Hawliau dynol, Brexit a Chymru

Cyhoeddwyd 16/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2020   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn ymchwilio i effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar hawliau dynol yng Nghymru. O gymharu ag amaethyddiaeth neu gronfeydd strwythurol, efallai nad mater hawliau dynol yw'r pwysicaf i'w drafod mewn perthynas â Brexit o ran Cymru, ond canfu'r Pwyllgor nifer o faterion pwysig, o amddiffyniad cyfreithiol i gyllid y trydydd sector.

Ond nid yw mater hawliau dynol wedi'i ddatganoli...

Llun o risiau gyda gwahanol hawliau dynol wedi’u hysgrifennu mewn calchEr nad yw mater hawliau dynol wedi'i ddatganoli, mae Cymru wedi meithrin agwedd sy'n gynyddol wahanol i'r DU ar y pwnc ers datganoli. Enghraifft o hyn yw'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi 'sylw dyledus' i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) wrth wneud eu penderfyniadau.

Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE

Un o'r prif bryderon am effaith Brexit ar hawliau dynol yw'r posibilrwydd y gallem golli Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE. Mae eglurhad o'r Siarter mewn iaith glir ar gael oddi wrth RightsInfo.

Os aiff Bil Ymadael â'r UE rhagddo fel y'i cynlluniwyd, ni fydd yn rhaid i'r DU gydymffurfio â'r Siarter wrth wneud deddfau a phenderfyniadau gweinyddol mewn meysydd a oedd gynt o fewn cymhwysedd yr UE, megis amddiffyn hawliau defnyddwyr neu weithwyr. Mae'r Siarter yn cynnwys hawliau heblaw'r rhai yn y Ddeddf Hawliau Dynol (yn benodol mae'n cynnwys llawer o hawliau cymdeithasol ac economaidd, nad ydynt yn cael eu cydnabod yn llawn yn neddfau'r DU), sy'n cynnwys:

  • amrywiaeth o hawliau cymdeithasol a hawliau gweithwyr yn Teitl IV, gan gynnwys yr hawl i amodau gwaith teg, amddiffyniad rhag diswyddo anghyfiawn, a mynediad at ofal iechyd, cymorth cymdeithasol a thai;
  • gwarant o urddas dynol (gan gynnwys bioetheg), a
  • hawl i ddidwylledd corfforol a meddyliol (gan gynnwys hawliau o ran data personol).

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor, amlinellodd y Dr Tobias Lock dri chanlyniad o gael gwared ar y Siarter o orchymyn cyfreithiol y DU: gostyngiad mewn hawliau, colli rhwymedïau cyfraith yr UE, a cholli'r gallu i ddinasyddion y DU (a'r DU ei hun) herio cyfraith yr UE sy'n amharu ar hawliau dynol.

Mae rhai sefydliadau fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn pryderu y bydd rhai hawliau nad ydynt yn cael eu diogelu gan y Ddeddf Hawliau Dynol yn cael eu colli pan fydd Siarter yr UE yn colli'i effaith yn y DU.

Yn ddiweddar, galwodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o ymgorffori Siarter yr UE ar Hawliau Sylfaenol yn neddfwriaeth Cymru, er mwyn ymrwymo Llywodraeth Cymru yn wirfoddol i'w egwyddorion.

Parhau â chyfraith yr UE ar hawliau dynol ar ôl Brexit

Ni fyddai'n rhaid i'r DU weithredu deddfau'r UE a ddaw i rym ar ôl Brexit, ac mae rhai ohonynt yn cynyddu'r amddiffyniad rhag gwahaniaethu. Disgrifiodd yr Athro Thomas Glyn Watkin amddiffyn hawliau dynol yn y DU ar y diwrnod ymadael fel 'ffrâm yn rhewi', tra byddai'r amddiffyniad yng ngwledydd yr UE yn cynyddu'n gynt nag yn y DU.

Cyfeiriodd Anabledd Cymru ac RNIB Cymru at amryw ddeddfau'r UE ar gyfer hygyrchedd pobl anabl sy'n debygol o ddod i rym ar ôl Brexit, fel Deddf Hygyrchedd yr UE, Cyfarwyddeb Gwe'r UE a rheoliadau ar hygyrchedd wrth deithio ar awyrennau a bysiau. Ni fydd pobl y DU yn elwa ar y rhain.

Cyllid yr UE ar gyfer y trydydd sector ac ymchwil

Tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sylw at y ffaith y gallai Cymru golli arian ar gyfer gweithgareddau cydraddoldeb a hawliau dynol yn y trydydd sector a'r sectorau academaidd yn sgil Brexit. Cafwyd awgrymiadau y gallai unrhyw gwtogi ar y cyllid effeithio ar grwpiau penodol o bobl, gan fod cyllid yr UE yn canolbwyntio ar faterion penodol. Ymhlith y prosiectau presennol a ariennir gan yr UE a gymeradwywyd yng Nghymru mae prosiectau i leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc, cynorthwyo pobl anabl i gael gwaith a chynyddu cydraddoldeb economaidd menywod.

Yn ddiweddar argymhellodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau y dylai unrhyw ffrydiau ariannu olynol i gefnogi datblygu rhanbarthol fod yn ddarostyngedig i'r un gofynion gorfodol â'r rhai sy'n cael cyllid yr UE ar hyn o bryd, megis mynd i'r afael â phroblemau fel cydraddoldeb, tlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru.

Hawliau plant

Dywedodd yr Athro Hoffman fod yr UE yn flaenllaw wrth eiriol ar ran hawliau plant, yn enwedig ym maes diogelwch ac amddiffyn plant, trwy bolisi a deddfwriaeth ar gyfraith teulu, amddiffyn plant rhag camdriniaeth a cham-fanteisio, pornograffi plant, masnachu plant, lloches a mewnfudo, a phlant ifanc ar eu pennau eu hunain.

Nododd hefyd y gallai unrhyw eithrio o gyrff plismona a chyrff barnwrol fel Eurojust a Europol (sy'n cydlynu ymchwiliadau ac erlyniadau ar draws gwledydd yr UE, gan gynnwys troseddau sy'n ymwneud â phlant fel masnachu a chamfanteisio) gael effeithiau niweidiol iawn ar blant agored i niwed.

Mae cyfraith cydraddoldeb y DU yn un o ofynion yr UE

Dadl arall a gyflwynwyd yn ystod yr ymchwiliad oedd bod cyfraith yr UE ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i'r DU fod â deddfau domestig penodol yn ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb. Ar ôl Brexit, ni fydd unrhyw ofyniad o'r fath. Roedd tystion megis yr EHRC yn pryderu y gallai Llywodraeth y DU wedyn addasu neu ddiddymu cyfreithiau fel Deddf Cydraddoldeb 2010 pe byddai'n dymuno hynny. Byddai'r hyn a wneir gan Lywodraeth y DU yn effeithio'n uniongyrchol ar Gymru, gan nad yw'r Ddeddf wedi'i datganoli (ac eithrio dyletswyddau cydraddoldeb penodol y sector cyhoeddus).

Y posibilrwydd o gyflwyno deddf hawliau dynol yng Nghymru

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd yr Athro Simon Hoffman fod Brexit yn gyfle i gyflwyno deddf hawliau dynol newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio'r egwyddor 'sylw dyledus' a ddefnyddir yn y Mesur hawliau plant. Mae'n dadlau y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu awdurdodau cyhoeddus Cymru roi sylw dyledus i gytundebau rhyngwladol eraill (er enghraifft, y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), neu'r Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau (CRPD)).

Hefyd, dywedodd yr Athro Hoffman wrth y Pwyllgor y byddai deddf hawliau dynol Cymru yn bosibl o dan Ddeddf Cymru 2017 pan ddaw'r model 'cadw pwerau' i rym ym mis Ebrill 2018. Dywedodd, er nad oes cymhwysedd i lunio cytundebau hawliau dynol, nad yw dilyn a gweithredu ymrwymiadau a chyfrifoldebau o dan y Confensiwn Hawliau Dynol yn faterion a gedwir yn ôl.

Y Confensiwn Hawliau Dynol yn y cyd-destun hwn yw'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (OCHR), a fydd yn parhau mewn grym yn y DU ar ôl Brexit, cyn belled â bod y DU yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Ewrop (sefydliad gwahanol i'r UE a'r Cyngor Ewropeaidd).#


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr gan University of Essex. Dan drwydded Creative Commons.