Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yng Nghymru
Cyhoeddwyd 21/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
21 Mehefin 2016
Erthygl gan Hannah Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_5614" align="alignnone" width="640"]
Delwedd Flickr, NIAID_Flickr. Trwydded Creative Commons[/caption]
Mae'r term Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn cynnwys Heintiau a Gafwyd yn yr Ysbyty (heintiau sy'n datblygu mewn cleifion 48 awr neu fwy ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty), ynghyd ag heintiau a gafwyd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r gofal a ddarparwyd yn y cartref, yn y feddygfa meddyg teulu neu yn y cartref gofal.
Lluniodd Llywodraeth Cymru strategaeth gyffredinol ar gyfer lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn 2004. Dangosodd yr arolygon o nifer yr achosion o Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd a gynhaliwyd ledled y DU yn 2006 a 2011 fod nifer yr achosion yn y sector aciwt yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol o 6.4 y cant i 4.4 y cant dros y cyfnod hwnnw.
Yn 2011, cafodd fframwaith o gamau gweithredu ei lunio a oedd yn symud y ffocws o reoli a lleihau heintiau tuag at eu dileu'n llwyr. Roedd hefyd yn cynnwys argymhellion ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthficrobaidd (fel gwrthfiotigau) yn ddoeth, mewn ymateb i bryder cynyddol ynghylch lefelau ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru.
Dyma bum ymrwymiad craidd y fframwaith:

- Newid y diwylliant ym mhob sefydliad gofal iechyd i ddiwylliant nad yw'n goddef unrhyw Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd y gellir eu hatal.
- Cryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel i wella atal a rheoli heintiau a stiwardiaeth wrthficrobaidd.
- Gwella ansawdd a diogelwch gofal drwy ymgorffori arferion atal a rheoli heintiau craidd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd mewn gweithgareddau dyddiol.
- Mesur llwyddiant o ran dileu Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd y gellir eu hatal.
- Adeiladu a chynnal hyder a dealltwriaeth dinasyddion trwy ddiwylliant o rannu gwybodaeth a thryloywder.
- Rhagofalon rheoli heintiau safonol
- Rhagofalon ynysu
- Defnyddio gwrthficrobau
- Rheoli dyfeisiau meddygol