Cyflwyniad
Ddydd Mercher 3 Hydref 2018, bydd cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Bydd hyn yn digwydd oherwydd, pan fydd y DU yn gadael â’r UE, bydd yn rhaid newid y gweithdrefnau er mwyn rhoi Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("Deddf 2018") ar waith.
Mae'r newidiadau hyn yn dilyn adroddiad a baratowyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef y Pwerau ym Mil UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth - materion gweithredol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ac a gafodd ei grynhoi mewn erthygl flaenorol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 13 Medi 2018.
Mae'r cynnig hwn yn datgan:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
- Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018.
- Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21 a 27, ac i gyflwyno Rheolau Sefydlog 30B a 30C newydd, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ag Adroddiad y Pwyllgor Busnes a'r newidaidau i’r Rheolau Sefydlog ar 25 Medi 2018. Gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion ar 3 Hydref.
Mathau newydd o is-ddeddfwriaeth
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("Deddf 2018”) yn creu categorïau newydd o is-ddeddfwriaeth:
- rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y mae angen iddynt fod yn destun proses newydd o "sifftio" (h.y. argymell a ddylai'r weithdrefn negyddol ynteu'r weithdrefn gadarnhaol fod yn gymwys) gan bwyllgor;
- rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU sy'n cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad dros dro, y mae angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer; a
- rheoliadau eraill a wneir gan Weinidogion y DU nad oes angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer ond y dylid hysbysu'r Cynulliad amdanynt.
Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog
Isod, mae crynodeb o'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog.
Newidiadau i Reol Sefydlog 21:
Pwyllgor sifftio'r Cynulliad i gyflwyno adroddiad ar reoliadau a gaiff eu sifftio (h.y. yr holl reoliadau a ddaw i'r Cynulliad o dan y broses sifftio), ac i gyflwyno adroddiad o fewn 14 diwrnod calendr.
Caiff Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i reoliadau wedi iddynt gael eu sifftio eu datgymhwyso ar gyfer y broses sifftio.
Newidiadau i Reol Sefydlog 27:
Dylai'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â rheoliadau a gaiff eu sifftio gynnwys: (a) y datganiad y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei wneud wrth osod y rheoliadau drafft ynghylch pam y credant y dylid dilyn y weithdrefn negyddol, a (b) y rhesymau dros y farn honno.
Rheol Sefydlog 30B newydd:
Mae hon yn ymdrin â'r broses ar gyfer adrannau 109A ac 80(8) o Ddeddf 2018 sy'n galluogi Gweinidogion y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac mae'n ddarostyngedig i benderfyniad y Cynulliad i roi cydsyniad.
Rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiadau ynghylch pam y mae'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad i'w osod gerbron y Cynulliad.
Rhaid i Weinidogion Cymru osod yr adroddiadau y bydd Llywodraeth y DU yn eu paratoi bob tri mis ar gyfyngiadau cymhwysedd.
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r Cynulliad pan gaiff cyfyngiadau ar gymhwysedd eu codi.
Rheol Sefydlog 30C newydd
Gweinidogion Cymru i hysbysu'r Cynulliad o offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig os bydd yr offerynnau statudol yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi creu tudalen we sy’n cynnwys gwybodaeth am y broses sifftio.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru