Hawliau Plant yng Nghymru: newidiadau mawr at y dyfodol

Cyhoeddwyd 24/02/2022   |   Amser darllen munudau

Mae mwy na deng mlynedd bellach ers i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiad clir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn drwy ei Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Tra bod cwestiynau’n parhau ynghylch pa wahaniaeth y mae’r gyfraith hon yn ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc, mae newidiadau mawr i ddod.

Eleni bydd Cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, newidiadau i'r gyfraith ynghylch cosb gorfforol, ail Senedd Ieuenctid yng Nghymru a Chomisiynydd Plant newydd. Y cysylltiad cyffredin rhwng y newidiadau hyn yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei hun a’i effaith uniongyrchol ar y gyfraith a pholisi cyhoeddus yng Nghymru.

Yn yr erthygl hon edrychwn ar yr hyn sydd ar y gweill.

Cynllun cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae Erthygl 4 o'r Confensiwn yn dweud bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pob plentyn yn gallu mwynhau ei hawliau. Mae hyn yn cynnwys creu systemau a phasio deddfau sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn yr hawliau hynny. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi annog y DU a’r llywodraethau datganoledig i fabwysiadu cynlluniau gweithredu cynhwysfawr ar gyfer rhoi’r Confensiwn ar waith sy’n seiliedig ar ddull gweithredu ‘hawl y plentyn’.

Ar 1 Mawrth rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc newydd yng Nghymru. Mae'r Cynllun yn debygol o ddwyn ynghyd amrywiaeth o ymrwymiadau presennol Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud:

I sicrhau bod yr holl weithgarwch polisi sy’n digwydd mewn perthynas â phlant ar draws Llywodraeth Cymru yn gydlynus, cafodd Cynllun i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru ei ddatblygu, gan adeiladu ar ein hymrwymiad i hawliau plant, gyda’r nod o gyflawni ymrwymiadau perthnasol yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae rhanddeiliaid wedi bod yn gofyn beth a fyddai’n disodli’r Rhaglen i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2015. Felly mae'r cyhoeddiad yn debygol o gael ei groesawu mewn egwyddor gan sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru ac ar eu cyfer. Rhaid sylwi ar y manylion, fodd bynnag, ac ar 1 Mawrth dylem ddarganfod i ba raddau y mae’r Cynllun hwn ynddo’i hun yn defnyddio dull gweithredu ar sail hawl y plentyn, gan gynnwys:

  • Sut mae plant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn natblygiad y Cynllun.
  • I ba raddau y mae'r Cynllun cenedlaethol newydd hwn yn cynnwys 'canlyniadau' mesuradwy ar gyfer plant a phobl ifanc y gellir ei ddwyn i gyfrif amdanynt.
  • Sut mae’n rhoi ar waith y cyfrifoldeb cyfreithiol sydd ar holl Weinidogion Cymru ar draws portffolios y cabinet i roi sylw dyledus i hawliau plant ym mhopeth a wnânt.

‘Moment hanesyddol’

O 21 Mawrth 2022 bydd pob cosb gorfforol i blant yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn galw hon yn “foment hanesyddol i hawliau plant yng Nghymru”.

Mae Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, cam-drin, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt. Ar y sail honno, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw’n gyson am i “bob cosb gorfforol yn y teulu” gael ei wahardd fel mater o flaenoriaeth yn y DU, “gan gynnwys drwy ddiddymu pob amddiffyniad cyfreithiol, fel ‘cosb resymol’”.

Er bod testun Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn fyr, nid oedd swm y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y gwaith craffu yn y Senedd yn fyr. Beth bynnag fo eich barn yn y ddadl hon, ni ellir anghytuno bod y newid hwn yn y gyfraith yn garreg filltir gyfreithiol arwyddocaol yng Nghymru. Mae ymgyrch wybodaeth y Llywodraeth wedi hen ddechrau. Mae ymgyrchwyr yn erbyn y gyfraith newydd yn parhau’n uchel eu cloch o ran eu gwrthwynebiad. Bydd yn rhaid inni aros i weld sut y bydd y newid hwn yn cael ei weithredu ledled Cymru yn yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Ail Senedd Ieuenctid Cymru yn nodi ei blaenoriaethau

Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i’w farn gael ei hystyried o ddifrif. Yn ei ddyfarniad ar hawliau’r plentyn yng Nghymru yn 2016, mynegdd y Cenhedloedd Unedig bryder nad yw safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn systematig wrth lunio polisïau ar faterion sy'n effeithio arnynt, a nododd nad oes senedd ieuenctid yng Nghymru. Argymhellodd y dylid sefydlu Senedd Ieuenctid fel blaenoriaeth.

Gweithredwyd yn hyn o beth gan Gomisiwn y Senedd, a chanolbwyntiodd Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; sbwriel a gwastraff plastig; a chymorth emosiynol ac iechyd meddwl. Cynhaliodd ail Senedd Ieuenctid Cymru ei chyfarfod cyntaf ar 19 Chwefror 2022. Cytunodd yr aelodau o’r Senedd Ieuenctid ar eu blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, sy'n cynnwys:

Sleid oren gyda thair blaenoriaeth wedi'u rhestru: ein hiechyd meddwl a’n lles; yr hinsawdd a'r amgylchedd; addysg a’r cwricwlwm ysgol.

Mae blaenoriaethau amlwg ar draws y ddwy senedd ieuenctid. Yr hyn na wyddys ar hyn o bryd yw, faint o newid y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ei gyflawni yn y meysydd polisi blaenoriaeth hyn, ac i ba raddau felly y bydd hawliau plant a phobl ifanc a nodir yn Erthygl 12 yn cael eu gwireddu.

Comisiynydd Plant newydd ar gyfer Cymru

Gan edrych ymlaen at fis Ebrill, mae newid mawr o ran pwy sy’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar hawliau plant. Rocio Cifuentes fydd pedwerydd Comisiynydd Plant Cymru.

Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant. Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer ei swyddogaethau.

Mae’n siŵr y daw beth fydd blaenoriaethau’r Comisiynydd newydd a sut y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses o’u llunio yn amlwg yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Datgelir wedyn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dewis ymateb.

Hawliau plant o dan y chwyddwydr

Mae rhai o'r newidiadau a amlinellir yn yr erthygl hon yn debygol o gael llawer mwy o sylw yn y cyfryngau nag eraill. Mae pob newid, fodd bynnag, yn debygol o fod yn rhan o waith craffu’r Senedd wrth i ragor o fanylion ddod i’r amlwg. Gallwch wylio datganiad y Dirprwy Weinidog am y 'Cynllun Plant a Phobl Ifanc' ar 1 Mawrth 2022 yma, ar Senedd.TV.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru