Llun o staff gofal iechyd yn gwthio gwely ysbyty gwag

Llun o staff gofal iechyd yn gwthio gwely ysbyty gwag

Grymuso cleifion: Adnodd i Aelodau o’r Senedd sy’n Cefnogi Etholwyr ar Restrau Aros y GIG

Cyhoeddwyd 08/07/2024   |   Amser darllen munudau

Os ydych chi, neu rywun sy’n agos atoch chi, ar restr aros am driniaeth GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, gallai’r erthygl hon fod o gymorth ichi. Y bwriad yw arwain Aelodau o’r Senedd tuag at adnoddau defnyddiol, gan eu galluogi i gynnig cymorth ymarferol i’w hetholwyr.

Platfform cenedlaethol 111

Mae gwefan GIG 111 Cymru - Gofal wedi’i Gynllunio yn rhoi gwybodaeth am ba mor hir y mae pobl yng Nghymru fel arfer yn aros am driniaeth GIG yng ngwahanol feysydd gofal iechyd (h.y. yn ôl arbenigedd, megis dermatoleg, pediatreg neu wroleg). Er nad yw’n rhoi amseroedd aros personol, mae’n cynnig y data diweddaraf am gyfnodau aros a’r gwahaniaethau ar draws arbenigeddau a byrddau iechyd. Mae’n rhoi syniad cyffredinol o ble y gall person fod ar y rhestr aros.

Mae’r platfform cenedlaethol hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfartaledd yr amseroedd aros a’r amseroedd aros hiraf a ddisgwylir ar gyfer pob arbenigedd ym mhob bwrdd iechyd. Er enghraifft:

Gall amseroedd aros amrywio yn dibynnu ar y math o driniaeth a lle rydych chi. Er enghraifft:

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sy’n rhoi cyngor ar sut i gadw’n iach wrth ichi aros am driniaeth.

Y nifer uchaf erioed o lwybrau cleifion...

Mae gwybodaeth am gyflwr presennol rhestrau aros GIG Cymru yn cael ei chyhoeddi’n fisol (gydag oedi o ddau fis) gan Lywodraeth Cymru. Mae data gweithgarwch y GIG i fonitro rhestrau aros ar gael ar wefan StatsCymru.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd hefyd yn cyhoeddi’n dymhorol adroddiadau Monitro Amseroedd Aros y GIG. Mae’r adroddiad diweddaraf yn pwysleisio nad yw Llywodraeth Cymru, hyd yma yn ystod y Senedd hon, wedi gallu cyflawni unrhyw un o’r dyddiadau targed yr oedd wedi’u pennu i leihau amseroedd aros y GIG.

Mae erthygl Ymchwil y Senedd ‘Lleihau’r ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG’, sy’n cael ei diweddaru’n fisol, yn olrhain cynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn set o bum targed adfer (a bennwyd ym mis Ebrill 2022 i leihau rhestrau aros y GIG yng Nghymru).

Ym mis Ebrill 2024, bu cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion (h.y. nifer y llwybrau cleifion nid nifer y cleifion unigol oherwydd bod gan rai pobl sawl llwybr ar agor) o ychydig yn llai na 768,900 i 775,000, y ffigur uchaf a gofnodwyd erioed.

Mae’r sefyllfa’n arbennig o ddifrifol i’r rhai sydd wedi bod yn aros am dros flwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf, a chododd y nifer i 65,111 (er bod hyn yn is na’r brig yn 2022).

Ffigur 1: Nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am dros 53 wythnos am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr

Ym mis Ebrill 2024, gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth, y cyntaf ar ôl pedwar mis ar hugain yn olynol o ddirywio, sef ychydig yn llai na 21,300. At hynny, mae tua 148,200 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros yn hirach na blwyddyn am driniaeth (y targed adfer yw dileu arosiadau blwyddyn erbyn gwanwyn 2025).

Mae’r sefyllfa yn destun yr un pryder am wasanaethau diagnostig a therapïau. Cododd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am wasanaethau diagnostig i dros 108,100, a chynyddodd nifer y rhai a oedd yn aros yn hirach na’r targed ar gyfer yr amser aros hiraf i ychydig o dan 40,100. Yn yr un modd, ar gyfer therapïau, roedd dros 56,300 o lwybrau cleifion yn aros, ac roedd ychydig o dan 5,300 ohonynt yn aros yn hirach na’r targed ar gyfer yr amser aros hiraf o 14 wythnos.

Ffigur 2: Nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am 8 wythnos neu ragor am wasanaethau diagnostig a thros 14 wythnos am wasanaethau therapi

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi yn ôl mis

Gostyngodd perfformiad yn erbyn targed 62 diwrnod y llwybr canser sengl hefyd ym mis Ebrill 2024 i 53.8 y cant, gan fethu â chyflawni’r targed o 75 y cant o leiaf o gleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i gael yr amheuaeth bod canser arnynt am y tro cyntaf. Yn y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio, pennwyd targed newydd o 80 y cant i’w gyflawni erbyn 2026.

Ffigur 3: Canran y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r pwynt y cafodd canser ei amau gyntaf

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau caeedig): Nifer y llwybrau lle y dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf a’r rhai a gafodd wybod nad oedd canser arnynt yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle’r tiwmor, grŵp oedran, rhyw, mesur a mis

…ond amser aros byrrach ar gyfartaledd

Yn gryno, er mai tua 10 wythnos oedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion yn aros i ddechrau triniaeth ar draws yr holl arbenigeddau yn gyffredinol cyn y pandemig, cynyddodd hyn yn ystod pandemig Covid-19 a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020.

Er gwaethaf yr heriau a’r nifer uchaf erioed o lwybrau cleifion sy’n aros am driniaeth, bu gostyngiad yn yr amser aros cyfartalog o’i gymharu â’i uchafbwynt Covid-19. Ym mis Ebrill 2024, 22 wythnos oedd yr amser aros cyfartalog, sy’n welliant ers y cyfnod brig.


Erthygl gan Sarah Hatherley a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru