Mynediad i Farchnad Sengl yr UE:
Mae'r risgiau o fethu â chael cytundeb masnach gyda'r UE yn ddifrifol – bydd masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn hynod niweidiol i'r sector amaethyddol yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau na fydd cynhyrchwyr Cymreig, gan gynnwys cynhyrchwyr cig oen Cymru, yn agored i'r risgiau difrifol sy'n deillio o gyfyngiadau ar fynediad i farchnadoedd y DU a gosod tariffau.
Lefel briodol o gyllid:
Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i ddarparu cyllid ar gyfer datblygiad amaethyddol a gwledig yng Nghymru ar lefel bresennol cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) tan o leiaf 2020/21. Ar ôl hynny, y meincnod pwysicaf fydd cylch nesaf PAC, o 2021-2027. Yn ei dro, rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i wario'r cyllid hwnnw ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Mae'n rhaid i wledydd cyfansoddol y DU gytuno gyda'i gilydd ar ddull i bennu cyllid yn y tymor hwy.
Fframwaith rheoleiddio sy'n cefnogi'r sector amaethyddol:
Mae'r fframwaith rheoleiddio presennol yn cynnal safonau cynhyrchu sy'n caniatáu mynediad i Farchnad Sengl yr UE a thu hwnt. Dylai'r cyfle i ddiwygio rheoliadau ystyried safbwyntiau cynhyrchwyr bwyd. Dylai unrhyw reoliadau yn y dyfodol gefnogi cynhyrchu bwyd o safon uchel a sicrhau'r mynediad ehangaf posibl i farchnadoedd.
Mynediad i lafur:
Mae pryder dealladwy yng Nghymru y gallai gostyngiad mewn llafur mudol gael effaith negyddol ar y sector amaethyddol a'r sector prosesu bwyd. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried anghenion llafur Cymru wrth bennu polisi mewnfudo yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i ystyried ei gwaith cynllunio gweithlu ar gyfer y sector amaethyddol a'r sector prosesu bwyd.
Trefniadau pontio:
Mae angen trefniadau pontio cynhwysfawr er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol sy'n deillio o'r DU yn gadael yr UE ac i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i'r sector yng Nghymru. Dylai pob gweinyddiaeth ddatganoledig gytuno ar unrhyw drefniant ariannu sy'n cwmpasu'r cyfnod interim hwn. Rydym yn credu y bydd angen cyfnod pontio sy'n cyfateb i hyd y cylchoedd PAC presennol a nesaf ar unrhyw newidiadau i drefniadau ariannu sy'n sylweddol wahanol i'r model ariannu PAC presennol.Mae rhan 2 yn edrych ar y potensial o fodel talu a chymorth ar gyfer rheoli tir sy'n seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Mae'n galw am gyflawni canlyniadau yn y meysydd canlynol:
- Trechu newid hinsawdd, gan gynnwys atal llifogydd a gwella ansawdd dŵr;
- Cefnogi sector cynhyrchu bwyd gwydn ac sy'n fwy hunan-ddibynnol, gan gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf;
- Cynnal coedwigaeth a choetiroedd cynaliadwy;
- Diogelu a gwella bioamrywiaeth;
- Rheoli'r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden a chymunedau lleol; a
- Meithrin y Gymraeg a chymunedau gwledig ffyniannus.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Llun: o Flickr gan Andrew. Dan drwydded Creative Commons. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gadael yr Undeb Ewropeaidd, amaethyddiaeth a bywyd gwledig yng Nghymru: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad (PDF, 155KB)