N/A

N/A

Hyrwyddo'r Gymraeg mewn pandemig: flwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 07/12/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar sefydliadau sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn ôl Adroddiad gan un o bwyllgorau’r Bumed Senedd (2020). Mae hyn yn cynnwys colledion ariannol sylweddol a diswyddiadau.

Bydd Pwyllgor presennol y Senedd sy'n gyfrifol am y Gymraeg yn edrych yn ofalus ar sut mae'r sefydliadau hyn yn adfer, a beth yw’r gobeithion iddynt ar gyfer y dyfodol, yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr.

Effaith y pandemig

Mae digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg yn darparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith, ac yn rhoi siawns i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau. Mae digwyddiadau a gweithgareddau hefyd yn chwarae rhan sylweddol wrth hyrwyddo'r iaith. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn llai gweladwy.

Daeth y pandemig â hyn i ben. Sychodd ffrydiau incwm a oedd gynt yn ddibynadwy, gan gynnwys nawdd ac arian gwerthiant tocynnau. Gostyngodd niferoedd aelodaeth mudiadau, a chyda hynny, y dâl aelodaeth.

Gorfodwyd sefydliadau allweddol gan gynnwys yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddiswyddo staff ac i ofyn am gymorth ariannol. Gwnaeth gweithlu’r ddau sefydliad haneru yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd llawer o aelodau staff eraill ar draws y rhwydwaith eu gosod ar ffyrlo.

Ym mis Rhagfyr 2020, roedd gan y rhwydwaith hwn bryderon gwirioneddol ynghylch rhagolygon eu sector yn y dyfodol. Nid oedd amserlen ar gyfer ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb, ac yn y pen draw, gohiriodd yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru eu gwyliau (ar ffurf gorfforol) am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2021. Ailddechreuodd Tafwyl, gŵyl flaenllaw Menter Caerdydd, yn rhannol, gyda phresenoldeb cyfyngedig ym mis Mai 2021. Gohiriwyd llawer o wyliau a digwyddiadau Cymraeg lleol eraill neu cawsant eu cynnal ar raddfa lai.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol ar gyfer yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol i helpu gyda’u hadferiad. Fodd bynnag, efallai na fyddai rhai sefydliadau yn y rhwydwaith hwn wedi cael mynediad at gronfeydd tebyg.

Dywedodd Merched y Wawr wrth ymchwiliad y Pwyllgor yn 2020 fod ei incwm “mwy neu lai wedi diflannu dros nos” ac y byddai'n defnyddio cronfeydd wrth gefn i oroesi. Dywedodd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru hefyd y byddai’r cyfyngiadau yn eu taro’n ariannol.

Beth yw hanes digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol?

Roedd yr aflonyddwch ar weithgareddau wyneb yn wyneb yn darparu heriau amrywiol i'r rhwydwaith sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r iaith. Llwyddodd nifer o sefydliadau cenedlaethol i addasu rhywfaint o’u harlwy wrth i ddigwyddiadau a gweithgareddau newid i gael eu cynnal ar-lein. Llwyddodd yr Urdd i gynnal ei Eisteddfod T yn rhithwir, tra bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl a Sioe Frenhinol Cymru i gyd wedi cynhyrchu a chynnal digwyddiadau rhithwir neu hybrid.

Nid oedd y trosglwyddo cyflym i ddulliau digidol mor hawdd i rai. Canfu arolwg gan Lywodraeth Cymru ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg mai dim ond un rhan o bump (20 y cant) o grwpiau a oedd wedi “llwyddo i addasu eu gweithgareddau” yn dilyn y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau ar symud. Ac o'r gweithgareddau a oedd fel arfer yn cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol cyn y pandemig, nid oedd dros ddwy ran o dair (68 y cant) wedi parhau ar ôl dechrau’r cyfyngiadau ar symud.

Roedd y Pwyllgor ar y pryd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod hyfforddiant ar gael i sefydliadau ac unigolion er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar-lein i gefnogi eu haelodau. Adleisiwyd hyn yn yr arolwg o grwpiau cymunedol, ac roedd sawl un yn galw am gefnogaeth i ddatblygu eu defnydd o dechnoleg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cyfres o gamau i gynorthwyo'r rhwydwaith o sefydliadau o ran yr adferiad. Nododd y byddai'n “dechrau’r gwaith ar unwaith”, ac y byddai'r pwyslais yn cael ei roi ar “ddatblygu gallu a datblygu a grymuso cymunedol”.

Beth yw blaenoriaethau'r sector?

Dros yr haf bu Pwyllgor presennol y Senedd sy'n gyfrifol am y Gymraeg yn ymgynghori ynghylch beth ddylai ei flaenoriaethau fod ar gyfer y Chweched Senedd. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd fel rhan o ymchwiliad undydd ar y Gymraeg. Mae’r llu o heriau a phroblemau a amlygwyd yn cynnwys:

Rhagor o gefnogaeth a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc o aelwydydd nad ydynt yn siarad Cymraeg

Mae plant wedi wynebu cyfnodau estynedig i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y pandemig. O ganlyniad, prin fu’r rhyngweithio rhwng llawer o blant o gartrefi nad oeddent yn siarad Cymraeg â'r iaith. Yn dilyn galwadau am ragor o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth trochi hwyr y Gymraeg cafwyd cyhoeddiad ynghylch cynnig o £2.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth.

Rhagor o bwyslais ar drosglwyddo’r iaith

Cafwyd galwadau hefyd am ragor o weithgarwch ym maes trosglwyddo’r iaith yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys cynyddu'r ddarpariaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni a theuluoedd drwy gynlluniau fel Cymraeg i Blant a ‘Clwb Cwtsh’.

Ffocws o'r newydd ar hyfforddi a recriwtio athrawon Cymraeg

Roedd rhai rhanddeiliaid eisiau rhagor o ffocws ar hyfforddi a recriwtio athrawon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol nad yw'n “hyderus bod yr ymyraethau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn ddigon i weddnewid y sefyllfa”. Mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ymrwymiad allweddol yn rhaglen Cymraeg 2050. Mae'r data diweddaraf yn dangos mai cyfyngedig fu’r cynnydd hyd yma.

Defnyddio rhagor ar y Gymraeg yn y 'gweithle'

Roedd rhanddeiliaid yn cwestiynu pa mor ddigonol y mae cynlluniau i gefnogi defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae cyfleoedd i ryngweithio a defnyddio'r iaith yn fwy cyfyngedig wrth weithio gartref o bosibl. O ganlyniad, roedd rhanddeiliaid yn galw am ragor o ganolbwyntio ar ddarpariaeth o ran y Gymraeg yn ein cymunedau.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26. Mae'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau y mae’r iaith yn eu hwynebu.

Beth sydd o'n blaenau?

Bydd yr ansicrwydd parhaus a ddaw yn sgil y pandemig yn cyflwyno sawl her i'r rhwydwaith sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r iaith. Bydd sut mae'r rhwydwaith yn ymateb i'r heriau hyn yn dibynnu ar y gefnogaeth a'r adnoddau a ddarperir iddo. Mae'r rhwydwaith yn awyddus i ehangu'r ddarpariaeth, fel y gall ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio'r iaith. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid i'r rhwydwaith adennill tir fel petai, a sicrhau bod sylfaen sefydlog i adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru