Gofynion gorfodol newydd ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (SuDS)

Cyhoeddwyd 12/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gosodwyd gorchmynion gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Hydref 2018, fel rhan o gyfres o offerynnau statudol yn ymwneud â systemau draenio cynaliadwy - neu SuDS. Mae'r rhain yn gwneud darpariaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, sy'n gwneud SuDS yn ofyniad gorfodol ar gyfer pob datblygiad newydd.

Mae nifer o reoliadau wedi'u gosod hefyd fel rhan o'r un gyfres o offerynnau statudol er mwyn cyflawni amcanion Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Dyma’r gyfres o offerynnau statudol dan sylw:

Y ddwy offeryn statudol ddrafft y gofynnir i’r Cynulliad eu cymeradwyo ddydd Mawrth 13 Tachwedd yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 a'r Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y ddeddfwriaeth "yn sicrhau bod systemau draenio cadarn ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig". Bydd yr erthygl hon yn ystyried yr hyn yw systemau draenio cynaliadwy a sut y mae wedi datblygu yng Nghymru (gan gynnwys y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig), a'r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn.

Beth yw systemau draenio cynaliadwy?

Mae SuDS wedi'u cynllunio i leihau effaith datblygiadau ar systemau draenio dŵr wyneb drwy weithio gyda phrosesau naturiol i ddraenio dŵr ffo. Gwneir hyn drwy gasglu, storio a glanhau dŵr cyn caniatáu iddo gael ei ryddhau'n araf yn ôl i'r amgylchedd.

Mae’r SuDS yn wahanol i systemau draenio confensiynol sy'n seiliedig ar gludo dŵr glaw oddi wrth eiddo cyn gynted â phosibl drwy bibellau tanddaearol. Gall systemau confensiynol gyfrannu at berygl cynyddol llifogydd, llygredd a halogiad dŵr daear.

Mae manteision SuDS yn cynnwys lleihau’r angen i bwmpio dŵr sydd wedi’i halogi gan garthffosiaeth er mwyn ei drin, a lleihau'r perygl y bydd dŵr yn gorlifo ac yn creu llifogydd. Gan ddibynnu ar y modd y cânt eu dylunio, gall SuDS hefyd wella ansawdd dylunio trefol, creu mannau gwyrdd cyhoeddus, cynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer a chlustogi sŵn.

Gallwch ddarllen mwy am SuDS ar wefan SuDS Cymru.

Datblygu SuDs yng Nghymru

Mae agwedd Llywodraeth Cymru tuag at SuDS wedi'i nodi yn ei Strategaeth Ddŵr i Gymru. Mae'r strategaeth hon yn cyflwyno’r cynllun ar gyfer safonau dros dro, anstatudol yng nghyswllt draenio cynaliadwy (SuDS). Cafodd ei gyhoeddi fel dogfen gynghori er mwyn i’r partïon perthnasol (dylunwyr, datblygwyr, awdurdodau lleol etc) fedru dangos eu bod wedi ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu a Pherygl o Lifogydd a Chadwraeth Natur a Chynllunio.

Roedd y safonau dros dro hyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015, hefyd yn gweithredu fel cynllun peilot felly, os oedd angen, gellid eu hadolygu cyn i Weinidogion Cymru wneud unrhyw orchmynion statudol. Mae cwmpas y safonau dros dro wedi’u trafod mewn erthygl flaenorol.

Deddfwriaeth Newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud SuDS yn orfodol ar ddatblygiadau newydd drwy gyflwyno cyfres o offerynnau statudol newydd, a wneir o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y rhain:

... yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad i wella'r dull o reoli ein hamgylchedd ddŵr. Mae hefyd yn cefnogi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau newydd tra'n sicrhau ecosystem gadarn, gwell bioamrywiaeth a manteision i ddinasyddion ar draws Nodau Llesiant a blaenoriaethau 'Ffyniant i Bawb'.

O ganlyniad i’r gorchymyn cychwyn a wnaed gan Lywodraeth Cymru, daw'r ddeddfwriaeth i rym ar 7 Ionawr 2019. Felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen:

  • Bydd yn ofynnol i bob datblygiad newydd o fwy nag 1 tŷ, neu sy’n cael ei godi ar safle adeiladu 100m2 neu fwy, ddefnyddio systemau draenio cynaliadwy (SuDS) i reoli dŵr wyneb.
  • Bydd yn rhaid cadw at safonau SuDS statudol wrth gynllunio ac adeiladu systemau draenio ar gyfer pob datblygiad newydd.
  • Bydd awdurdodau lleol yn dod yn Gyrff Cymeradwyo SuDS (CCS).
  • Mae'n rhaid i gynlluniau SuDS gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n ysgwyddo ei swyddogaeth fel CCS cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Bydd gan y CCS ddyletswydd i fabwysiadu SuDS sy'n cydymffurfio cyn belled â'i fod yn cael ei greu a bod ei swyddogaethau'n cyd-fynd â'r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo CCS.

Enghreifftiau o SuDs yng Nghymru

Grangetown Werddach

Partneriaeth rhwng Cyngor Dinas Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yw Grangetown Gwyrddach. Mae'r cynllun yn defnyddio dulliau SuDS i gasglu, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i Afon Taf, yn hytrach na'i bwmpio am wyth milltir drwy Fro Morgannwg i'r môr fel oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd y cynllun yn cynnwys plannu planhigion a choed i amsugno dŵr glaw, cynyddu bioamrywiaeth a chreu mannau gwyrdd cyhoeddus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu Fideo Grangetown Werddach:

Mae prosiect Grangetown Werddach wedi’i gwblhau erbyn hyn a dyma y mae wedi’i gyflawni:

  • 42,480m2 o ddŵr wyneb yn cael ei dynnu o’r rhwydwaith dŵr gwastraff cyfun (sydd gyfystyr â 10 cae pêl-droed).
  • Mae 1,600m2 o ofod gwyrdd (sy’n cyfateb i 4 cwrt pêl-fasged).
  • Creu ‘stryd feiciau’ gyntaf Cymru ar hyd un o rannau prysuraf llwybr Teithio Llesol Taith Taf, gan arafu traffig trwy ddylunio a gwella amodau i gerddwyr a beicwyr.
  • Cynnydd mewn bioamrywiaeth – 135 o goed newydd a miloedd o lwyni a gweiriau.
  • Creu perllan gymunedol.
  • 26 o stondinau beics newydd.
  • 12 bin sbwriel newydd.
  • 9 sedd a mainc newydd.
  • Mwy o fannau parcio i breswylwyr yn unig.

GlawLif, Llanelli

Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi tua £80 miliwn mewn nifer o brosiectau GlawLif yng Nghymru a bydd y cyllid yn parhau tan 2020. Mae prosiectau yn Llanelli wedi'u datblygu i fynd i'r afael â phroblemau’n ymwneud â’r holl ddŵr glaw sy'n llifo i’r carthffosydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Cafodd un prosiect ei ddatblygu i ddatrys problemau dŵr wyneb mewn ysgol gynradd drwy greu pwll, pant, safleoedd plannu, palmentydd hydraidd, casgenni dŵr a safle addysgol awyr agored.

Gallwch ddarllen mwy am brosiectau Dŵr Cymru ar wefan GlawLif.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru