Gallai cyfraith newydd arwain at gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Cyhoeddwyd 06/10/2023   |   Amser darllen munud

Gallai’r broses o gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ddiflannu, os daw Bil newydd sydd ar ei daith drwy’r Senedd yn gyfraith.

Byddai’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn caniatáu i’r Llywodraeth gyflwyno cynlluniau peilot newydd lle byddai pleidleiswyr yn cael eu cofrestru yn awtomatig.

Byddai’r Bil hefyd yn cyflwyno newidiadau eraill o ran y modd y caiff etholiadau eu cynnal, gan gynnwys sefydlu corff Cymru gyfan newydd a fyddai’n gyfrifol am gydgysylltu etholiadau yng Nghymru, rhaglen wybodaeth ar-lein newydd i bleidleiswyr, a mesurau i gynyddu amrywiaeth yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

Sut beth fyddai system i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru?

Ers 2014, mae pleidleiswyr yn y DU wedi gorfod cofrestru eu hunain er mwyn cael yr hawl i bleidleisio, a hynny o dan y system cofrestru etholiadol unigol. Rhaid i awdurdodau lleol gysylltu â phob cartref er mwyn gwirio bod y rhestr bresennol yn gywir, nodi pleidleiswyr newydd, a gwahodd preswylwyr i wneud cais i gael eu cynnwys ar y gofrestr. Gwnaeth y system hon ddisodli’r hen system o gofrestru aelwydydd, lle byddai 'pennaeth yr aelwyd' yn cyflwyno’r manylion cofrestru ar ran yr holl breswylwyr a oedd yn gysylltiedig â’r cyfeiriad dan sylw.

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli’r cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau'r Senedd i Lywodraeth Cymru. Yn yr un flwyddyn, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch ehangu'r dulliau sydd ar gael ar gyfer cofrestru pleidleiswyr. Dyma a ddywedodd:

[Mae’r system cofrestru etholiadol unigol] wedi arwain at gwymp yn y niferoedd [o bleidleiswyr] sydd wedi’u cofrestru, yn enwedig ymysg grwpiau penodol. Mae anallu landlordiaid i gofrestru eu tenantiaid wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y myfyrwyr sydd ar y gofrestr etholiadol a cheir problemau eraill hefyd yn gysylltiedig â phoblogaethau symudol eraill.

Yn sgil hynny, cafodd darpariaethau eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a fyddai wedi caniatáu i swyddogion cofrestru etholiadol gofrestru pleidleisiwr heb iddynt orfod gwneud cais, gan ddefnyddio data i adnabod y bobl hynny. Fodd bynnag, ni roddwyd y darpariaethau hynny ar waith.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn arall ac ymgynghoriad ynghylch gweinyddu etholiadau ym mis Hydref 2022. Roedd hyn yn cynnwys cynigion i'w gwneud yn ofynnol i bob swyddog cofrestru etholiadol gofrestru etholwyr cymwys yn awtomatig, a chyhoeddi hysbysiad cofrestru ar gyfer pob person. Tynnodd rhai o’r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad sylw at bwysigrwydd cyfathrebu â phleidleiswyr mewn modd clir wrth eu cofrestru’n awtomatig, yn ogystal â’r angen i sicrhau bod gan etholwyr sy’n agored i niwed y gallu i roi gwybod i’r awdurdodau lleol am unrhyw sefyllfa lle gallent fod mewn perygl o ganlyniad i gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol. Yn ogystal, tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at yr angen i ddiogelu data pleidleiswyr.

Byddai’r Bil yn cyflwyno cynlluniau peilot ar gyfer system i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Os daw’r Bil yn gyfraith, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai ei bwriad yw defnyddio’r pwerau newydd yn y Bil i gyflwyno cynlluniau peilot parthed cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.

Mae Adrannau 3 a 4 o’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bob swyddog cofrestru etholiadol gofrestru etholwyr yn awtomatig, a hynny gan ddefnyddio system o baru data. Yna, byddai’r swyddog cofrestru etholiadol yn cyhoeddi hysbysiad cofrestru ar gyfer pob etholwr. Oni bai bod etholwr yn ymateb o fewn cyfnod penodol o amser, er enghraifft er mwyn gwneud cais i gael ei gofrestru’n ddienw neu gael ei hepgor o’r gofrestr yn gyfan gwbl, byddai’n ofynnol yn gyfreithiol i’r swyddog cofrestru etholiadol ychwanegu’r person hwnnw at y gofrestr lawn.

Os bydd y cynlluniau peilot yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn bwriadu cyflwyno’r darpariaethau dan sylw ledled Cymru. Dim ond i etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol Cymru y byddai’r drefn hon yn berthnasol. Ar hyn o bryd, mae’r system cofrestru etholiadol unigol yn parhau i fod ar waith ar gyfer etholiadau Senedd y DU.

Beth arall sydd wedi’i gynnwys yn y Bil?

Mae’r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau eraill sy’n gysylltiedig ag etholiadau yng Nghymru a llywodraeth leol. Mae’r pethau hyn yn cynnwys:

  • Creu Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol newydd i oruchwylio’r broses o weinyddu etholiadau yng Nghymru. Bydd y bwrdd hwn yn cael ei sefydlu gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, (sef yr enw newydd a roddir i’r corff gan Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)), a bydd yn gweithredu o dan y corff hwnnw hefyd. Bydd yn cymryd yr awenau oddi wrth y corff gwirfoddol presennol, sef Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru.
  • Pwerau newydd a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r Comisiwn Etholiadol gynnig cynlluniau peilot newydd ar gyfer y drefn etholiadol.
  • Creu platfform gwybodaeth ar-lein ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Nid yw’r Bil yn nodi’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys ar y platfform, ond mae’n datgan y gellir cynnwys pethau fel datganiadau gan ymgeiswyr.
  • Darpariaethau ynghylch cynyddu amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ceisio cael eu hethol i’r Senedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi gwasanaethau ar waith er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ceisio cael eu hethol, a phŵer iddynt gyflwyno cynlluniau i ddarparu cymorth ariannol er mwyn helpu ymgeiswyr sydd â nodweddion penodedig i oresgyn rhwystrau i’w cyfranogiad.
  • Rhoi statws statudol i’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, sy'n cynorthwyo pobl anabl i sefyll ar gyfer swyddi etholedig.
  • Diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sef y corff sy'n gyfrifol am gytuno ar gyflogau amryw o gyrff llywodraeth leol. Bydd ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
  • Darpariaethau i ddiweddaru rheoliadau sy’n gysylltiedig â chyllid ymgyrchu.
  • Newidiadau i’r pwerau cyfredol sy’n ymwneud ag adolygu ffiniau awdurdodau lleol a chynghorau cymuned yng Nghymru.

Pa fath o sylwadau a wnaed am y Bil?

Cafodd y Bil ei gyflwyno yn y Senedd ar 2 Hydref. Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

Mae'r Bil yn dilyn ein gwaith da blaenorol, fel rhoi'r hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion cymwys yng Nghymru, â fframwaith clir ar gyfer diwygio etholiadol. […]

Bydd y Bil a'r pecyn diwygio ehangach yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn etholiadau Cymru. Bydd yn gwella hygyrchedd i bobl anabl ac yn cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys yn cael ei gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Cymru…

Gwnaeth yr Aelod Ceidwadol Darren Millar, sef Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad, groesawu rhai rhannau o’r Bil, gan gynnwys y mesurau i wella amrywiaeth yn y Senedd a chreu platfform gwybodaeth ar-lein i bleidleiswyr. Fodd bynnag, roedd yn feirniadol o’r darpariaethau ynghylch cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gan ddadlau y dylai cynlluniau peilot mwy helaeth fod wedi cael eu cynnal cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, un o Aelodau Plaid Cymru, fod y Bil yn cyferbynnu mewn modd cadarnhaol â’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Etholiadau’r DU 2022, a wnaeth gyflwyno cyfundrefn prawf adnabod ar gyfer pleidleiswyr mewn perthynas ag etholiadau Senedd y DU. Ni fydd angen i bleidleiswyr ddangos dogfennau adnabod er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r Senedd nac mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Ym mha ffordd y cynhelir gwaith craffu ar y Bil?

Bydd y Senedd yn craffu ar y Bil dros y misoedd i ddod. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fydd yn arwain y gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1. Bydd y cyfnod hwn yn cynnwys trafod egwyddorion cyffredinol y Bil, gan ganolbwyntio ar ei brif ddiben.

Bydd y Bil hefyd yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid (a fydd yn canolbwyntio ar ei oblygiadau ariannol), a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a fydd yn edrych ar ansawdd a chyfreithlondeb y ddeddfwriaeth.

Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, bydd y Bil yn mynd drwy weddill y broses ddeddfwriaethol, lle bydd yn destun gwaith craffu manwl, cyn cyrraedd pleidlais derfynol yng Nghyfnod 4.

Mae gan y Bil sawl elfen sy'n cydblethu â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sydd hefyd yn mynd drwy’r broses graffu ar yr un pryd.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Disgwylir i’r Cwnsler Cyffredinol ymddangos gerbron y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Hydref i ateb cwestiynau gan Aelodau mewn perthynas â’r Bil. Yna, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol dros y misoedd nesaf.

Gallwch ddilyn y trafodion ar wefan y Pwyllgor, a Senedd TV.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru