Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan "delerau Sefydliad Masnach y Byd" i economi Cymru?

Cyhoeddwyd 07/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

07 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Prif Weinidog y DU at Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, i roi gwybod iddo am fwriad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y weithred hon yn Tanio Erthygl 50, yr adran o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd sy’n rheoli sut y byddai Aelod-wladwriaeth yn gadael yr UE.

Bargen neu beidio?

Yn y llythyr hwn roedd Theresa May yn amlinellu awydd y DU i greu "partneriaeth ddofn ac arbennig sy’n cynnwys cydweithredu economaidd a chydweithredu o ran diogelwch". Mae hi yn nodi, o ran perthynas economaidd rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn golygu cynnal masnach ar delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), y mae hi’n ei weld fel canlyniad na fyddai’r naill ochr na’r llall am ei gael. Fodd bynnag, yn ei haraith fis Ionawr, a oedd yn nodi amcanion Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd y byddai dim bargen ar gyfer Prydain yn well na bargen wael ar gyfer Prydain. Mae canllawiau trafod drafft y Cyngor Ewropeaidd yn adleisio dymuniad y DU am "gytundeb masnach rydd uchelgeisiol" gyda’r UE. Fodd bynnag, tra bod Theresa May wedi galw am i’r berthynas rhwng y ddau yn y dyfodol, gan gynnwys y trefniadau masnachu, gael eu cytuno ochr yn ochr â chytundeb ar ymadawiad y DU, mae Donald Tusk wedi datgan y gall y berthynas yn y dyfodol gael ei thrafod dim ond pan fydd cynnydd digonol wedi’i wneud o ran y trafodaethau ar ymadael. Mae’r ddwy ochr yn cydnabod maint y dasg dan sylw. Yn unol â hynny, mae Tusk a May yn sôn am y posibilrwydd o gytuno ar drefniadau pontio cyn y cytunir ar delerau’r berthynas yn y dyfodol: sef, yn iaith Theresa May, byddai hwn yn "gyfnod rhoi ar waith” a’r derminoleg a ddefnyddir gan Donald Tusk yw y byddai’n “gyfnod pontio". Fodd bynnag, mae siawns o hyd y gallai’r DU adael yr UE heb fod cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol na threfniadau pontio ar waith. Byddai’r DU a’r UE, felly, yn masnachu â’i gilydd ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Beth fyddai goblygiadau hyn i economi Cymru?

Beth yw Sefydliad Masnach y Byd?

Sefydliad rhyngwladol sy’n rheoleiddio ac yn ceisio rhyddfrydoli masnach ryngwladol rhwng ei 164 o aelodau yw Sefydliad Masnach y Byd. Er bod y Deyrnas Unedig yn aelod unigol, cynrychiolir hi yn y Sefydliad gan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd. O dan gytundebau Sefydliad Masnach y Byd, bydd gwledydd yn cyd-drafod ‘rhestrau’ o ymrwymiadau mynediad i farchnadoedd. Gall y rhain gynnwys lefelau tariff ar nwyddau, a faint o fynediad at y farchnad a ganiateir i ddarparwyr gwasanaethau o dramor. Mae masnach o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn gweithredu o dan yr egwyddor "y wlad fwyaf ffafriol". Ystyr hyn yw na all gwledydd, fel arfer, wahaniaethu rhwng eu partneriaid masnachu. Er enghraifft, pe bai gwlad yn dewis gostwng tariff ar nwyddau ar gyfer partner masnachu penodol, byddai’n rhaid iddi wneud yr un peth ar gyfer holl aelodau eraill Sefydliad Masnach y Byd. Mae’r eithriadau i’r egwyddor hon yn cynnwys cytundebau masnach rydd cynhwysfawr ac undebau masnach (fel yr Undeb Ewropeaidd).

Beth fyddai "telerau Sefydliad Masnach y Byd" ar gyfer y DU?

Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE, bydd yn ei chynrychioli ei hun yn Sefydliad Masnach y Byd, a bydd angen iddi drafod ei chyfres ei hun o restrau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn ceisio efelychu rhestrau presennol yr UE pan fydd hynny’n bosibl. Mae gwahaniaeth barn ymhlith yr arbenigwyr o ran y graddau y gallai hwn fod yn bwnc dadleuol ymhlith yr aelodau eraill o Sefydliad Masnach y Byd. Os bydd y DU yn efelychu rhestrau Sefydliad Masnach y Byd presennol yr UE, goblygiadau hyn fydd, am y tro cyntaf ers creu Marchnad Sengl yr UE, y bydd tariffau ar fasnachu rhwng y DU a’r UE. Byddai hyn yn cael effaith wahaniaethol ar draws yr economi, gan fod tariffau yn amrywio’n sylweddol ar draws sectorau [gweler yr isod]. Cyfraddau tariffau terfynol cyfartaledd a gaiff eu cymhwyso gan yr UE fesul categori eang o nwyddau (Ffynhonnell: Nodyn Llyfrgell  Tŷ’r Arglwyddi: Sefydliad Masnach y Byd, gan ddefnyddio data’r Sefydliad o yma) Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar dariffau cyfartaledd fesul categori; mae tariffau gwirioneddol yn amrywio’n ehangach byth. Er enghraifft, clywodd Pwyllgor yr UE Tŷ’r Arglwyddi yr wythnos diwethaf fod y sector ceir yn "sector cyfyngedig iawn", gyda thariff o 10 y cant ar geir a thariff o 22 y cant ar dryciau a lorïau.

Cyfraddau tariffau terfynol cyfartaledd a gaiff eu cymhwyso gan yr UE fesul categori eang o nwyddau

Mae rhagor o wybodaeth am restrau Sefydliad Masnach y Byd yr UE ar gael ar wefan y Sefydliad yma. Fodd bynnag, mae’r data hwn mor ronynnog, ac yn amodol ar gynifer o reolau cymhleth nes bod gwleidyddion a sylwebwyr eraill yn aml yn siarad yn nhermau tariffau cyfartalog ar draws sectorau ehangach. Er enghraifft, mae gwleidyddion yn sôn am y tariff ar "decstilau" yn hytrach nag am nifer yr is-gyfresi o nwyddau tecstilau, y mae llawer ohonynt â gwahanol gyfraddau tariff.

Beth fyddai effaith "telerau Sefydliad Masnach y Byd" ar Gymru?

Mae economïau rhanbarthol a chenedlaethol yn gwahaniaethu ar draws y DU. Hynny yw, y mae’n fwy tebygol y byddai perthynas fasnachu newydd rhwng y DU a’r UE yn berthynas wahaniaethol ar draws y DU. Mae’r tabl a ganlyn yn cymharu allforion Cymru ac allforion y DU i’r Undeb Ewropeaidd, fel cyfrannau o’u cyfanswm masnach: Allforion nwyddau, 2016 [caption id="attachment_7490" align="alignnone" width="989"] Ffynhonnell: Cynulliad Cymru/HMRC[/caption] Nid oes modd cymharu’r categorïau nwyddau hyn yn uniongyrchol â rhai Sefydliad Masnach y Byd, felly mae angen rhagor o ddadansoddi er mwyn pennu sut yn union y gallai cyflwyno tariffau rhwng y DU a’r UE effeithio ar allforion o Gymru. Mae’n amlwg, fodd bynnag, bod masnach yr UE yng Nghymru (er enghraifft, bwyd ac anifeiliaid byw) yn flaenllaw o fewn rhai sectorau allforion ar hyn o bryd, a bod cyfran sylweddol uwch o allforion o Gymru na chyfartaledd y DU ar hyn o bryd yn mynd i’r UE. Er nad oes dim o’r gwaith dadansoddi hwn yn edrych ar y manteision posibl a allai ddeillio o drefniadau masnachu newydd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, nac ar effeithiau macro-economaidd ehangach, mae’n rhoi rhyw syniad i wneuthurwyr polisi yng Nghymru o’r hyn sydd yn y fantol o syrthio’n ôl ar "ddim bargen" gyda’r UE. Yr wythnos hon, daeth Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin i’r casgliad bod honiad Llywodraeth y DU bod "dim bargen yn well na bargen wael ar gyfer Prydain" yn "ddi-sail", ac roedd yn galw ar y Llywodraeth i gynnal asesiad trylwyr o’r goblygiadau economaidd, y goblygiadau cyfreithiol a’r goblygiadau eraill o adael yr UE heb gytundeb". Os cynhelir asesiad, ceir darlun cliriach o effaith bosibl "telerau Sefydliad Masnach y Byd" ar economi Cymru.

Deunydd darllen pellach:


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ffynhonnell photo: Baner y DU a’r UE, a drwyddedwyd o dan Dave Kellam, Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan "delerau Sefydliad Masnach y Byd" i economi Cymru? (PDF, 311KB)