Fframweithiau cyffredin, marchnad fewnol y DU a rhwymedigaethau rhyngwladol: Trosolwg

Cyhoeddwyd 20/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2020   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

20 July 2020

Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg | View this post in Welsh

Yn 2017, cytunodd Llywodraethau’r DU, yr Alban a Chymru y byddai angen iddynt reoli’r gwahaniaeth mewn polisïau rhwng gwahanol rannau’r DU mewn rhai ardaloedd a gwmpesir gan gyfraith yr UE.

Cytunwyd i sefydlu fframweithiau cyffredin ar sail meini prawf penodol. Roedd y meini prawf hyn yn cynnwys galluogi gweithrediad marchnad fewnol y DU, gan gydnabod y gwahaniaethau o ran polisi; sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol; a sicrhau y gall y DU negodi cytundebau rhyngwladol newydd, gan gynnwys cytundebau masnach, ac ymrwymo iddynt a’u gweithredu.

Mae'r briff hwn yn crynhoi’r datblygiadau hyd ddechrau mis Gorffennaf 2020, gan ystyried:

  • cynnydd y rhaglen fframweithiau cyffredin;
  • sut y gallai fframweithiau cyffredin ryngweithio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU a marchnad fewnol y DU; a
  • sut mae cyfraith a pholisi wedi datblygu mewn meysydd polisi lle mae fframweithiau cyffredin yn cael eu cynllunio, gan gynnwys datblygu trefniadau dros dro.

Mae'r briff hwn yn olrhain y datblygiadau a ddigwyddodd cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi papur gwyn y farchnad fewnol. Byddwn yn cyhoeddi ail bapur briffio a fydd yn edrych yn fanylach ar gynigion y farchnad fewnol eu hunain.

Fframweithiau cyffredin, marchnad fewnol y DU a rhwymedigaethau rhyngwladol: Trosolwg (PDF, 468KB)


Erthygl gan Lucy Valsamidis a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru