Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin. Maent yn dangos yr amcangyfrifwyd mai poblogaeth breswyl arferol Cymru ar 21 Mawrth 2021 oedd 3,107,500. Mae hyn yn gynnydd o 44,000 (1.4 y cant) ers Cyfrifiad 2011. Bydd gwybodaeth fanylach, gan gynnwys data ar y Gymraeg, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw sut y gallai cynnal y Cyfrifiad yn ystod y pandemig fod wedi effeithio ar ddewis pobl o gyfeiriad arferol.
Beth mae canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn ei ddangos?
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn y bwletin ystadegol Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhywedd a grwpiau oedran pum mlynedd. Mae’r prif ganlyniadau ar gyfer Cymru yn dangos y canlynol:
- Y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, oedd 3,107,500; y boblogaeth fwyaf a gofnodwyd gan gyfrifiad yng Nghymru;
- Mae hyn yn gynnydd yn y boblogaeth o 44,000 (1.4 y cant) ers Cyfrifiad 2011 pan oedd y boblogaeth yn 3,063,456;
- Yn 2021 roedd 1,586,600 o fenywod (51.1 y cant) a 1,521,000 (48.9 y cant) o ddynion;
- Cynyddodd cyfran y boblogaeth 65 oed a throsodd o 18.4 y cant yn 2011 i 21.3 y cant yn 2021;
- Ar gyfartaledd roedd 150 o drigolion fesul cilometr sgwâr yn 2021 o gymharu â 434 fesul cilometr sgwâr yn Lloegr; ac
- Roedd 1,347,100 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol, sef cynnydd o 44,400 (3.4 y cant) ers 2011.
Twf yn y boblogaeth
Rhwng 2011 a 2021 roedd cyfradd twf y boblogaeth Cymru (1.4 y cant) yn is na Lloegr (6.6 y cant) a holl ranbarthau Lloegr. Dwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr gyda'r newid mwyaf yn y boblogaeth (8.3 y cant) a Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd yr isaf (1.9 y cant).
Arafodd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 (1.4 y cant) o gymharu â 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 5.5 y cant.
Ffigur 1: Poblogaeth 1801 i 2021, Cymru
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn egluro bod mwy o farwolaethau wedi’u cofrestru yng Nghymru rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2021 (332,000) na genedigaethau byw (321,000), sy’n ostyngiad naturiol o tua 11,000 o breswylwyr arferol. Gyda'r twf yn y boblogaeth ers 2011 oherwydd mudo positif net o tua 55,000 o drigolion arferol.
Newid ym mhoblogaeth awdurdodau lleol
Roedd gan Gasnewydd (9.5 y cant) y twf poblogaeth uchaf ers 2011, ac yna Caerdydd (4.7 y cant) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5 y cant). Gwelodd saith awdurdod lleol ostyngiad yn y boblogaeth, y mwyaf oedd Ceredigion (5.8 y cant), Blaenau Gwent (4.2 y cant) a Gwynedd (3.7 y cant). Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu offeryn rhyngweithiol defnyddiol sy’n eich galluogi i archwilio sut mae poblogaethau wedi newid mewn awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr.
Caerdydd oedd yr awdurdod lleol mwyaf poblog yng Nghymru gyda 2,572 o drigolion fesul cilometr sgwâr a Phowys oedd y lleiaf poblog gyda 26 o drigolion fesul cilometr.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn egluro:
Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.
Ffigur 2: Newid yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021
Poblogaeth sy'n heneiddio
Mae nifer y bobl mewn grwpiau oedran hŷn yn parhau i gynyddu. Yn 2011, roedd 18.4 y cant (562,544) o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn. Yn 2021 roedd hyn wedi cynyddu i 21.3 y cant (662,000). Mae hyn yn cymharu â 18.4 y cant o'r boblogaeth yn Lloegr sy'n 65 oed a throsodd.
Cynyddodd canran y bobl 90 oed a throsodd hefyd yng Nghymru o 0.8 y cant (25,200) yn 2011 i 1.0 y cant yn 2021 (29,700). Mae hyn yn cymharu â 0.9 y cant yn Lloegr yn 2021.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi cymhariaeth o nifer y bobl yn ôl oedran a rhywedd rhwng cyfrifiadau 2011 a 2021. Yn yr eirfa ar ganlyniadau’r Cyfrifiad mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn diffinio rhywedd fel a ganlyn:
Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd “Benyw” a “Gwryw”.
Disgwylir i grynodeb pwnc ar hunaniaeth rhywedd gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ffigur 3: Oedran a rhywedd y boblogaeth, 2011 i 2021, Cymru
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021
Beth mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn ei olygu ar gyfer yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn?
Mae’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011 ac wedi’u haddasu ar gyfer genedigaethau byw, marwolaethau a mudo. Po bellaf y byddwn yn symud i ffwrdd o'r cyfrifiad blaenorol, y mwyaf ansicr yw'r amcangyfrifon hyn. Felly mae Cyfrifiad 2021 yn bwysig er mwyn deall cywirdeb amcangyfrifon poblogaeth eraill a chael darlun mwy diweddar o boblogaeth Cymru. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau sy’n cymharu Cyfrifiad 2021 â’r amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf a’u hamcangyfrifon poblogaeth ar sail weinyddol yn ddiweddarach eleni.
Faint o bobl a ymatebodd i Gyfrifiad 2021?
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai’r gyfradd ymateb person ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4 y cant o’r boblogaeth breswyl arferol gyda chyfran y ffurflenni a gyflwynwyd ar-lein yng Nghymru (68 y cant) yn is na Lloegr (90 y cant). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod y gyfran is o ffurflenni ar-lein yng Nghymru yn debygol o fod oherwydd canran uwch o gartrefi lle roedd y cyswllt cychwynnol gyda holiadur papur yn hytrach na chod mynediad ar-lein.
Pryd y bydd data cyfrifiad yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban?
Cynhaliwyd y Cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ar 21 Mawrth 2021 ac mae’r canlyniadau cyntaf wedi’u cyhoeddi gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Symudwyd cyfrifiad yr Alban i 20 Mawrth 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi o 2023 ymlaen.
Pryd y bydd data mwy manwl Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi?
Mae disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu gael eu cyhoeddi o fis Hydref ynghyd â chrynodebau pwnc, gan gynnwys y Gymraeg, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chyn-filwyr lluoedd arfog y DU. Mae rhagor o fanylion ar gael yng nghynlluniau rhyddhau y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru