Gweithiwr cymorth yn siarad â rhywun gartref

Gweithiwr cymorth yn siarad â rhywun gartref

'Gwaith gwyrthiol dan bwysau': gwasanaethau cymorth tai i bobl agored i niwed

Cyhoeddwyd 06/10/2025

Mae gwasanaethau cymorth tai yn rhan hanfodol o’r system ddigartrefedd yng Nghymru, ond un nad ydym yn ei gwerthfawrogi ddigon, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae pwysau ar y gweithlu, oherwydd cyflogau isel a gorflinder ymysg staff, wedi cyrraedd lefel mor ddifrifol nes bod rhai gweithwyr cymorth eu hunain yn wynebu digartrefedd, tra'n helpu i atal digartrefedd i bobl eraill.

Yn ystod yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i gymorth tai i bobl agored i niwed, bu’r Pwyllgor yn archwilio’r gwasanaethau a gyllidir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cymorth Tai.

Cyn dadl yn y Senedd ddydd Mercher 8 Hydref, mae'r erthygl hon yn trafod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt hyd yma.

‘Gorfod gwneud penderfyniadau sy’n fater o fywyd neu farwolaeth ar eu pen eu hunain a dim ond ceiniogau maen nhw’n eu cael’

Nid yw gweithwyr cymorth tai, sy’n aml yn cael eu camgymryd am weithwyr gofal, yn rhan o’r system gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid ydynt yn gweithio ym maes tai â chymorth yn unig.

Maent yn gweithio gyda thua 60,000 o bobl y flwyddyn, a’u prif nod yw atal pobl rhag dod yn ddigartref, sefydlogi sefyllfaoedd pobl o ran tai a helpu pobl sy’n agored i fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a chadw’r llety hwnnw.

Darperir rhai gwasanaethau cymorth tai ar sail 'cymorth lle bo’r angen' o fewn y gymuned, tra bod gwasanaethau eraill yn cael eu darparu mewn llety â chymorth 'sefydlog', categori eang sy'n cynnwys hosteli i'r digartref, llety i bobl ifanc, canolfannau adsefydlu preswyl, tai gwarchod a llochesi cam-drin domestig.

Canfu gwaith ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Alma Economics fod gwasanaethau’r Grant Cymorth Tai yn darparu arbediad net o £1.40 am bob £1 a fuddsoddwyd drwy atal digartrefedd, yn lleddfu pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn lleihau’r angen i droi at y system cyfiawnder troseddol.

Dywedodd un gweithiwr cymorth proffesiynol a gymerodd ran mewn grŵp ffocws fel rhan o’r ymchwiliad:

Mae gennych chi staff rheng flaen yn yr hosteli sydd fwy neu lai ar isafswm cyflog yn gwneud shifft nos, yn gwneud shifftiau 12 awr… Falle bod gennych chi ddau weithiwr cymorth yn rheoli gorddos, yn rheoli ymddygiad heriol… Weithiau maen nhw’n gorfod gwneud penderfyniadau sy’n fater o fywyd neu farwolaeth ar eu pen eu hunain a dim ond ceiniogau maen nhw’n eu cael.

Mae pwysau ar y sector wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda lefelau cynyddol o ddigartrefedd ymhlith defnyddwyr gwasanaeth ac, yn gynyddol hefyd, ymhlith staff. Dywedodd Sian Aldridge o elusen digartrefedd Y Wallich wrth y Pwyllgor:

We see staff who are themselves at risk of homelessness, and they're trying to support others in their homelessness journey, and that's just not right.

Caiff y Grant Cymorth Tai – gwerth £203.4 miliwn mewn refeniw yng nghyllideb 2025-26 – ei ddosbarthu ar sail wedi’i chlustnodi i awdurdodau lleol i ddarparu, gweinyddu a chomisiynu gwasanaethau.

Mae'r gyllideb wedi bod yn destun ymgyrch gan y trydydd sector. Yn dilyn dwy flynedd yn olynol o gyllidebau sefydlog, cynyddodd Llywodraeth Cymru’r Grant Cymorth Cartrefi gan £13 miliwn yn 2024-25 a £21 miliwn yn ychwanegol yn 2025-26. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynnydd hwn yn cefnogi’r sector i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn i staff ac i adeiladu capasiti mewn ymateb i'r galw cynyddol.

Dywedodd Jayne Bryant AS, yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth y Pwyllgor ei bod hi'n cydnabod y gwaith rhyfeddol y mae staff yn ei wneud o dan bwysau. Dywedodd ei bod hi’n gwybod bod yn rhaid gwneud mwy, y tu hwnt i'r cynnydd yn y gyllideb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gweithlu a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch cyflog, systemau cymorth i staff, cymwysterau ac arfer gorau wrth recriwtio a chomisiynu. Disgwylir i’r grŵp adrodd yn ôl ddechrau’r hydref.

'Diffyg tystiolaeth'

Gwnaeth y Pwyllgor dri argymhelliad yn ei adroddiad, ac fe dderbyniwyd un ohonynt yn llawn a dau mewn egwyddor. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys 11 o gasgliadau, yr ymatebodd Llywodraeth Cymru iddynt heb eu derbyn na'u gwrthod yn ffurfiol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru’n llawn yr argymhelliad y dylid cyhoeddi data ar berfformiad gwasanaethau fel y gall darparwyr ac awdurdodau lleol werthuso eu gwasanaethau yn erbyn gwasanaethau eraill a mynd ati i nodi arfer da. Dywedodd y Pwyllgor:

Mae llawer iawn o ddata yn cael eu casglu, ac rydym yn credu y gellid gwneud defnydd llawer gwell o hynny.

Addawodd Llywodraeth Cymru y byddai 'crynodeb cenedlaethol' o ddata yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Gwnaed argymhelliad arall ynghylch uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflwyno mesurau trawsnewidiol ym maes 'ailgartrefu cyflym'.

Mae gan ailgartrefu cyflym oblygiadau sylweddol i wasanaethau’r Grant Cymorth Tai, gan ei fod yn golygu symudiad hirdymor i ffwrdd o fathau dros dro o lety, fel hosteli i'r digartref, o blaid rhoi cartrefi parhaol i bobl cyn gynted â phosibl ynghyd ag unrhyw gymorth ‘lle bo’r angen’ y gall fod ei angen arnynt.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwell defnydd o dystiolaeth i 'osod disgwyliadau clir' ar awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol ynghylch y mathau o gymorth a llety y dylent fod yn eu comisiynu.

Roedd yr adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn gliriach ynghylch sut olwg fyddai ar fodelau o arfer da ym maes ailgartrefu cyflym mewn gwirionedd:

Mae'n bryderus ei bod yn ymddangos bod diffyg tystiolaeth sy’n llywio'r mathau o wasanaethau a llety sy'n cael eu comisiynu o dan y faner o ailgartrefu cyflym

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ei bod yn trefnu uwchgynhadledd genedlaethol yn yr hydref i rannu’r dystiolaeth sy’n deillio o ddadansoddiad manwl o ddata gan dri awdurdod lleol.

Roedd y trydydd argymhelliad hefyd yn trafod parodrwydd Llywodraeth Cymru i ddefnyddio tystiolaeth i fod yn hyderus wrth yrru newid. Y tro hwn roedd yr argymhelliad yn gysylltiedig â gweithio ar y cyd.

Clywodd y Pwyllgor am ddau brosiect aml-asiantaeth sy'n cynnwys iechyd a thai, un o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morganwg a'r llall wedi’i arwain gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro. Cafodd y ddau brosiect eu crybwyll dro ar ôl tro fel enghreifftiau o arfer da gan Lywodraeth Cymru a chan randdeiliaid eraill.

Fodd bynnag, barn y Pwyllgor oedd nad yw dwy enghraifft yn ddigon ar eu pennau eu hunain:

Credwn, lle mae tystiolaeth i brofi bod dull yn effeithiol, y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol eraill ddilyn y dystiolaeth honno.

Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru arwain ar y gwaith o gyflwyno arfer da o ran cydweithio, 'nid yn unig drwy ledaenu gwybodaeth ond drwy fod yn fwy hyderus, fel drwy osod amodau ar gyllid grant'.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio cryfhau'r fframwaith statudol ar gyfer cydweithio drwy nifer o ddarpariaethau yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), sydd erbyn hyn wedi cyrraedd Cyfnod 1 yn y broses graffu.

Atal argyfwng

Roedd casgliadau’r Pwyllgor yn canolbwyntio ar feysydd megis data, llety i bobl ifanc, ansawdd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyfathrebu â’r sector ehangach ac i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn comisiynu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad realistig o gostau gwirioneddol darparu’r gwasanaethau hynny.

Clywodd y Pwyllgor y gall cymorth tai achub bywydau, gan atal sefyllfaoedd o argyfwng a fyddai'n costio llawer mwy o arian i sefydliadau eraill, fel y GIG, ymdrin â nhw. Mae cymorth o’r fath yn ganolog i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ym maes digartrefedd.

Fodd bynnag, roedd tystion i’r ymchwiliad yn glir y byddai cyflawni'r uchelgeisiau hynny'n dibynnu ar gynllunio hirdymor, sefydlogrwydd cyllido, partneriaethau aml-asiantaeth cryf a chynnydd mawr yn y cyflenwad o dai cymdeithasol.

Dilyn y ddadl

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Hydref 2025. Gallwch ddilyn y trafodion yn fyw ar Senedd.tv.

Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.