Bargen neu beidio?
Yn y llythyr hwn roedd Theresa May yn amlinellu awydd y DU i greu "partneriaeth ddofn ac arbennig sy’n cynnwys cydweithredu economaidd a chydweithredu o ran diogelwch". Mae hi yn nodi, o ran perthynas economaidd rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn golygu cynnal masnach ar delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), y mae hi’n ei weld fel canlyniad na fyddai’r naill ochr na’r llall am ei gael. Fodd bynnag, yn ei haraith fis Ionawr, a oedd yn nodi amcanion Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd y byddai dim bargen ar gyfer Prydain yn well na bargen wael ar gyfer Prydain.
Beth yw Sefydliad Masnach y Byd?
Sefydliad rhyngwladol sy’n rheoleiddio ac yn ceisio rhyddfrydoli masnach ryngwladol rhwng ei 164 o aelodau yw Sefydliad Masnach y Byd. Er bod y Deyrnas Unedig yn aelod unigol, cynrychiolir hi yn y Sefydliad gan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd. O dan gytundebau Sefydliad Masnach y Byd, bydd gwledydd yn cyd-drafod ‘rhestrau’ o ymrwymiadau mynediad i farchnadoedd. Gall y rhain gynnwys lefelau tariff ar nwyddau, a faint o fynediad at y farchnad a ganiateir i ddarparwyr gwasanaethau o dramor. Mae masnach o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn gweithredu o dan yr egwyddor "y wlad fwyaf ffafriol". Ystyr hyn yw na all gwledydd, fel arfer, wahaniaethu rhwng eu partneriaid masnachu. Er enghraifft, pe bai gwlad yn dewis gostwng tariff ar nwyddau ar gyfer partner masnachu penodol, byddai’n rhaid iddi wneud yr un peth ar gyfer holl aelodau eraill Sefydliad Masnach y Byd. Mae’r eithriadau i’r egwyddor hon yn cynnwys cytundebau masnach rydd cynhwysfawr ac undebau masnach (fel yr Undeb Ewropeaidd).Beth fyddai "telerau Sefydliad Masnach y Byd" ar gyfer y DU?
Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE, bydd yn ei chynrychioli ei hun yn Sefydliad Masnach y Byd, a bydd angen iddi drafod ei chyfres ei hun o restrau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn ceisio efelychu rhestrau presennol yr UE pan fydd hynny’n bosibl. Mae gwahaniaeth barn ymhlith yr arbenigwyr o ran y graddau y gallai hwn fod yn bwnc dadleuol ymhlith yr aelodau eraill o Sefydliad Masnach y Byd. Os bydd y DU yn efelychu rhestrau Sefydliad Masnach y Byd presennol yr UE, goblygiadau hyn fydd, am y tro cyntaf ers creu Marchnad Sengl yr UE, y bydd tariffau ar fasnachu rhwng y DU a’r UE. Byddai hyn yn cael effaith wahaniaethol ar draws yr economi, gan fod tariffau yn amrywio’n sylweddol ar draws sectorau [gweler yr isod]. Cyfraddau tariffau terfynol cyfartaledd a gaiff eu cymhwyso gan yr UE fesul categori eang o nwyddau
Cyfraddau tariffau terfynol cyfartaledd a gaiff eu cymhwyso gan yr UE fesul categori eang o nwyddau
Mae rhagor o wybodaeth am restrau Sefydliad Masnach y Byd yr UE ar gael ar wefan y Sefydliad yma. Fodd bynnag, mae’r data hwn mor ronynnog, ac yn amodol ar gynifer o reolau cymhleth nes bod gwleidyddion a sylwebwyr eraill yn aml yn siarad yn nhermau tariffau cyfartalog ar draws sectorau ehangach. Er enghraifft, mae gwleidyddion yn sôn am y tariff ar "decstilau" yn hytrach nag am nifer yr is-gyfresi o nwyddau tecstilau, y mae llawer ohonynt â gwahanol gyfraddau tariff.Beth fyddai effaith "telerau Sefydliad Masnach y Byd" ar Gymru?
Mae economïau rhanbarthol a chenedlaethol yn gwahaniaethu ar draws y DU. Hynny yw, y mae’n fwy tebygol y byddai perthynas fasnachu newydd rhwng y DU a’r UE yn berthynas wahaniaethol ar draws y DU. Mae’r tabl a ganlyn yn cymharu allforion Cymru ac allforion y DU i’r Undeb Ewropeaidd, fel cyfrannau o’u cyfanswm masnach: Allforion nwyddau, 2016 [caption id="attachment_7490" align="alignnone" width="989"]
Deunydd darllen pellach:
- Pigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Deall allforion Cymru: Golwg ar yr Ystadegau Masnach Ranbarthol diweddaraf
- Nodyn Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi Leaving the European Union: World Trade Organisation
- Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd, Tŷ’r Arglwyddi, Brexit: the options for trade
- Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Implications of a UK exit from the EU for British agriculture
- Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru: Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r UE i berthynas newydd ag Ewrop.
- Demos, Making the most of Brexit
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ffynhonnell photo: Baner y DU a’r UE, a drwyddedwyd o dan Dave Kellam, Creative Commons. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan "delerau Sefydliad Masnach y Byd" i economi Cymru? (PDF, 311KB)