Merch yn tynnu llun

Merch yn tynnu llun

Hawliau plant: mater gwleidyddol pwysig unwaith eto

Cyhoeddwyd 14/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/01/2021   |   Amser darllen munudau

Flwyddyn yn ôl fe fyddai hi wedi bod yn amhosibl dychmygu y byddai pryderon ynghylch plant yn methu â mynd i mewn i’w hysgolion yn fater gwleidyddol mor bwysig.

Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn dweud bod gan bob plentyn yr hawl i addysg. Ynghyd â hawliau eraill, fel yr hawl i chwarae a’r hawl i iechyd corfforol ac iechyd meddwl da, daeth yn rhan o gyfraith Cymru yn 2011.

Yr wythnos nesaf, bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod a yw’r gyfraith hon, sef y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad ac adroddiad (1.45MB) gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Ar adeg pan mae UNICEF wedi cyhoeddi rhybudd byd-eang o niwed parhaus i ddysgu a lles wrth i nifer y plant sy’n cael eu heffeithio yn sgil cau ysgolion godi unwaith eto, mae’n amserol bod y Senedd yn edrych ar hawliau plant,

Beth yw’r gyfraith yng Nghymru?

Yn 2011, derbyniodd Llywodraeth Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol am gyflwyno’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)– deddf sy’n golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi ‘sylw dyledus’ i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ym mhopeth y mae’n ei wneud. Mae’r gyfraith hon yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun i ddweud sut y bydd yn gwneud hyn yn ymarferol. Mae newydd gyhoeddi cynllun drafft (291KB) newydd er mwyn cael adborth arno.

Mae’r UNCRC yn cynnwys 54 o erthyglau sy’n nodi amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden.

Beth oedd dyfarniad y Pwyllgor?

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru (1.45MB) ym mis Awst 2020 ochr yn ochr â fersiwn sy’n addas i blant (275KB) o’r adroddiad. Daeth i’r casgliad bod ‘cynnydd i’w wneud o hyd’ gan ddweud:

Clywsom rwystredigaeth glir gan randdeiliaid ynglŷn â chyflymder y Mesur wrth ddylanwadu ar bolisi a gwariant. Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a’u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Mae rhai o’r dulliau a roddwyd ar waith i helpu i weithredu’r ddeddfwriaeth hon, megis Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant, yn cael eu cynhyrchu’n llawer rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi. Mae hyn yn dangos i ni nad yw hawliau plant yn sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn unol â’r ddeddfwriaeth a fwriadwyd.

Roedd y Pwyllgor yn bendant bod ‘rhaid rhoi pwyslais o’r newydd ar sicrhau bod y Mesur hwn yn cael ei weithredu’n iawn’. Gwnaeth 16 o argymhellion, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am yr UNCRC. Dywedodd hefyd y byddai ymestyn y dyletswyddau yn y Mesur i gyrff fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn helpu i sicrhau newid go iawn.

Yn ei hymateb (717KB) derbyniodd Llywodraeth Cymru 11 o argymhellion yn llawn, derbyniodd un ‘mewn egwyddor’ a gwrthododd bedwar.

Dyfarniad y Cenhedloedd Unedig

Bob pum mlynedd mae’r Cenhedloedd Unedig ei hun yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn y DU wrth ddarparu hawliau plant a phobl ifanc. Yn 2021, bydd y Cenhedloedd Unedig yn adrodd am y chweched tro a bydd ei ddyfarniad yn seiliedig ar dystiolaeth gan y DU a llywodraethau datganoledig; pob un o bedwar Comisiynydd Plant y DU; adroddiadau cenedlaethol gan sefydliadau anllywodraethol yn ogystal â thystiolaeth a ddarperir gan blant a phobl ifanc. Adroddodd sector cyrff anllywodraethol Cymru i’r Cenhedloedd Unedig ym mis Rhagfyr 2020. Mae adroddiad ar y cyd Comisiynwyr y DU i’r UNCRC hefyd wedi’i gyhoeddi.

Coronafeirws a hawliau plant

Mae argyfwng y coronafeirws wedi rhoi sylw yn anfwriadol i hawliau plant. Gydag ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, caeau chwarae ar gau, cyfleoedd i gymdeithasu wedi dod i ben a phryderon gwirioneddol am les ac iechyd meddwl plant. Casglodd y Pwyllgor ei dystiolaeth ar hawliau plant cyn pandemig y coronafeirws. Ers hynny mae wedi cadw llygad barcud ar ystod eang o faterion yn ei ymchwiliad parhaus i effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc.

Gallwch wylio Aelodau o’r Senedd yn trafod canfyddiadau’r Pwyllgor a materion eraill yn effeithio ar blant a phobl ifanc ar Senedd TV dydd Mercher 20 Ionawr 2021.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru