Faint o bobl sy'n byw yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 30/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin. Maent yn dangos yr amcangyfrifwyd mai poblogaeth breswyl arferol Cymru ar 21 Mawrth 2021 oedd 3,107,500. Mae hyn yn gynnydd o 44,000 (1.4 y cant) ers Cyfrifiad 2011. Bydd gwybodaeth fanylach, gan gynnwys data ar y Gymraeg, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw sut y gallai cynnal y Cyfrifiad yn ystod y pandemig fod wedi effeithio ar ddewis pobl o gyfeiriad arferol.

Beth mae canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn ei ddangos?

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn y bwletin ystadegol Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhywedd a grwpiau oedran pum mlynedd. Mae’r prif ganlyniadau ar gyfer Cymru yn dangos y canlynol:

  • Y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, oedd 3,107,500; y boblogaeth fwyaf a gofnodwyd gan gyfrifiad yng Nghymru;
  • Mae hyn yn gynnydd yn y boblogaeth o 44,000 (1.4 y cant) ers Cyfrifiad 2011 pan oedd y boblogaeth yn 3,063,456;
  • Yn 2021 roedd 1,586,600 o fenywod (51.1 y cant) a 1,521,000 (48.9 y cant) o ddynion;
  • Cynyddodd cyfran y boblogaeth 65 oed a throsodd o 18.4 y cant yn 2011 i 21.3 y cant yn 2021;
  • Ar gyfartaledd roedd 150 o drigolion fesul cilometr sgwâr yn 2021 o gymharu â 434 fesul cilometr sgwâr yn Lloegr; ac
  • Roedd 1,347,100 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol, sef cynnydd o 44,400 (3.4 y cant) ers 2011.

Twf yn y boblogaeth

Rhwng 2011 a 2021 roedd cyfradd twf y boblogaeth Cymru (1.4 y cant) yn is na Lloegr (6.6 y cant) a holl ranbarthau Lloegr. Dwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr gyda'r newid mwyaf yn y boblogaeth (8.3 y cant) a Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd yr isaf (1.9 y cant).

Arafodd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 (1.4 y cant) o gymharu â 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 5.5 y cant.

Ffigur 1: Poblogaeth 1801 i 2021, Cymru

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn egluro bod mwy o farwolaethau wedi’u cofrestru yng Nghymru rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2021 (332,000) na genedigaethau byw (321,000), sy’n ostyngiad naturiol o tua 11,000 o breswylwyr arferol. Gyda'r twf yn y boblogaeth ers 2011 oherwydd mudo positif net o tua 55,000 o drigolion arferol.

Newid ym mhoblogaeth awdurdodau lleol

Roedd gan Gasnewydd (9.5 y cant) y twf poblogaeth uchaf ers 2011, ac yna Caerdydd (4.7 y cant) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5 y cant). Gwelodd saith awdurdod lleol ostyngiad yn y boblogaeth, y mwyaf oedd Ceredigion (5.8 y cant), Blaenau Gwent (4.2 y cant) a Gwynedd (3.7 y cant). Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu offeryn rhyngweithiol defnyddiol sy’n eich galluogi i archwilio sut mae poblogaethau wedi newid mewn awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr.

Caerdydd oedd yr awdurdod lleol mwyaf poblog yng Nghymru gyda 2,572 o drigolion fesul cilometr sgwâr a Phowys oedd y lleiaf poblog gyda 26 o drigolion fesul cilometr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn egluro:

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Ffigur 2: Newid yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021

Poblogaeth sy'n heneiddio

Mae nifer y bobl mewn grwpiau oedran hŷn yn parhau i gynyddu. Yn 2011, roedd 18.4 y cant (562,544) o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn. Yn 2021 roedd hyn wedi cynyddu i 21.3 y cant (662,000). Mae hyn yn cymharu â 18.4 y cant o'r boblogaeth yn Lloegr sy'n 65 oed a throsodd.

Cynyddodd canran y bobl 90 oed a throsodd hefyd yng Nghymru o 0.8 y cant (25,200) yn 2011 i 1.0 y cant yn 2021 (29,700). Mae hyn yn cymharu â 0.9 y cant yn Lloegr yn 2021.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi cymhariaeth o nifer y bobl yn ôl oedran a rhywedd rhwng cyfrifiadau 2011 a 2021. Yn yr eirfa ar ganlyniadau’r Cyfrifiad mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn diffinio rhywedd fel a ganlyn:

Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd “Benyw” a “Gwryw”.

Disgwylir i grynodeb pwnc ar hunaniaeth rhywedd gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ffigur 3: Oedran a rhywedd y boblogaeth, 2011 i 2021, Cymru

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021

Beth mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn ei olygu ar gyfer yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn?

Mae’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011 ac wedi’u haddasu ar gyfer genedigaethau byw, marwolaethau a mudo. Po bellaf y byddwn yn symud i ffwrdd o'r cyfrifiad blaenorol, y mwyaf ansicr yw'r amcangyfrifon hyn. Felly mae Cyfrifiad 2021 yn bwysig er mwyn deall cywirdeb amcangyfrifon poblogaeth eraill a chael darlun mwy diweddar o boblogaeth Cymru. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau sy’n cymharu Cyfrifiad 2021 â’r amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf a’u hamcangyfrifon poblogaeth ar sail weinyddol yn ddiweddarach eleni.

Faint o bobl a ymatebodd i Gyfrifiad 2021?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai’r gyfradd ymateb person ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4 y cant o’r boblogaeth breswyl arferol gyda chyfran y ffurflenni a gyflwynwyd ar-lein yng Nghymru (68 y cant) yn is na Lloegr (90 y cant). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod y gyfran is o ffurflenni ar-lein yng Nghymru yn debygol o fod oherwydd canran uwch o gartrefi lle roedd y cyswllt cychwynnol gyda holiadur papur yn hytrach na chod mynediad ar-lein.

Pryd y bydd data cyfrifiad yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban?

Cynhaliwyd y Cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ar 21 Mawrth 2021 ac mae’r canlyniadau cyntaf wedi’u cyhoeddi gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Symudwyd cyfrifiad yr Alban i 20 Mawrth 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi o 2023 ymlaen.

Pryd y bydd data mwy manwl Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi?

Mae disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu gael eu cyhoeddi o fis Hydref ynghyd â chrynodebau pwnc, gan gynnwys y Gymraeg, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chyn-filwyr lluoedd arfog y DU. Mae rhagor o fanylion ar gael yng nghynlluniau rhyddhau y Swyddfa Ystadegau Gwladol.


Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru