Hyfforddiant Craffu Ariannol

Cyhoeddwyd 09/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae gwaith craffu’r Cynulliad ar gyllid y Llywodraeth yn rhan hanfodol o’i waith yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ym misoedd Medi a Hydref 2012, trefnwyd cyfres o sesiynau hyfforddiant ar graffu ariannol i Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth yn dilyn ceisiadau am hyfforddiant o’r fath. Trefnwyd y sesiynau hyn i gyd-fynd â’r cyfnod y mae’r Cynulliad yn ystyried cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14. Roedd Angela Scott, Pennaeth CIPFA yn yr Alban, bryd hynny, yn gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad, ac yn sgîl ymateb cadarnhaol iawn i’r gwaith hwn, penderfynwyd y byddai’n cael ei defnyddio i ddatblygu a chyflwyno’r sesiynau hyn, ar y cyd â swyddogion y Cynulliad. Nod y sesiynau hyn oedd gwella dealltwriaeth o egwyddorion cyffredinol gwaith craffu ariannol effeithiol, ac i helpu i ddatblygu dull cyffredin o graffu ar y gyllideb a’i hystyried. Cynhaliwyd sesiynau hefyd i staff Comisiwn y Cynulliad sydd yn helpu i graffu ar y gyllideb ar draws pwyllgorau’r Cynulliad. Mae adborth o’r sesiynau hyn yn eithriadol o gadarnhaol, gydag Aelodau a’u staff yn gofyn am gael trefnu hyfforddiant pellach i archwilio’r materion yn fanylach.

Datblygiadau diweddar

Yn dilyn yr adborth cadarnhaol o’r sesiynau cychwynnol hyn, ystyriwyd datblygu rhaglen hyfforddiant arall. Cafwyd cymorth datblygiadau allanol wrth wneud y penderfyniad hwn. Ym mis Tachwedd 2012, gorffennodd Comisiwn Silk ei drafodion mewn perthynas â Rhan 1 o ran ei gylch gwaith ar bwerau cyllidol, ac argymhellodd fod y Cynulliad yn cael pwerau codi treth a benthyca. Cydnabu’r Comisiwn yr angen am allu datblygedig yn y Cynulliad rhag ofn y bydd pwerau o’r fath yn cael eu datganoli, gan y byddai hynny’n golygu gwaith craffu ar bwerau codi refeniw a benthyca, yn ogystal â chynlluniau gwario. Daeth yr adroddiad i’r casgliad: ...gallai Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ddymuno ystyried meithrin gallu ac arbenigedd ar gyfer craffu ariannol drwy hyfforddi Aelodau a thrwy’r cymorth y mae Aelodau’n ei gael drwy ymchwil ac mewn pwyllgorau. Ar ddechrau 2013, cyflwynodd Cymdeithas Hansard adroddiad ar brofiad Aelodau newydd, a dangosodd fod 71 y cant o Aelodau newydd yn nodi craffu ariannol fel maes lle byddent yn cael budd o hyfforddiant pellach. Argymhellodd yr adroddiad: …the Assembly should prioritise financial scrutiny training in its future programmes and look at what additional support might be given to Members and committees to help them with the technical aspects of scrutiny.

Datblygu’r rhaglen

O ystyried y datblygiadau hyn a lefel y diddordeb a ddangoswyd mewn hyfforddiant pellach i helpu gwaith craffu ariannol o’r sesiynau cychwynnol, penderfynwyd cael rhaglen lawn o hyfforddiant a fydd yn trafod pob agwedd ar graffu ariannol sy’n berthnasol i fusnes y Cynulliad. Enillodd CIPFA y contract ar gyfer y rhaglen hon ac maent unwaith eto yn gweithio gyda swyddogion y Cynulliad i ddatblygu a chyflwyno’r hyfforddiant hwn. Ar hyn o bryd, bwriedir cynnal pum sesiwn dros y 18 mis nesaf, yn trafod meysydd yn ymwneud â chraffu ariannol yng nghyd-destun y canlynol: proses y gyllideb, ymchwiliadau Pwyllgor, monitro yn ystod y flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn, deddfwriaeth, ac ystyriaethau ariannol wrth ddatblygu polisi. Mae’n debygol y bydd sesiynau pellach yn cael eu datblygu yn dilyn ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Silk, yn ymdrin â meysydd sy’n berthnasol os bydd pwerau ariannu yn cael eu datganoli. Mae pob modiwl yn ceisio canolbwyntio ar gyfnod penodol yn y cylch ariannol, ac i gynyddu dealltwriaeth o’r cyd-destun yng Nghymru, sut mae hyn yn berthnasol i fframwaith y DU, y systemau a’r prosesau ar waith, ac i gyfrannu at y wybodaeth dechnegol i alluogi Aelodau a’u staff i wneud gwaith craffu ariannol effeithiol yn y meysydd hyn.

Arwain y ffordd

Hyd y gwyddom ni, dyma’r rhaglen gynhwysfawr gyntaf a ddatblygwyd ar gyfer hyfforddiant mewn craffu ariannol yn y cyd-destun seneddol. Yn y gorffennol, mae swyddogion y Cynulliad wedi cynnal seminarau ar gyfer Aelodau a’u staff mewn perthynas â’r prosesau ac agweddau techengol sy’n ofynnol ar gyfer gwaith craffu cyllidebol, ond ni chymerwyd agwedd mor gwmpasog o’r blaen. Ers cynnal y sesiynau peilot cychwynnol, mae Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi mynegi diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud. Felly, mae’r Cynulliad yn arwain y ffordd o ran meithrin gallu ym maes craffu ariannol. Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd, “Pan fydd unrhyw un yn cael ei ethol neu ei recriwtio i swydd lle mae angen amrywiaeth o sgiliau, mae’n bwysig cael hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar waith." “Mae deall cymhlethdodau technegol y system cyllid cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â dwyn y Llywodraeth i gyfrif mewn cyfnodau o gyllidebau tynnach, yn hollbwysig mewn unrhyw senedd ac rwy’n falch o weld ein bod yn arwain y ffordd wrth ddatblygu sgiliau ar gyfer deddfwyr yn y maes hwn." “Mae’n arfer da safonol i hyfforddi gweithlu, ac nid yw’n wahanol i Aelodau’r Cynulliad. Caiff ei wneud mewn pob sefydliad blaenllaw lle rydych yn ceisio adolygu a gwella eich gwaith ac ymateb i newid”. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y modiwlau sydd ar gynnig gan y tîm Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau.
Erthygl gan Dr Ellie Roy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.