Cyhoeddwyd 21/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
21 Mehefin 2016
Erthygl gan Hannah Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_5614" align="alignnone" width="640"]
Delwedd Flickr, NIAID_Flickr. Trwydded Creative Commons[/caption]
Mae'r term Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn cynnwys Heintiau a Gafwyd yn yr Ysbyty (heintiau sy'n datblygu mewn cleifion 48 awr neu fwy ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty), ynghyd ag heintiau a gafwyd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r gofal a ddarparwyd yn y cartref, yn y feddygfa meddyg teulu neu yn y cartref gofal.
Lluniodd Llywodraeth Cymru
strategaeth gyffredinol ar gyfer lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn 2004. Dangosodd yr
arolygon o nifer yr achosion o Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd a gynhaliwyd ledled y DU yn 2006 a 2011 fod nifer yr achosion yn y sector aciwt yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol o 6.4 y cant i 4.4 y cant dros y cyfnod hwnnw.
Yn 2011, cafodd
fframwaith o gamau gweithredu ei lunio a oedd yn symud y ffocws o reoli a lleihau heintiau tuag at eu dileu'n llwyr. Roedd hefyd yn cynnwys argymhellion ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthficrobaidd (fel gwrthfiotigau) yn ddoeth, mewn ymateb i bryder cynyddol ynghylch lefelau ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru.
Dyma bum ymrwymiad craidd y fframwaith:
- Newid y diwylliant ym mhob sefydliad gofal iechyd i ddiwylliant nad yw'n goddef unrhyw Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd y gellir eu hatal.
- Cryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel i wella atal a rheoli heintiau a stiwardiaeth wrthficrobaidd.
- Gwella ansawdd a diogelwch gofal drwy ymgorffori arferion atal a rheoli heintiau craidd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd mewn gweithgareddau dyddiol.
- Mesur llwyddiant o ran dileu Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd y gellir eu hatal.
- Adeiladu a chynnal hyder a dealltwriaeth dinasyddion trwy ddiwylliant o rannu gwybodaeth a thryloywder.
Yn 2014, dilynodd Llywodraeth Cymru hyn gyda
Cod Ymarfer ar atal a rheoli heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, gan nodi'r 'trefniadau angenrheidiol gofynnol ar gyfer atal a rheoli heintiau' ar gyfer darparwyr gofal iechyd GIG yng Nghymru.
Cafodd
Cynllun cyflenwi cyntaf Llywodraeth Cymru ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2016. Mae Thema 1 y cynllun hwn yn canolbwyntio ar barhau i sicrhau bod y Cod Ymarfer ar gyfer atal a rheoli Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn cael e roi ar waith ac y cydymffurfir â pholisïau perthnasol eraill.
Rhaglenni a Mentrau
Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yng Nghymru
Mae'r
Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yng Nghymru, sy'n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn arwain yn genedlaethol ar waith Llywodraeth Cymru ar Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd. Mae'r Rhaglen wedi llunio
polisïau cenedlaethol ar gyfer rheoli heintiau yng Nghymru, sy'n cwmpasu 10 maes allweddol. Cyfrifoldeb yr Ymddiriedolaethau / Byrddau Iechyd unigol yw rhoi gweithdrefnau rheoli Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd ar waith a'u rheoli.
Gwella 1000 o Fywydau
Mae'r ymgyrch
Gwella 1000 o Fywydau (neu 1000 o Fywydau a Mwy) yn cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i leihau niwed, gwastraff ac amrywiadau. Mae Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid amrywiol yn bartneriaid yn yr ymgyrch, sydd wedi bod ar waith ers 2008.
Dyma elfennau Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yr ymgyrch:
- Rhagofalon rheoli heintiau safonol
- Rhagofalon ynysu
- Defnyddio gwrthficrobau
- Rheoli dyfeisiau meddygol
Mae manylion ar y mesurau i ddelio â'r elfennau hyn yn y
Canllaw 'Sut i': Lleihau Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd.
Lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â dyfeisiau meddygol
Mae gosod dyfeisiau meddygol yn gysylltiedig â risg uwch o Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd; canfu'r
arolwg nifer yr achosion diweddaraf fod tua 50 y cant o heintiau llwybr wrinol yn gysylltiedig â gosod cathetr. Mae Canllaw 'Sut i' yr ymgyrch Gwella 1000 o Fywydau yn nodi bod llawer o ysbytai wedi lleihau neu ddileu heintiau sy'n gysylltiedig â dyfeisiau drwy roi bwndeli gofal ar waith; setiau o arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, pan gânt eu perfformio ar y cyd, sydd wedi cael eu profi i wella canlyniadau i gleifion. Mae'r bwndeli gofal ar gyfer cathetrau wrinol a chanwlâu fasgwlaidd ymylol (fel llinellau IV) wedi'u nodi yn yr
ail Ganllaw 'Sut i'.
Defnyddio gwrthficrobau
Mae'r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd, yn ogystal â chyfrannu at dwf ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn ffactor risg ar gyfer dolur rhydd sy'n gysylltiedig â Clostridium difficile (C. difficile). Amcangyfrif
Rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru yw bod
20-50 y cant o bresgripsiynau gwrthficrobaidd mewn lleoliadau gofal iechyd yn amhriodol ac felly'n arwain at risg diangen.
Mae Byrddau Iechyd wedi rhoi polisïau ar waith i gyfyngu ar y defnydd o wrthfiotigau penodol sbectrwm eang er mwyn lleihau heintiau C. difficile. Ymddengys bod hyn wedi cael effaith amlwg; mae'r defnydd o'r cyffuriau hyn ac
achosion C. difficile wedi lleihau'n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae
Rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru yn cynnal arolygon nifer yr achosion yn flynyddol ar y defnydd o wrthficrobau mewn gofal eilaidd. Mae
arolwg 2014 yn amlygu meysydd penodol lle mae rhoi presgripsiynau wedi methu cydymffurfio â chanllawiau. Er enghraifft,
dim ond 48 y cant o bresgripsiynau gwrthficrobaidd oedd â dyddiad stopio / adolygu yn y nodiadau, o'i gymharu â'r targed o 95 y cant.
Monitro'r sefyllfa
Mae saith cynllun arolygu gorfodol ar waith ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys achosion o S. aureus a C. difficile, heintiau llif y gwaed, heintiau safleoedd llawfeddygol, achosion mewn ysbytai a heintiau sy'n gysylltiedig â dyfeisiau. Rhaid i bob Bwrdd Iechyd adrodd ar y rhain ac mae'r data'n cael eu dadansoddi a'u cyhoeddi gan y Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yng Nghymru. Cafodd y saith cynllun eu
hadolygiad diweddaraf gan y Rhaglen a Llywodraeth Cymru yn 2014.
Mae C. difficile a S. aureus (MRSA ac MSSA) wedi cael cryn sylw. Mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd
adrodd ar gyfraddau nifer yr achosion yn fisol. Ym mis Ebrill 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru darged i leihau cyfradd yr heintiau C. difficile ac MRSA llif y gwaed dros y 18 mis nesaf i 50 y cant yn is na chyfradd 2012/13.
Er na chyflawnwyd y targed, fe ostyngwyd y cyfraddau gan 31 y cant ac 11 y cant.
Cytunwyd ar ddisgwyliadau newydd ar gyfer y gostyngiadau hyd at fis Mawrth 2017.
Cynhelir yr arolwg nifer yr achosion nesaf ar gyfer Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd a'r defnydd o wrthficrobau yn hwyrach yn 2016 fel rhan o'r arolwg ledled yr UE sy'n cael ei gydlynu gan y
Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau. Dylai cymhariaeth ag arolwg 2011 fod yn ddull i fesur effeithiolrwydd ymyriadau ac ymdrechion i leihau Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd dros y 5 mlynedd diwethaf.