Cyhoeddwyd 04/09/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
04 Medi 2015
Erthygl gan Nia Seaton a David Millet, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ar ôl derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'n ffeithlun er mwyn ceisio dangos sut y gallai'r
gofynion newydd i gyflwyno adroddiadau yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015,
Deddf Cynllunio 2015 a Bil yr Amgylchedd
gyd-fynd â'i gilydd o bosibl.
Fel yr eglurwyd yn y ffeithlun, arweiniad yw'r llinell amser ac ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad diffiniol. Y nod yw iddo helpu Aelodau a rhanddeiliaid i ystyried sut y gallai'r gwahanol ddyletswyddau yn y ddeddfwriaeth gyd-fynd â'i gilydd dros y deng mlynedd nesaf. Mae'n seiliedig ar y wybodaeth orau sydd ar gael inni ar hyn o bryd, a gallai newid eto wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn â gweithredu'r ddeddfwriaeth, ac wrth i Fil yr Amgylchedd barhau ar ei daith drwy'r Cynulliad.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg