Gwaelod y gasgen i alcohol rhad: Isafbris uned i godi i 65c

Cyhoeddwyd 07/07/2026   |   Amser darllen munudau

Ar 1 Hydref 2026, bydd isafbris uned alcohol yng Nghymru yn codi o 50c i 65c yr uned.

Cyflwynwyd isafbris uned gan y Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 a daeth i rym ym mis Mawrth 2020, yn union wrth i bandemig Covid-19 daro.

Roedd y Ddeddf yn cynnwys cymal machlud oedd i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2026. Ym mis Chwefror 2026 pleidleisiodd y Senedd flaenorol i barhau â'r polisi a chynyddu'r isafbris. Yn ôl amcangyfrif gan waith modelu a gomisiynwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, gallai hyn arwain at 628 yn llai o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol dros 20 mlynedd.

Mae isafbris uned yn pennu’r pris isaf y gellir gwerthu alcohol amdano, gan ei wneud yn llai fforddiadwy. Mae wedi'i fwriadu'n arbennig i leihau'r defnydd o alcohol rhad, cryf. Nod y Ddeddf oedd helpu yfwyr peryglus a niweidiol, y rheini sy'n yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos, a gostwng nifer y derbyniadau i'r ysbyty, a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Fodd bynnag, gweithredwyd y polisi yn y lle cyntaf mewn cyfnod o gythrwfl mewn arferion yfed, wrth i dafarndai gau yn ystod y pandemig, ac yna sawl blwyddyn i ddilyn o brisiau'n codi'n gyflym yn sgil chwyddiant. Mae'r cyd-destun cymhleth hwn wedi ei gwneud hi'n anodd asesu'r effaith y mae isafbris uned wedi'i chael hyd yn hyn.

Gydag isafbris uned ar gyfer alcohol yn parhau, mae'r erthygl hon yn archwilio'r dystiolaeth ar yr effaith y mae wedi'i chael ar yfed yng Nghymru, ac yn gofyn pa gamau y gallai Llywodraeth newydd Cymru eu cymryd nesaf, er mwyn atal niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Beth yw isafbris uned ar gyfer alcohol?

Mae isafbris uned yn gosod pris sylfaen ar gyfer alcohol yng Nghymru ac yn ei gwneud yn drosedd gwerthu alcohol islaw'r pris hwnnw.

Mae'r pris y gellir gwerthu alcohol amdano wedi'i bennu gan ddefnyddio'r fformiwla a ganlyn:

Isafbris Uned x cryfder (% alcohol yn ôl cyfaint) x cyfaint (litr)

I ddechrau, pennwyd yr isafbris uned ar 50c yr uned. O fis Hydref 2026 ymlaen bydd yn codi i 65c yr uned.

Cafodd isafbris uned ar gyfer alcohol hefyd ei gyflwyno yn yr Alban yn 2018, a phleidleisiodd Senedd yr Alban i barhau, a chodi'r pris o 50c i 65c yr uned ym mis Ebrill 2024. Nid yw mewn grym yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Darlun ‘anniben’: gwerthuso isafbris uned ar gyfer alcohol

Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwilwyr annibynnol i gynnal gwerthusiad o isafbris uned ar gyfer alcohol, ac fe gafodd eu hadroddiadau terfynol eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2025.

Canfu fod y gweithrediad wedi bod yn “llyfn ac effeithiol” gyda lefel uchel o gydymffurfiaeth gan fanwerthwyr, a bod rhywfaint o dystiolaeth ddangosol bod y defnydd o alcohol yng Nghymru wedi lleihau ar ôl gweithredu’r isafbris uned.

Fodd bynnag, mae’r adroddiadau hefyd yn pwysleisio “annibendod” gwerthuso isafbris uned ar gyfer alcohol:

Mae cyfnod gweithredu’r MPA a’r gwerthusiad dilynol wedi gweld ffactorau sydd wedi cyfrannu at yr annibendod hwn, gan gynnwys ‘cyni’, newidiadau mewn tollau cartref, ‘argyfwng costau byw’, COVID-19, cyfleoedd siopa trawsffiniol, actorion yn y diwydiant, chwyddiant, a chyfyngiadau datganoli (e.e. ar farchnata a thrwyddedu alcohol).

Yn ôl Alcohol Change UK, bu’r newid mwyaf o bell ffordd i bris seidr gwyn rhad, cryf. Mae pris potel tair litr o seidr gwyn wedi codi o £3.99 i o leiaf £11.25, gan ei gwneud yn ‘anwerthadwy’. O ganlyniad, mae poteli wedi diflannu o silffoedd siopau, ac maen nhw'n disgrifio hyn fel mesur sy’n lleihau niwed i raddau sylweddol.

Marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a derbyniadau i'r ysbyty

Mae cyfradd y marwolaethau o ganlyniad uniongyrchol i gamddefnyddio alcohol yn uwch yng Nghymru yn awr nag oedd cyn cyflwyno isafbris uned yn 2020. Cyrhaeddodd nifer y marwolaethau uchafbwynt newydd yn 2023 pan fu farw 562 o bobl, cyfradd o 17.7 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl.

Mae achosion y cynnydd hwn yn debygol o fod yn gymhleth. Mae ymchwilwyr wedi nodi patrwm tebyg yn Lloegr, a achosir yn rhannol gan gynnydd yn yfed alcohol gan yfwyr trymach yn ystod pandemig COVID-19.

Cyfraddau marwolaeth alcohol-benodol sydd wedi’u safoni yn ôl oedran fesul 100,000 o bobl yng Nghymru; marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 2001 a 2024

 

Ffynhonnell: Marwolaethau yn benodol o achos alcohol yn y DU: cofrestrwyd yn 2024, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn y cyfamser, gostyngodd cyfradd y derbyniadau i'r ysbyty gyda chyflyrau y gellir eu priodoli i alcohol yn sylweddol yn 2020, yn ôl pob tebyg oherwydd pandemig COVID-19, ac ers hynny mae wedi sefydlogi ar lefel is ar ôl cyflwyno isafbris alcohol. 

Cyfraddau derbyniadau i’r ysbyty oherwydd cyflyrau sy’n benodol i alcohol a chyflyrau y gellir eu priodoli i alcohol yng Nghymru, 2015/16 i 2024/25

 

Ffynhonnell: Mesur eang, priodolwyd i alcohol, cyfraddau derbyn (wedi'u safoni yn ôl oedran) fesul 100k o'r boblogaeth, pobl o bob oed, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nid yw'r mesurau allweddol hyn o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn rhoi darlun clir o effaith isafbris alcohol, gan adlewyrchu'r her o ddeall ei effeithiau.

Beth nesaf ar gyfer isafbris alcohol yng Nghymru?

Mae'r amserlen isod yn dangos datblygiadau allweddol ers 2022:

Ffigur 1 – Amserlen datblygiadau mewn isafbris uned ers 2022

Cliciwch ar y saethau i weld y cerrig milltir

Mis Ebrill 2024

Senedd yr Alban yn pleidleisio i barhau ag isafbris uned yn yr Alban a chynyddu'r isafbris uned i 65c

Gyda Llywodraeth newydd Cymru bellach yn ei lle, mae cwestiynau ynghylch beth sy'n dod nesaf.

Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn parhau i fonitro a gwerthuso effaith isafbris uned ar gyfer alcohol?

Cytunodd Llywodraeth flaenorol Cymru i barhau i fonitro effaith y polisi. Bydd y Llywodraeth newydd yn penderfynu a ddylid parhau â'r gwaith hwn ac, os felly, pa ffurf fydd ar y gwerthusiad parhaus.

Galwodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd am ymchwil yn y dyfodol i ystyried effaith y polisi ar yfwyr dibynnol, ar incwm isel a phlant a phobl ifanc.

A fydd Llywodraeth newydd Cymru yn adolygu'r isafbris uned?

Wrth i brisiau barhau i godi gyda chwyddiant, bydd yr isafbris uned newydd yn dod yn llai effeithiol. Ni wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ymrwymo i gyflwyno mecanwaith adolygu ar gyfer y pris uned isaf, ond fe wnaethant ddweud yr hoffent “archwilio hyfywedd a manteision posibl” gwneud hynny.

Bydd angen i'r Llywodraeth newydd benderfynu a ddylid adolygu'r isafbris uned eto yn y dyfodol.

Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol?

Mae camddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn bryder sylweddol o ran iechyd cyhoeddus, ac yn sbardun anghydraddoldebau iechyd. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae GIG Cymru yn gwario £159 miliwn bob blwyddyn ar salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac mae’r canlyniadau iechyd mwyaf difrifol o ganlyniad i alcohol yn digwydd mewn cymunedau mwy difreintiedig.

Roedd gan Gymru Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau o 2008 i 2018, ac yna Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau o 2019 i 2022. Fe wnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd alw am strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi'i diweddaru i ategu isafbris uned fel rhan o ddull system gyfan o fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Mae'r Llywodraeth newydd wedi gwneud ataliaeth a mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd gwael yn flaenoriaeth, gyda hynny yn dod o dan gyfrifoldebau’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a'r Dirprwy Weinidog newydd dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, fel ei gilydd.

Bydd angen i'r Llywodraeth benderfynu a oes angen camau gweithredu ychwanegol i fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan alcohol ac a ddylai hyn gynnwys strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi'i diweddaru.


Erthygl gan Angharad Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru