Hydrogen yng Nghymru 2024

Cyhoeddwyd 29/07/2024   |   Amser darllen munudau

Hydrogen yw’r elfen leiaf, a’r un mwyaf helaeth yn y bydysawd. At hynny, gall gynnig modd i ddatgarboneiddio ambell ran o economi Cymru sy’n peri’r llygredd mwyaf.

Mae’r briff ymchwil hwn yn rhoi trosolwg o’r sector hydrogen presennol yng Nghymru. Mae’n ystyried ble mae hydrogen yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd, a’i ddefnydd mewn diwydiant yng Nghymru. Mae’n archwilio cynigion a fyddai, o’u hadeiladu, yn cynyddu cynhyrchiant hydrogen yng Nghymru fesul maint erbyn diwedd y degawd hwn.

At hynny, mae’n ystyried y rôl y gallai hydrogen ei chwarae mewn trafnidiaeth, diwydiant, gwresogi a storio ynni; yn ogystal â'r angen am rwydweithiau dosbarthu a storio hydrogen os caiff y defnyddiau terfynol hynny eu mabwysiadu. Mae’r papur briffio hefyd yn trafod effaith penderfyniadau polisi hydrogen diweddar gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel ei gilydd.


Erthygl gan Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthew Sutton gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.