Fframwaith Polisi Trethi

Cyhoeddwyd 13/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Beth yw fframwaith polisi trethi?

Bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2017 yn ymwneud â Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017.

Mae'r fframwaith polisi trethi yn amlinellu agenda datganoli trethi Llywodraeth Cymru a bydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi treth yng Nghymru. Mae hefyd yn sefydlu cyfres eang o egwyddorion y dylid eu defnyddio wrth ddatblygu polisïau. Mae'r fframwaith yn hanfodol wrth lunio, dehongli a chymhwyso deddfau treth a chydymffurfiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o egwyddorion treth fel rhan o'r fframwaith:

  • Codi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor deg a phosibl.
  • Cyflawni amcanion polisi presennol Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi twf a swyddi.
  • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
  • Cael eu datblygu trwy gydweithredu ac ymwneud.
  • Cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.

Mae’r fframwaith polisi trethi wedi cael ei fynegi a'i ledaenu er mwyn caniatáu i'r cyhoedd gyfrannu at bolisïau treth Llywodraeth Cymru a deall ei rôl mewn polisïau o'r fath.

Pam mae angen fframwaith polisi trethi ar Gymru?

Ar 1 Ebrill 2018, bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru (PDF, 693KB). Enwau'r trethi newydd hyn i Gymru fydd y dreth trafodiadau tir (PDF, 760KB) a'r dreth gwarediadau tirlenwi (PDF, 1.03MB) yn y drefn honno.

Bydd treth incwm yn cael ei datganoli yn rhannol i Gymru ym mis Ebrill 2019 ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu datganoli'r ardoll agregau sy'n destun heriau cyfreithiol ar hyn o bryd. Pan fydd y trethi i gyd wedi cael eu datganoli, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn codi tua 25 y cant o'i chyllideb ei hun yn uniongyrchol, gyda'r 75 y cant sy'n weddill yn dod drwy grant bloc Cymru, sef cyllid a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU.

Mae hon yn gyfran sylweddol o'i chymharu â'r 6.6 y cant a godir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. O ystyried y trethi newydd yng Nghymru a gaiff eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru, bydd yn hanfodol datblygu fframwaith polisi trethi newydd i sicrhau bod gweithdrefnau yn cael eu sefydlu ar gyfer datblygu polisi treth yng Nghymru.


Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Flickr gan Images Money. Dan drwydded y Creative Commons

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Fframwaith Polisi Trethi (PDF, 133KB)