cy

cy

“Gwella bywyd i blant yng Nghymru”

Cyhoeddwyd 12/10/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma uchelgais datganedig Comisiynwyr Plant Cymru, a'u prif nod yw diogelu a hybu hawliau a llesiant plant. Yn ei hail Adroddiad Blynyddol fel Comisiynydd, mae Rocio Cifuentes yn mynegi ei barn am yr hyn y mae 2022-23 wedi’i olygu i hawliau plant yng Nghymru a beth arall sydd angen ei wneud.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael dweud eu dweud ar yr amrywiaeth eang o faterion polisi sy’n cael eu codi yn yr adroddiad pan gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf (17 Hydref).

Trowch yr hawliau ymlaen

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn cynnwys 54 erthygl. Mae'r rhain yn pennu amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi 'sylw dyledus' i CCUHP ym mhopeth a wnânt.

Felly, mae'r adroddiad yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar draws ystod eang o feysydd polisi. Mae'r rhain yn cynnwys iechyd meddwl, diogelu, tai, chwilio plant a phobl ifanc yn noeth, gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, cymorth i ddysgwyr anabl, gwaharddiadau o’r ysgol, addysgu gartref, gwasanaethau ieuenctid, fêpio a gofal iechyd.

Mae rhai o’r argymhellion niferus ar gyfer newid y mae Rocio Cifuentes yn galw amdanynt yn cynnwys yr angen i:

  • Lywodraeth Cymru “bwyso am fesurau cliriach a chryfach” i fynd i’r afael â thlodi plant;
  • “gynnwys ymrwymiad i beilot trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant a phobl ifanc o dan 18 oed yn y tymor Senedd hwn”;
  • “sefydlu ‘system Cymru gyfan o adrodd a chasglu data a fydd yn casglu data yn benodol mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu, gan gynnwys ar sail nodweddion gwarchodedig”; a
  • “chyhoeddi map manwl o’r holl gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â Diwygio Rhaglen Gofal Cymdeithasol Plant yn Radical, gan gynnwys symud ymlaen gyda’r camau a gymerwyd yng nghyswllt amddiffyn a diogelu plant. Dylai hyn gael ei seilio ar derfynau amser a dangosyddion deilliannau”.

Gobeithion i Gymru

Mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn am bethau sy'n effeithio arnynt ac i’w barn gael ystyriaeth pan wneir penderfyniadau. Yn ei hadroddiad, mae'r Comisiynydd yn cyfeirio at y bron i 9,000 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru a gymerodd ran yn arolwg Gobeithion i Gymru y Comisiynydd.

Mae’r Comisiynydd yn dweud bod yr ymatebion i’r arolwg hwn yn sail i’w dogfen "Gwella bywyd i blant yng Nghymru”. Mae’n nodi ei dull dros y tair blynedd nesaf:

Diagram gyda sgwariau lliwgar yn nodi pedwar amcan y Comisiynydd.

Mae’r ddogfen hefyd yn nodi blaenoriaethau polisi’r Comisiynydd ar gyfer 2023-26, sef:

  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ymadfer yn dda wedi pandemig Covid-19;
  • Iechyd meddwl plant a phobl ifanc a mynd ar ôl y model Dim Drws Anghywir;
  • Cynnull uwch-gynhadledd genedlaethol flynyddol ar dlodi plant i herio a dylanwadu ar y Llywodraeth a gwasanaethau ynghylch camau sy’n ymwneud â thlodi plant;
  • Effeithiolrwydd a chysondeb gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws Cymru;
  • Canfod pam nad yw’r canllawiau statudol fel petaen nhw’n taclo bwlio mewn ysgolion;
  • Archwilio anghydraddoldeb mwy cyffredinol, gan gynnwys anabledd, hil a LHDTC+;
  • Llety i blant a’u teuluoedd: ble mae plant yn byw yng Nghymru?;
  • Taclo diffyg darpariaeth gwasanaethau allweddol, gan gynnwys ysgolion arbenigol a lleoliadau addysg; ac
  • Ymdrin ag arfer anghyson mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yng nghyswllt gwiriadau DBS a gweithredu cyngor arfer gorau Estyn mewn perthynas â hyn.

Tlodi plant: Y mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru

Mae’r Comisiynydd yn dweud mai tlodi plant yw’r “mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru” ac mae wedi dweud eisoes bod strategaeth tlodi plant ddrafft Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg uchelgais. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun gweithredu tlodi plant gyda fframwaith monitro clir â thargedau amser penodol a mesuradwy. Mae barn y Comisiynydd yn adleisio'r ‘pryder dwys’ a fynegwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ynglŷn â'r ‘nifer fawr o blant sy'n byw mewn tlodi, ansicrwydd bwyd a digartrefedd’ ledled y DU.

Erbyn 2027-28 mae'r felin drafod Resolution Foundation yn disgwyl i dlodi plant y DU fod ar ei gyfradd uchaf ers 30 mlynedd. Rydym yn gwybod eisoes bod 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol; o ystyried ei effaith ar addysg, iechyd a rhagolygon gwaith yn y dyfodol plant, nid yw'n syndod bod y mater yn denu sylw gwleidyddol unwaith eto.

Gallwch wylio Aelodau o'r Senedd yn trafod adroddiad y Comisiynydd a hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru ar Senedd TV ddydd Mawrth 17 Hydref.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru