Cyhoeddwyd 24/02/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
24 Chwefror 2017
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r dull o ran cynllunio defnydd tir strategol yng Nghymru yn newid. Mae
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno dwy lefel newydd o gynllun datblygu, a fydd yn eistedd uwchben y Cynlluniau Datblygu Lleol presennol:
- Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy'n cwmpasu Cymru gyfan. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac yn disodli Cynllun Gofodol Cymru; a
- Chynlluniau Datblygu Strategol - mae'r rhain yn gynlluniau rhanbarthol a fydd yn eistedd rhwng y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddant yn ymdrin â materion sy'n torri ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol (ond nad ydynt o arwyddocâd cenedlaethol).
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ein
papur briffio ar bolisi cynllunio lleol (PDF 1MB) ac ym
Mhrosbectws Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru.
Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd

tir 20 mlynedd ac yn cael ei adolygu o leiaf bob pum mlynedd. Yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru, bydd y Fframwaith yn cael statws cynllun datblygu, sy'n golygu bod yn rhaid i bob Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Datblygu Lleol gydymffurfio ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn crynhoi
diben y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel a ganlyn;
- yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
- yn creu cyfeiriad ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol;
- yn cefnogi penderfyniadau ceisiadau o dan drefn Datblygiadau o Arwyddocâd Bwysigrwydd Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ein papur briffio ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (PDF 614KB);
- yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd yn parhau i osod y cyd-destun ar gyfer cynllunio defnydd tir; ac
- yn cyd-fynd â strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol ac yn sicrhau y gall y rhain gael eu cyflawni drwy’r system gynllunio.
Mae
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn cyhoeddi'r Fframwaith terfynol.
Bydd gan y Cynulliad 60 diwrnod (heb gynnwys y toriad) i ystyried y Fframwaith drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Cynulliad, neu unrhyw un o'i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylai'r Fframwaith drafft gael ei ddiwygio.
Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r Fframwaith terfynol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Cynulliad.
Mae'r amserlen bresennol (isod) yn dangos y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ym mis Hydref - Rhagfyr 2019. Disgwylir i'r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020.
Galw am dystiolaeth a phrosiectau
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn
galw am dystiolaeth a phrosiectau (7 Rhagfyr 2016 i 7 Mawrth 2017) er mwyn helpu i lywio datblygiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am brosiectau a thystiolaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei hamcanion cenedlaethol amrywiol. Mae'n rhoi'r canlynol fel enghreifftiau a allai fod yn berthnasol i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:
- astudiaethau Cymreig sy'n edrych ar y potensial i greu ynni adnewyddadwy, materion cysylltedd rhwng gwahanol rannau o Gymru neu faterion amgylcheddol sy'n berthnasol i sawl rhanbarth; a
- materion sy'n ymwneud ag ardal lai ond sy'n bwysig i'r genedl, megis gorsafoedd pŵer neu gynefinoedd sy'n bwysig i'r genedl.
Caiff tystiolaeth a phrosiectau a gyflwynir eu hystyried yng nghyd-destun y system cynllunio datblygiad ac yn erbyn y
saith nod llesiant, fel y nodir yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion am y dystiolaeth a'r prosiectau a gyflwynir, a hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'i hasesiad ohonynt. Fodd bynnag, ni cheir amserlen ar gyfer pryd y bwriedir i hyn gael ei wneud.
Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd
Mae
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi
Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd yn ymgynghori â'r cyhoedd wrth ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn
ymgynghoriad yn nechrau 2016.
Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn dangos y bydd dau gyfnod 12 wythnos arall o ymgynghori cyhoeddus, cyn i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad.
Mae'r amserlen lawn ar gyfer y Fframwaith fel a ganlyn:
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru