 2017 i gydnabod yr effaith y gall iechyd meddwl rhieni ei chael ar iechyd a datblygiad plant. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru ym mis Hydref 2017. Mae'r adroddiad yn gwneud 27 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ffurfiol i adroddiad y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2017. Derbyniodd 24 o'r 27 argymhelliad, er bod pedwar o'r rhain wedi'u derbyn mewn egwyddor yn unig. Gwrthododd bedwar.

Croesawyd adroddiad y Pwyllgor yn eang. Mae rhanddeiliaid wedi cael argraff arbennig o dda o'r ffordd y mae'r adroddiad, a'i argymhellion, yn ymgorffori barn gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr y gwasanaeth.

Adroddiad y Pwyllgor

Mae Adroddiad y Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion i wella gofal iechyd meddwl amenedigol ledled Cymru, gan gynnwys ailagor uned Mamau a Babanod.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys y Maternal Mental Health Alliance, aelodau'r trydydd sector megis NSPCC ac Action on Postpartum Psychosis (APP), gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a menywod sydd wedi dioddef afiechydon meddwl amenedigol yn y gorffennol.

Argymhellion

Rhwydwaith Clinigol Rheoledig

Galwodd argymhelliad cyntaf y Pwyllgor am Rwydwaith Clinigol Rheoledig (MCN) dan arweiniad clinigwyr. Bydd y rhwydwaith hwn, y rhagwelir, yn darparu arweinyddiaeth strategol i hybu datblygiad pellach o ran gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Yn arwyddocaol, derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae sefydlu'r MCN yn tanategu ac yn cefnogi llawer o'r argymhellion eraill a wnaed.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor yn ei ymateb y bydd gwaith i roi'r MCN yn ei le yn dechrau ar unwaith, gyda chynlluniau i recriwtio i'r rôl arweinyddiaeth y flwyddyn ariannol hon.

Buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol arbenigol

Croesawodd adroddiad y Pwyllgor fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £1.5miliwn mewn gwasanaethau cymunedol arbenigol fel cam sylweddol ymlaen, ond mynegodd yr angen i weld hyn fel man cychwyn, gyda mwy o fuddsoddiad yn ofynnol i wneud gwasanaethau yn unol â safonau ansawdd cenedlaethol.

Amlygodd y Pwyllgor ei bryderon ynghylch y gwahaniaeth mewn gwasanaethau rhwng ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru.

Er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn 'mewn egwyddor' argymhelliad y Pwyllgor am gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymunedol arbenigol, bydd disgwyl i Fyrddau Iechyd sicrhau y rhoddir sylw i'r bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth o fewn yr £20 miliwn ychwanegol bob blwyddyn (a gynhwysir yng nghyllideb eleni, 2017-18) ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy eang.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn glir - nid dyletswydd y trydydd sector yw llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth.

Uned Mamau a Babanod

Arweiniodd argymhelliad y Pwyllgor i ailsefydlu uned Mamau a Babanod yn Ne Cymru at benawdau yn y wasg - roedd ymgyrchwyr wedi bod yn galw am hyn ers peth amser gan nad oes uned Mamau a Babanod yng Nghymru ar hyn o bryd, ar ôl i'r gwasanaeth a leolwyd yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd gau ym mis Tachwedd 2013.

Adroddwyd bod cau'r uned Mamau a Babanod o ganlyniad i nifer annigonol o fenywod yn defnyddio'r gwasanaeth; ond clywodd y Pwyllgor dystiolaeth oedd yn groes i hynny. Mae adroddiad y Pwyllgor yn glir bod y sylfaen dystiolaeth bresennol yn dangos yr angen am ofal cleifion mewnol yng Nghymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod, lle bynnag y bo'n bosibl, mai gwasanaeth arbenigol yn y gymuned yw'r opsiwn gofal dewisol i fenywod a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae achlysuron lle nad yw hyn yn bosibl, oherwydd maint y risg a difrifoldeb y salwch.

Ar adeg Ymchwiliad y Pwyllgor, roedd Cydbwyllgor Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) yn ystyried papur opsiynau ar ffurf gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol Haen 4 arbenigol yng Nghymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod y Pwyllgor yn galw am gwblhau'r gwaith ar nodi lefel y galw am ofal cleifion mewnol o fewn 6 wythnos i gyhoeddi ei adroddiad, nid yw penderfyniad ar ddatblygiad cyffredinol gofal cleifion mewnol ledled Cymru wedi'i wneud hyd yma.

Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at gytundeb cyllideb mis Hydref sy'n ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymorth iechyd meddwl amenedigol cleifion mewnol arbenigol i famau a babanod yng Nghymru. Ac er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor, nid yw'n glir sut beth fydd y model gofal i gleifion mewnol yng Nghymru.

Ymhellach, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y broblem o gasglu data gwael; roedd y Byrddau Iechyd a WHSSC yn cael anhawster rhoi tystiolaeth gadarn i'r Pwyllgor mewn perthynas â derbyn menywod o fewn y cyfnod amenedigol.

Argymhellion eraill

Roedd argymhellion eraill yn cynnwys sicrhau mynediad amserol i gefnogaeth seicolegol i ferched beichiog ac ôl-enedigol, gweithio gyda chyrff perthnasol i sicrhau bod iechyd meddwl amenedigol yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i weithwyr iechyd proffesiynol, a gwella gwybodaeth a dosbarthiadau cleifion cyn geni i gynnwys gwybodaeth am salwch ôl-enedigol.

Argymhellion a wrthodwyd

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi bod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod yn wael ymhlith y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n argymell bod angen i staff rheng flaen - gan gynnwys bydwragedd, ymwelwyr iechyd a meddygon teulu - fod mewn sefyllfa well i nodi a thrin salwch meddwl amenedigol. Mae'n cydnabod y bydd gwella'r gallu i ganfod a thrin iechyd meddwl amenedigol yn gynnar yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i famau a'u babanod.

Nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i wella'r ddealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl amenedigol a'u symptomau yng Nghymru: gwrthododd yr argymhelliad hwn, gan ddweud nad dyma fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o godi ymwybyddiaeth a gallai achosi effeithiau andwyol anfwriadol fel gor-bryder.

Gwrthododd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar yr angen am Ymwelwyr Iechyd Arbenigol mewn Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod; ac er gwaethaf derbyn 'mewn egwyddor' yr angen am Fydwragedd Arbenigol, nid oedd unrhyw warant y byddai Bydwragedd Arbenigol ar gael ym mhob ardal Bwrdd Iechyd.

Efallai mai'r peth mwyaf siomedig yw'r ymateb cyfyngedig gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran edrych yn fanylach ar effaith bwydo ar y fron ar iechyd meddwl amenedigol; a'r hyn sy'n ymddangos yn amharodrwydd i fynd i'r afael â'r wybodaeth anghyson y mae menywod a'u teuluoedd yn ei chael am feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd a/neu wrth fwydo ar y fron.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2018.

Ymhellach, mae'r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal gwaith craffu dilynol ar weithredu ei argymhellion yn nhymor yr hydref 2018; flwyddyn ar ôl cyhoeddi ei adroddiad.

Bydd y Pwyllgor yn awyddus i sicrhau na chaiff momentwm ei golli. Gwyliwch y ddadl yn y cyfarfod llawn ar adroddiad y Pwyllgor, ddydd Mercher 31 Ionawr ar Senedd TVyma.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.