Gadael yr UE: materion o bwys ar gyfer amaethyddiaeth, datblygu gwledig a'r amgylchedd

Cyhoeddwyd 01/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2020   |   Amser darllen munudau

01 Tachwedd 2016 Erthygl gan Katy Orford a Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg rockyview Bydd Mark Reckless AC, cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd ar ddyfodol polisïau amaethyddol, amgylcheddol a gwledig yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Beth yw'r sefyllfa bresennol? Y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yw'r brif system yn yr UE ar gyfer cynorthwyo ffermwyr yn uniongyrchol, diogelu cefn gwlad a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cymunedau gwledig. Caiff y PAC ei rannu'n ddwy 'Golofn'; taliadau uniongyrchol i ffermwyr (Colofn 1) sy'n cynnig cymhorthdal incwm i ffermwyr a mesurau ar gyfer rheoli'r farchnad, a'r Rhaglen Datblygu Gwledig (Colofn 2). Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru yn rhoi cymorth i gymunedau a busnesau gwledig ac mae'n cynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir, sydd â'r nod o warchod a gwella'r amgylchedd mewn ardaloedd gwledig.  Mae amaethyddiaeth yn faes sydd wedi'i ddatganoli, felly mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am weithredu’r PAC yng Nghymru. Fel rhan o rownd gyfredol PAC (2014-2020), roedd disgwyl i Gymru gael €260 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr a €655 miliwn ar gyfer ei Rhaglen Datblygu Gwledig dros gyfnod y rhaglen. Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn dibynnu'n helaeth ar y cymorth a ddarperir drwy'r PAC ar hyn o bryd.   Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo'n ddiweddar i dalu'r lefel bresennol o daliadau uniongyrchol i ffermwyr tan 2020, a chytundebau'r Rhaglen Datblygu Gwledig a lofnodir cyn i'r DU adael yr UE. Un o'r cwestiynau allweddol fydd: a gaiff y lefelau presennol o gyllid ar gyfer cymorth amaethyddol eu cynnal yn yr hirdymor, o gofio bod y Trysorlys wedi datgan ers rhai blynyddoedd y byddai'n well ganddo leihau nifer y cymorthdaliadau incwm a delir yn uniongyrchol i ffermwyr? Pa fath o fframwaith polisi y gellid ei gael yn y dyfodol? Bydd angen ystyried i ba raddau y byddai yna bolisi amaethyddol ac amgylcheddol ar gyfer y DU neu a fydd pedwar polisi ar wahân. Mae llawer o arbenigwyr yn awgrymu bod polisïau'n fwy tebygol o ymwahanu yn y DU ar ôl gadael yr UE, er mwyn ystyried natur amrywiol y diwydiant ffermio ledled y DU. Mae undebau ffermio Cymru wrthi'n ymgynghori â'u haelodau ar opsiynau ar gyfer polisïau ffermio yn y dyfodol. Mae nifer o randdeiliaid ffermio a rhanddeiliaid amgylcheddol eisoes wedi awgrymu y byddai'n well ganddynt gael un fframwaith cyffredinol i'r DU gyfan sy'n rhoi rhyddid i'r gweinyddiaethau datganoledig greu eu polisïau eu hunain. Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wrth y Cynulliad ar 5 Hydref ei bod: ...wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghymheiriaid gweinidogol fod amaethyddiaeth wedi’i ddatganoli i’r lle hwn ers 17 mlynedd ac rydym yn disgwyl i’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r pwerau gael eu dychwelyd yn llawn i’r lle hwn pan ddaw’r amser. Un o'r prif ystyriaethau wrth lunio unrhyw fframwaith polisi yn y dyfodol fydd sut y caiff y polisi ei ariannu. Er enghraifft, os bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn creu eu polisïau eu hunain i ryw raddau, a ddylid cynnwys y cyllid cysylltiedig yn y grant bloc a roddir i'r gweinyddiaethau datganoledig, neu ei neilltuo i'w ddefnyddio ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn benodol? Sut y gallai hyn effeithio ar drefniadau masnach yn y dyfodol? Caiff tua 60 i 65 y cant o allforion bwyd-amaeth y DU (PDF 2.47MB) eu hallforio i'r UE a chaiff tua 70 y cant o fwyd y DU ei fewnforio o'r UE. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod 'mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE yn flaenoriaeth sylfaenol ac yn llinell goch.' Mae'r UE yn codi taliad ar gynhyrchion amaethyddol nad oes ganddynt fynediad manteisiol i'r farchnad Ewropeaidd o 12.2 y cant ar gyafrtaledd, ond gall y swm gynyddu hyd at 67 y cant ar gyfer rhai cynhyrchion cig.   Fodd bynnag, os gellir sicrhau cytundeb masnach llwyddiannus â'r UE sy'n cwmpasu cynhyrchion a gwasanaethau amaethyddol, ni fyddai'r tariffau hyn yn berthnasol. Mae risgiau a chyfleoedd posibl ar gyfer amaethyddiaeth yn dibynnu ar natur y cytundebau masnach a gaiff eu sicrhau. Daeth astudiaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar effeithiau senarios masnach gwahanol (PDF 2.47MB) i'r casgliad y gallai fod cyfleoedd i rai sectorau, fel y sector dofednod, wella cynhyrchiant ac incwm o dan gytundeb masnach rydd â'r UE, ond y byddai sectorau eraill, fel y sector da byw, sy'n arbennig o bwysig yng Nghymru, yn debygol o weld gostyngiadau mewn incwm. Bydd angen ystyried beth fydd yn digwydd i fwydydd o Gymru a warchodir o dan gynllun gwarchod enwau bwydydd yr UE, fel Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru, Cregyn Gleision Conwy a Ham Caerfyrddin. Yn ôl y Rhwydwaith Ffermwyr a Gwyddonwyr (PDF 6.16), mae enwau bwydydd a warchodir yn bwysig iawn yn yr UE fel ffordd o annog bwyd o safon uchel sydd â gwerth ychwanegol a all gynyddu'r elw i ffermwyr. Nododd y Rhwydwaith hefyd fod yr UE yn debygol o fynnu bod y DU yn diogelu enwau bwydydd a warchodir yn y DU fel rhan o unrhyw gytundeb masnach. Daw i'r casgliad hefyd y byddai'n rhaid i'r DU gynnig lefel ofynnol o ddiogelwch i fwydydd a warchodir yn yr UE, fel caws Parmesan a Parma Ham, yn unol â rheolau Sefydliad Masnach y Byd beth bynnag. Beth fydd yn digwydd i holl ddeddfwriaeth yr UE? Daw llawer o'n deddfwriaeth amgylcheddol bresennol o Gyfraith Ewrop. Ers y 1970au, mae'r UE wedi cytuno ar fwy na 200 o ddarnau o ddeddfwriaeth i ddiogelu'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys meysydd polisi fel gwastraff ac ailgylchu, dŵr, cynllunio a datblygu, cadwraeth bioamrywiaeth, deddfwriaeth ynghylch sŵn a'r aer, a diogelwch ac asesiadau diwydiannol a chemegol. Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno 'Bil y Diddymu Mawr' i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (a sefydlodd y byddai cyfraith yr UE yn drech na deddfwriaeth y DU) o'r dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol. Bydd y Bil hwn hefyd yn troi'r corff o ddeddfwriaeth bresennol yr UE yn gyfraith y DU ac yn caniatáu i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei diwygio neu ei diddymu yn amodol ar unrhyw gytundebau a chytuniadau â gwledydd eraill a'r UE ar faterion fel masnach.