Prif ddelwedd yr erthygl yw delwedd lloeren lliw o Gulfor Hormuz

Prif ddelwedd yr erthygl yw delwedd lloeren lliw o Gulfor Hormuz

Gwrthdaro yn Iran: Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ymateb i'w effeithiau?

Cyhoeddwyd 22/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2026

Fel pob gwlad, nid yw Cymru yn rhydd rhag datblygiadau byd-eang.

Ym mis Chwefror 2026, fe wnaeth Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog ar y pryd rybuddio am sgil-effeithiau’r gwrthdaro yn Iran yng Nghymru. O fewn pythefnos, dywedodd fod “[yr] effaith yn real, ac mae'n digwydd eisoes”. 

Mae'r erthygl hon yn dilyn dwy erthygl oedd yn ymdrin ag ymateb cychwynnol Llywodraeth flaenorol Cymru a’r camau yr oedd yn eu cymryd mewn meysydd fel cynllunio argyfyngau sifil a gweithio gyda llywodraethau eraill.

Effeithiau domestig

Mae'r ansicrwydd ynghylch hyd a difrifoldeb y gwrthdaro, a sut y bydd hyn yn effeithio ar y cyflenwad ynni a masnach fyd-eang, yn ei gwneud hi'n anodd rhagweld effeithiau yn y dyfodol ar ddwy o elfennau mwyaf arwyddocaol y rhyfel o safbwynt Cymru - chwyddiant a chostau byw.

Costau byw

Mae Banc Lloegr wedi awgrymu ystod o senarios economaidd posibl, sy'n dibynnu ar raddfa'r sioc prisiau ynni a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar chwyddiant trwy gynnydd mewn prisiau a chyflogau. Mae'r rhain yn amrywio o sioc pris ynni cymharol fyrdymor i sioc fawr a pharhaus gydag effeithiau economaidd mwy difrifol.

Dywed Consortiwm Manwerthu Prydain fod manwerthwyr bwyd yn amsugno costau ychwanegol sylweddol o’r gwrthdaro, ac y bydd y pwysau hyn yn anochel yn gweithio’i ffordd drwodd i’r til dros y misoedd nesaf. Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod yn amcangyfrif mai 9-10% fydd chwyddiant prisiau bwyd erbyn diwedd 2026, gyda phrisiau bwyd eisoes bron 40% yn uwch nag yn gynnar yn 2020.

Ar 19 Mai, dywedodd y Financial Times fod Trysorlys y DU fod archfarchnadoedd wedi annog archfarchnadoedd i gyfyngu ar brisiau bwyd, dywedodd Dan Tomlinson, Ysgrifennydd y Trysorlys, y diwrnod canlynol na fyddai gorfodaeth ar archfarchnadoedd i gapio prisiau.

Biliau ynni

Mewn taflen ffeithiau ynglŷn ag Iran, y Dwyrain Canol, ac ynni'r DU, rhybuddiodd Llywodraeth y DU y gallai biliau ynni gynyddu ar ôl i gap prisiau ynni y DU o £1,641 y flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin. Roedd y cap wedi gostwng £117 yn y cyfnod tri mis blaenorol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar ragfynegiadau cyfartalog gan dri phrif gyflenwr ynni, mae Money Saving Expert yn rhagweld y bydd y cap prisiau nesaf yn codi oddeutu 13%, hyd at £1,853. Caiff y ffigurau swyddogol eu cyhoeddi ar 27 Mai 2026.

Nid yw’r cap yn diogelu tanwydd oddi ar y grid, felly mae hyn yn cael effaith arbennig ar ardaloedd gwledig fel Ceredigion a Phowys, lle mae'r ganran uchaf o gartrefi oddi ar y grid. Mae tua 100,000 (7%) o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar olew gwresogi, gyda’i bris yn dyblu bron dros y ddau fis diwethaf, gan arwain at etholwyr yn cysylltu ag Aelodau cyn etholiad mis Mai.

Fe wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru annog y rheini oedd â phryderon i gysylltu â Nyth, ei  gwasanaeth cyngor ynni am ddim am gymorth. Dywedodd y gall y gwasanaeth hwn hefyd gyfeirio at gymorth arall fel Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n darparu taliadau untro am danwydd i'r rhai mewn angen. 

Yn ddiweddarach, cyhoeddodd gymorth penodol. Mae aelwydydd sy'n derbyn cymorth Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG i wresogi eu cartref yn gymwys i gael taliad o £200. Gall aelwydydd eraill sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol os ydynt mewn caledi ariannol difrifol, gyda'r uchafswm cymorth sydd ar gael yn cynyddu o £500 i £750 a’r cyfyngiadau’n newid i ganiatáu i bobl wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.

Prisiau tanwydd

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi prisiau tanwydd ffyrdd ar ei gwefan bob wythnos

Ar 18 Mai, roedd litr o disel yn costio £1.87 ar gyfartaledd, o'i gymharu â £1.42 cyn i'r gwrthdaro ddechrau (cynnydd o 32%). Yn yr un modd, roedd litr o betrol di-blwm yn costio £1.57 ar 18 Mai, o'i gymharu â £1.32 cyn y gwrthdaro (cynnydd o 19%).

Mae'r BBC wedi adrodd am cynnydd o 62% mewn lladradau tanwydd yn y DU, gan gynnwys tri lladrad tanwydd mewn chwe wythnos mewn garej yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU oedi cynlluniau i gynyddu'r dreth tanwydd gan 5c y litr oherwydd y gwrthdaro yn gynharach yr wythnos hon. Bydd y gyfradd ostyngedig, a gyflwynwyd mewn ymateb i oresgyniad llawn Rwsia o Wcráin, yn parhau i fod ar waith tan ddiwedd y flwyddyn.

Pobl yn dychwelyd ac yn ceisio diogelwch

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn arbennig o bryderus am ddiogelwch pobl o Gymru a staff Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth.

Ar ddechrau mis Mawrth 2026, roedd 300,000 o ddinasyddion Prydeinig ar draws Iran a’r rhanbarth ehangach, gan gynnwys trigolion, teuluoedd, pobl ar eu gwyliau ac eraill. Fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bod yn anfon timau cymorth i helpu'r rhai oedd angen gadael, a’i bod yn archwilio pob opsiwn i helpu ein dinasyddion i ddychwelyd adref mor gyflym a diogel â phosibl. Erbyn 17 Mawrth, fe wnaeth nifer y dinasyddion Prydeinig oedd wedi hedfan yn ôl o'r rhanbarth ers dechrau'r rhyfel, a ddechreuodd ar 28 Chwefror, gyrraedd 100,000.

Adroddodd yr UNHCR (Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig) ym mis Mawrth fod 3.2 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli dros dro o fewn Iran oherwydd y gwrthdaro. Yn wahanol i achosion eraill o wrthdaro eraill yn y rhanbarth, fel yn Syria, ac Afghanistan, nid yw Llywodraeth y DU wedi creu llwybr arbennig i ffoaduriaid o Iran ddod i'r DU. Mae wedi addo £15 miliwn i bobl agored i niwed y mae gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi effeithio arnynt.

Mae’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol wedi rhybuddio y gallai mwy o bobl geisio cyrraedd y DU. Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd yr yr Arsyllfa Ymfudo ddadansoddiad sy'n dangos mai Iraniaid oedd y genedligrwydd mwyaf cyffredin ymhlith ceiswyr lloches yn y DU yn y 10 mlynedd diwethaf.

Senedd yn paratoi drwy basio deddfwriaeth tai

Ym mis Mawrth, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth i'w gwneud yn haws i bobl yn cyrraedd o'r rhanbarth gael mynediad at gymorth digartrefedd a thai pe bai’r Swyddfa Dramor yn cyhoeddi gorchymyn ymgilio. Mae unigolion cymwys yn ddinasyddion Prydeinig neu'n unigolion, yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros ynddi gyda mynediad at arian cyhoeddus. Roedd y penderfyniad yng Nghymru yn golygu ei bod yn cyd-fynd â threfniadau'r DU.

Daeth y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 i rym ar 30 Mawrth 2026, a hynny am flwyddyn. Mae'r newidiadau wedi'u cyfyngu i geisiadau a ddaw i law o fewn chwe mis o ddyddiad y gorchymyn ymgilio, neu o ddiwrnod cyntaf ymgilio, pa un bynnag sydd hwyrach. Hyd yn hyn, ni wnaed gorchymyn ymgilio.

Cymerodd Llywodraeth flaenorol Cymru gamau tebyg mewn ymateb i oresgyniad llawn Rwsia o Wcráin a'r gwrthdaro rhwng Israel a Gaza

Dewisiadau pwysig i Lywodraeth newydd Cymru a'r Senedd

Er bod rhai arwyddion bod pethau’n tawelu, mae'r gwrthdaro, sydd bellach yn ei drydydd mis, yn parhau i gael effeithiau difrifol a phellgyrhaeddol.

Daeth Rhun ap Iorwerth AS yn Brif Weinidog ar 12 Mai 2026. Yn rhinwedd ei swydd fel Arweinydd Plaid Cymru cyn hynny, galwodd am feto seneddol ar unrhyw gyfraniad milwrol gan y DU yn Iran ar ddau achlysur, ym mis Mehefin 2025 ac ym mis Mawrth 2026. Hefyd, llofnododd Ddatganiad Barn gan y Senedd ar brotestiadau a ddigwyddodd yn Iran yn gynharach eleni, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol gan 27 o’r 60 o Aelodau.

Bydd y ffordd y mae'r Prif Weinidog yn cydbwyso ei flaenoriaethau rhyngwladol gyda'r Unol Daleithiau, sy’n bartner rhyngwladol o bwys i Gymru, yn ffactor allweddol yn ei waith. O'r gwladwriaethau sy'n rhan o'r gwrthdaro, dyma yw partner masnachu mwyaf Cymru o bell ffordd, gyda nwyddau a fasnachwyd yn 2025 yn werth £6.6bn (bron 17% o gyfanswm gwerth y nwyddau o Gymru a fansachwyd yn rhyngwladol). Mae'r Unol Daleithiau hefyd wedi bod yn gyson ymhlith ein ffynonellau mewnfuddsoddi mwyaf ers dros ddegawd, ac mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau hanesyddol, megis ei phum swyddfa yn yr Unol Daleithiau

Mae gan Lywodraeth newydd Cymru a'r Senedd newydd ddewisiadau pwysig i'w gwneud o ran eu hymatebion i ddatblygiadau rhyngwladol a fydd yn cael canlyniadau bywyd go iawn. Wrth i'r Senedd ddechrau’i gwaith ar ôl yr etholiad, byddwn yn cyhoeddi diweddariadau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Erthygl gan Sara Moran, Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru