Hyrwyddo Bwyd a Diod o Gymru

Cyhoeddwyd 24/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Medi 2013 Heddiw, bydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn [caption id="attachment_402" align="alignright" width="300"] Llun o Wicipedia gan zingyellow. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] am ddatblygu’r sector bwyd yng Nghymru. Ar 16 Gorffennaf 2013 cyhoeddodd y Gweinidog, Alun Davies AC, ddatganiad am hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn y dyfodol. Yn y datganiad, amlinellodd ei gynigion ar gyfer ymgynghori yn yr hydref ynghylch dull newydd o ddatblygu’r sector a hyrwyddo bwyd o Gymru. Cyhoeddodd y Gweinidog nad oedd y strategaeth bresennol, Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru, yn ateb y diben mwyach a dywedodd y byddai’n cyhoeddi Cynllun Bwyd strategol newydd yn yr hydref.  Byddai’r cynllun newydd yn talu sylw i argymhellion y Panel Bwyd a Ffermio a byddai hefyd yn ystyried blaenoriaethau trawsbynciol megis iechyd a thwristiaeth. Cyhoeddodd hefyd nad oedd brand y Gwir Flas, a oedd yn bennaf ar gyfer defnyddwyr, yn diwallu anghenion y diwydiant mwyach, ac roedd wedi penderfynu na chynhelir Gwobrau’r Gwir Flas yn 2013.  Fel rhan o’r ymgynghoriad yn yr hydref, dywedodd y Gweinidog ei fod yn awyddus i gael syniadau ynghylch sut orau i ddathlu’r bwyd a diod gorau o Gymru, boed hynny drwy gystadleuaeth wobrwyo benodol neu drwy fynd ar ryw drywydd arall.  Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu’r brand newydd ‘Bwyd a Diod Cymru’ a ddefnyddiwyd yn Arddangosfa Fwyd Ryngwladol 2013. Yn ogystal â’r ymgynghoriad, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y byddai’n cyflwyno Digwyddiad Masnach Bwyd a Diod Cymru, i’w gynnal yng Nghymru, ‘er mwyn creu cyfle newydd i gynhyrchwyr a phrynwyr rwydweithio a thrafod busnes newydd.’ Mae’r gwaith o gynllunio’r digwyddiad hwn eisoes ar y gweill, ac mae’n debygol o gael ei gynnal ddechrau 2014. Trafododd y Gweinidog ei gynigion ymhellach mewn sesiwn graffu gyda’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Sioe Frenhinol Cymru ar 24 Gorffennaf 2013.  Dywedodd fod ymateb y diwydiant bwyd i’w gyhoeddiad wedi bod yn ‘eithriadol o gadarnhaol’ a bod Llywodraeth Cymru bellach yn buddsoddi mwy o’i hadnoddau i hyrwyddo masnach.  Ceir trawsgrifiad llawn o’r sesiwn gyda’r Gweinidog yma.   Y Cefndir Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru Cyhoeddwyd ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ gan Lywodraeth flaenorol Cymru. Strategaeth ddeng mlynedd oedd hon ar gyfer datblygu diwydiant bwyd Cymru. Egwyddorion datblygu cynaliadwy sydd wrth wraidd y strategaeth ac mae’n trafod amryw o faterion megis iechyd, diwylliant ac addysg bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol a datblygu cymunedol.  Mae iddi dri phrif amcan, sef:
  • magu system fwyd wytnach;
  • cryfhau’r economi fwyd yng Nghymru; a
  • meithrin gallu busnesau bwyd o Gymru i gystadlu’n effeithiol.
Ceir y strategaeth lawn yma. Cymru y Gwir Flas Defnyddir y brand ‘Cymru y Gwir Flas’ i hyrwyddo bwyd a diod o’r radd flaenaf o Gymru ymhlith defnyddwyr, y diwydiant lletygarwch a’r sector cyhoeddus.  Awdurdod Datblygu Cymru oedd yn rheoli’r brand cyn i’r corff hwnnw ddod yn rhan o Lywodraeth Cymru yn 2006. Gwobrau blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas oedd un o ddulliau pennaf y brand o godi ymwybyddiaeth am gynnyrch Cymru.  Cynhaliwyd y gwobrau cyntaf yn 2002, a gallai’r enillwyr frandio eu cynnyrch a’u sefydliadau gyda logo’r Gwir Flas.  Rhai o’r gweithgareddau hyrwyddo eraill oedd mynd â stondin y Gwir Flas i sioeau masnach a sioeau defnyddwyr, cefnogi gwyliau bwyd y Gwir Flas, a chyhoeddi cyfeirlyfr o fwydydd Cymru a chylchgrawn blynyddol y Gwir Flas, a ddosbarthwyd i dros 50,000 o bobl. Roedd gan y brand gegin deithiol hefyd, sef Cegin y Gwir Flas. Ceir rhestr o enillwyr gwobrau’r Gwir Flas 2012 yma. Erthygl gan Elfyn Henderson.