Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Ffonau symudol mewn ysgolion: beth fyddai canllawiau arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ei newid – a beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud?
Cyhoeddwyd 02/11/2026
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori (tan 2 Rhagfyr 2026) ar ganllawiau statudol newydd gyda’r bwriad o greu “disgwyliad cenedlaethol” cryfach y dylai ysgolion gyfyngu ar ddefnyddio ffonau symudol, gan adael i ysgolion unigol benderfynu beth sy’n gweithio'n lleol.
Mae’r cynigion yn dilyn arolwg diweddar o’r gweithlu a ‘fforwm cenedlaethol ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion’. Daw yn sgil pryder cynyddol am effaith ffonau symudol ar achosion o dynnu sylw, ymddygiad a llesiant yn fyd-eang.
Er bod tystiolaeth gref bod cyfyngiadau’n lleihau defnydd ffonau ac achosion o dynnu sylw yn ystod amser ysgol, mae’r effeithiau ar gyrhaeddiad, iechyd corfforol a meddyliol, a defnydd digidol cyffredinol plant yn llai sicr. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r dystiolaeth honno, y cynigion yng Nghymru, a sut maen nhw’n cymharu â pholisïau ledled y DU.
Beth sy’n cael ei gynnig yng Nghymru?
Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru waharddiad cenedlaethol mewn grym ar ffonau symudol, nac ychwaith canllawiau penodol. Mae cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn gosod rheolau yn lleol, gyda chefnogaeth ehangach canllawiau ar-lein ynghylch ymddygiad, diogelu a diogelwch ar-lein, yn ogystal â dyletswyddau statudol eraill, megis dyletswyddau diogelu o dan adran 175 o Deddf Addysg 2002.
O dan y canllawiau drafft, byddai disgwyl i bob ysgol gael polisi sy’n cyfyngu ar ddefnyddio ffonau symudol. Byddai'n ofynnol i ysgolion “roi sylw” i'r canllawiau wrth ddatblygu eu polisi, a byddai'n rhaid iddynt hefyd gyfiawnhau unrhyw wyriad oddi wrthynt.
Mae’r canllawiau arfaethedig yn cynnig pum “model cyffredin” ar gyfer cyfyngu ar ffonau symudol, y gallai ysgolion eu rhoi ar waith:
Dim ffonau symudol ar safle’r ysgol;
casglu ffonau symudol wrth i blant gyrraedd yr ysgol;
codenni neu loceri y gellir eu cloi;
ddim i’w defnyddio, ddim i’w clywed; a hefyd
caniatáu defnyddio ffonau mewn parthau neu slotiau amser penodol.
Y dull a fwriadwyd yw “disgwyliad cenedlaethol” bod defnydd o ffonau symudol yn cael ei gyfyngu yn ystod y diwrnod ysgol, yn hytrach nag un model cenedlaethol. Byddai angen i bolisïau ddarparu ar gyfer amgylchiadau unigol ac addasiadau rhesymol, gan gynnwys anghenion meddygol, anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrifoldebau gofalwyr ifanc, ac anghenion plant mewn gofal.
Mae’r canllawiau drafft yn cwmpasu ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys chweched dosbarth ysgolion ond nid colegau addysg bellach. Mae’n datgan y dylai ysgolion, wrth ddylunio polisi, ystyried “grwpiau oedran a cham datblygu”.
Beth mae’r dystiolaeth sy’n benodol i Gymru yn ei ddweud?
Yn dilyn deiseb yn 2024 i wahardd ffonau clyfar mewn ysgolion, fe wnaeth Pwyllgor Deisebau’r Senedd ddod i’r casgliad, er bod tystiolaeth o niwed sy'n gysylltiedig â ffonau clyfar yn “gymhellol ac yn peri pryder”, nid oedd y dystiolaeth i gefnogi gwaharddiad unffurf ym mhob ysgol yng Nghymru yn ddigonol. Yn hytrach, galwodd am ganllawiau cenedlaethol cliriach, fframwaith ar gyfer penderfyniadau ysgolion, a monitro parhaus o’r dystiolaeth, fel y trafodwyd yn ein herthygl ym mis Mai 2025.
Roedd 82% o’r ymatebwyr i arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o’r gweithlu addysgol o blaid cyfyngiadau statudol, gan weld manteision o ran achosion o dynnu sylw, rheoli ymddygiad, bwlio/camddefnydd, a llesiant. Fodd bynnag, defnyddiodd yr arolwg ddull agored, hunan-ddewis, sy’n golygu nad yw’r canfyddiadau, o reidrwydd, yn gynrychioliadol o weithlu addysg Cymru yn ei gyfanrwydd.
Mae barn dysgwyr yn ddarlun cymysg. Yn ôl arolwg yn 2024 gan Gomisiynydd Plant Cymru, roedd 94% o ymatebwyr oedran uwchradd yn mynd â ffôn clyfar i’r ysgol ac roedd 30% wedi defnyddio un yn y dosbarth at ddibenion heblaw dysgu. Roedd y rhan fwyaf yn fodlon â rheolau eu hysgol, tra bod 62% wedi dweud y dylid caniatáu ffonau clyfar mewn ystafelloedd dosbarth, gan nodi dysgu, cyswllt teuluol a diogelwch, tra bod ambell un yn cydnabod y gallent fod yn tynnu sylw.
Sut mae Cymru yn cymharu â gwledydd eraill?
Dangosodd monitro diweddar gan UNESCO, ym mis Medi 2026, fod 114 o systemau addysg bellach wedi gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion yn genedlaethol, sy’n cynrychioli 58% o wledydd ledled y byd.
Mae’r sefyllfa’n wahanol ar draws y DU:
Mae canllawiau statudol Lloegr, a ddaeth i rym ar ddechrau blwyddyn ysgol 2026/27, yn dweud y dylai ysgolion fod yn amgylcheddau di-ffôn yn ddiofyn, yn amodol ar eithriadau ac addasiadau rhesymol.
Yn ôl canllawiau anstatudol yr Alban, a ddiweddarwyd ym mis Mehefin 2026, dylai cyfyngiadau fod yn berthnasol o leiaf yn ystod cyfnodau addysgu a dysgu, ac y dylai ysgolion ystyried gwaharddiad ysgol gyfan. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i ddeddfu i gyfyngu ar ffonau symudol, ond nid yw hyn wedi’i gyflwyno eto.
Roedd canllawiau Gogledd Iwerddon ym mis Awst 2026 yn gosod disgwyliadau cryfach ar gyfer ysgolion di-ffôn gyda gweithrediad lleol, ac ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth bosibl yn rhedeg tan ganol mis Tachwedd.
Yn rhyngwladol, mae modelau cyfreithiol yn wahanol. Mae cyfyngiad statudol Ffrainc bellach yn ymestyn o oedran meithrin i lycée (15-18 oed). Yn y Ffindir, mae'r cyfyngiad statudol yn berthnasol i wersi yn unig, gydag ysgolion yn gosod rheolau ehangach. Mae Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion cynradd wahardd defnydd a mynediad disgyblion drwy gydol y dydd ac ysgolion ôl-gynradd i gyfyngu ar ddefnydd, gan gadw hyblygrwydd dros roi hynny ar waith.
A yw cyfyngiadau ar ffonau mewn ysgolion yn gweithio?
Mae tystiolaeth uniongyrchol ar effeithiau cyfyngu ar ffonau symudol yn gymysg ac yn gymharol gyfyngedig, ac yn aml wedi’i gosod o fewn sgwrs ehangach ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ac amser sgrin. Mae rhai astudiaethau’n canfod effeithiau cadarnhaol:
Roedd gwerthusiad yn 2016 ar draws pedair dinas yn Lloegr yn cysylltu gwaharddiadau â pherfformiad gwell mewn arholiadau, yn enwedig ar gyfer disgyblion a oedd wedi tangyflawni’n flaenorol.
Fe wnaeth astudiaeth yn 2026 yn Norwy ganfod rhywfaint o ostyngiad mewn bwlio, a gwelliannau mewn rhai canlyniadau addysgol ac iechyd meddwl, yn enwedig i ferched.
Nododd meta-ddadansoddiad yn 2024, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Education Sciences, effaith gadarnhaol, gymedrol, gyffredinol, a oedd yn gryfach ar gyfer llesiant cymdeithasol na pherfformiad academaidd.
Mwy gofalus yw ymchwil ar raddfa fawr arall.
Fe wnaeth yr astudiaeth SMART Schools yn 2025, a gyhoeddwyd yn y Lancet, gymharu iechyd, llesiant a chanlyniadau addysgol ymhlith disgyblion mewn ysgolion a oedd yn cyfyngu ar ffonau, neu'n caniatáu defnydd ohonynt yn ystod y diwrnod ysgol. Canfu ymchwilwyr fod polisïau cyfyngol wedi lleihau’r defnydd o ffonau a’r cyfryngau cymdeithasol yn sylweddol yn ystod amser ysgol, ond ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o lesiant meddwl gwell na defnydd cyffredinol is.
Yn yr un modd, canfuoddymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Stanford lai o ddefnydd o ffonau yn ystod amser ysgol, ond prin oedd yr effaith uniongyrchol ar sgoriau profion, presenoldeb, sylw yn yr ystafell ddosbarth neu seiberfwlio canfyddedig, er bod rhai canlyniadau wedi newid dros amser.
Fe wnaeth adolygiad cwmpasu 2024, a gyhoeddwyd yn y Journal of Psychologists and Counsellors in Schools, a fapiodd dystiolaeth bresennol, ganfod bod astudiaethau'n amrywio’n fawr o ran eu dyluniad, eu canlyniadau a’u diffiniad o ‘waharddiad’. Nododd hefyd ddiffyg treialon rheoli ar hap yn cymharu defnydd cyn ac ar ôl y gwaharddiad.
Canfuodd dadansoddiad o ddata PISA 2022 lai o achosion o dynnu sylw lle’r oedd gwaharddiadau ar waith, ond dim cysylltiad â pherfformiad academaidd uwch ar ôl addasu ar gyfer rhywedd, ymddygiad a statws economaidd-gymdeithasol.
Y casgliad cliriaf yw y gall cyfyngiadau leihau’r defnydd o ffonau ac achosion o dynnu sylw yn ystod amser ysgol. Dylid bod yn fwy gofalus wrth wneud honiadau am gyrhaeddiad, llesiant, bwlio, neu ddefnydd digidol cyffredinol, gan nad oes tystiolaeth sylweddol, hyd yn hyn. Er bod ymchwil ehangach yn cysylltu amser sgrin problemus neu ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol â gwaeth llesiant, cwsg neu ddysgu, megis adroddiadau gan yr OECD ac UNESCO, fel cyd-destun, nid yw’r ymchwil hwn ynddo’i hun yn dangos y bydd cyfyngiadau mewn ysgolion yn gwella’r canlyniadau hynny.
Mae rhoi’r mesurau ar waith yn bwysig hefyd. Yn ôl amcangyfrif dadansoddiad economaidd o astudiaeth ysgol SMART, mae ysgol uwchradd o faint cyffredin yn treulio mwy na 100o oriau staff bob wythnos yn rhoi ei pholisi ffonau symudol ar waith, ac yn ei orfodi. Treuliodd ysgolion â pholisïau ‘cyfyngol’, a ddiffinnir fel y rheini lle na chaniateir defnydd hamdden o ffonau yn ystod y diwrnod ysgol, ychydig yn llai o amser staff yn rheoli defnydd ffonau symudol o’i gymharu ag ysgolion â pholisïau ‘caniataol’, er bod y sampl fach yn creu ansicrwydd ynghylch y gwahaniaethau amcangyfrifedig.
Daeth adroddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2026 i’r casgliad bod cyfyngiadau’n gweithio’n well ochr yn ochr â rheolau clir, cyfranogiad gan ddisgyblion, ac addysgu ehangach am ddefnydd digidol diogel a chyfrifol.
“Cyfeiriad cenedlaethol” gyda disgresiwn lleol
Mae cynigion Cymru yn syrthio rhwng gwaharddiad unffurf a’r model presennol o ddisgresiwn lleol: Cynnig cyfeiriad cenedlaethol statudol, ond gydag ysgolion yn dewis y model ac yn gwneud eithriadau angenrheidiol. Cwestiwn allweddol yw nid yn unig a fydd y canllawiau newydd i gyfyngu ar ffonau mewn ysgolion yn cael eu rhoi ar waith, ond hefyd sut y bydd effaith y newid hwn yn cael ei gwerthuso dros amser.
Erthygl ga Dr Nyle Bevan-Clark, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru