- Gweithle GIG Cymru: Prif themâu a thueddiadau (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Ionawr 2015)
- Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG. Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys data ar staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru (ar 30 Medi 2013).
- Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf ar Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yng Nghymru yn darparu data ar dueddiadau gweithlu meddygon teulu dros gyfnod o ddeg mlynedd rhwng 2003 a 2013.
- Yn ei chynllun ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru (Tachwedd 2014), dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cynllun datblygu gweithlu gofal sylfaenol yn cael ei ddatblygu erbyn mis Mawrth 2015.
- Mae adroddiad Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (Medi 2014) yn disgrifio model yn y dyfodol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth.
- Comisiynodd Llywodraeth Cymru ‘adolygiad o fuddsoddi mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol’, sy’n edrych ar a yw’r buddsoddiad mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol yn darparu’r gweithlu sydd ei angen. Disgwylir i’r gwaith hwn adrodd yn y dyfodol agos.
- Roedd adolygiad shape of training (Saesneg yn unig) gan yr Athro Greenaway (2013) yn edrych ar ddiwygiadau posibl i strwythur addysg a hyfforddiant meddygol i ôl-raddedigion ledled y DU. Un o brif negeseuon yr adroddiad yw bod angen mwy o feddygon sydd â’r gallu i ddarparu gofal cyffredinol mewn meysydd arbenigol eang ac mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud o’r blaen bod Llywodraeth Cymru yn trafod â Llywodraeth y DU ac â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn cytuno sut i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.