Etholiad y Senedd 2021: Pob dim sydd angen i chi wybod

Cyhoeddwyd 06/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/04/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 6 Mai 2021 bydd pobl Cymru yn bwrw pleidlais er mwyn penderfynu pwy fydd eu Haelodau o’r Senedd am y pum mlynedd nesaf.

Bydd Aelodau etholedig yn ffurfio Senedd Cymru ac mae 60 Aelod o’r Senedd i gyd. Rôl Senedd Cymru yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy oruchwylio ei gwaith, gwneud deddfau a chynnal gwaith craffu yn eu cylch, a chytuno ar drethi Cymru.

Bydd yr etholiad hefyd yn penderfynu pwy fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, sy'n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus fel ysbytai, ysgolion a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei ffurfio gan y blaid neu'r pleidiau sydd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd, ac mae'n cael ei harwain gan y Prif Weinidog. Os oes un blaid yn ennill dros 30 o seddi, bydd yn gallu ffurfio llywodraeth. Fel arall, gall y blaid fwyaf naill ai ffurfio llywodraeth leiafrifol neu mynd i glymblaid gydag un blaid neu’n fwy.

Pwy all bleidleisio?

Gall person bleidleisio yn etholiadau'r Senedd os yw:

  • wedi cofrestru i bleidleisio;
  • yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad;
  • yn byw yng Nghymru; ac
  • heb ei eithrio gan y Gyfraith rhag pleidleisio.

Hwn fydd yr etholiad cyntaf lle bydd pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru yn gallu pleidleisio, gan fod y Senedd wedi pasio Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. I gynorthwyo pleidleiswyr newydd, mae Comisiwn y Senedd a'r Comisiwn Etholiadol wedi creu adnoddau i helpu pobl ifanc i ddeall beth i'w ddisgwyl yn yr etholiadau sydd ar ddod.

Mae rhagor o wybodaeth ar bwy all bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Sut mae cofrestru?

Fe allwch chi gofrestru i bleidleisio:

  • ar-lein, y dyddiad cau i wneud cais yw hanner nos ar 19 Ebrill 2021, neu
  • drwy gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer eich ardal leol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio gyda chod post ar wefan uk.

Sut allwch chi bleidleisio?

Fe allwch chi fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol, sef:

  • yn bersonol, mewn gorsaf bleidleisio;
  • trwy'r post; neu
  • trwy ddirprwy (sef trefnu i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan).

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fwrw pleidlais trwy’r post yw 5pm, ddydd Mawrth 20 Ebrill 2021. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fwrw pleidlais trwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mawrth 27 Ebrill 2021.

Fodd bynnag, mae mesurau wrth gefn a basiwyd gan y Senedd yn olygu bod yna hyblygrwydd i rai pleidleiswyr i wneud cais i fwrw pleidlais trwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Mae’n rhaid bod hynny’n ymwneud â rhywbeth nad oedd yn person yn ymwybodol ohono cyn y dyddiad cau arferol ar gyfer bwrw pleidlais trwy ddirprwy, er enghraifft gorfod hunanynysu’n annisgwyl o dan reoliadau’r Coronafeirws.

Fe all pwy bynnag nad yw eisiau mynd i orsaf bleidleisio, am ba bynnag reswm, wneud cais i fwrw pleidlais trwy’r post neu trwy ddirprwy.

Sut mae'r system bleidleisio’n gweithio?

Yn ystod etholiad y Senedd, mae gan bobl Cymru ddwy bleidlais: un bleidlais ar gyfer etholaeth ac un bleidlais ar gyfer rhanbarth. Mae'r system bleidleisio hon yn golygu bod pump Aelod yn eich cynrychioli yn y Senedd. Un Aelod sy’n cynrychioli eich etholaeth a phedwar Aelod sy’n cynrychioli’r rhanbarth o Gymru rydych chi'n byw ynddi.

Pleidlais etholaethol

Bydd y bleidlais gyntaf ar y papur balot ar gyfer pwy bynnag rydych chi eisiau i’ch cynrychioli chi a’ch ardal leol, sef eich etholaeth. Mae gan Cymru 40 o etholaethau, ac mae pob etholaeth yn anfon Aelod i’r Senedd.

Mae’r Aelodau hyn yn cael eu hethol gan ddefnyddio'r system cyntaf i’r felin. Mae hynny’n golygu mai’r ymgeisydd etholaethol a gafodd y mwyaf o bleidleisiau a etholir.

Pleidlais rhanbarthol

Mae’r ail bleidlais ar y papur balot yn mynd i bwy bynnag rydych chi eisiau i gynrychioli eich rhanbarth yng Nghymru. Mae Cymru wedi'i rhannu’n bum rhanbarth, gyda phob rhanbarth yn anfon pedwar Aelod i’r Senedd:

  • Dwyrain De Cymru;
  • Canol De Cymru;
  • Gorllewin De Cymru;
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru; a
  • Gogledd Cymru.

Mae hynny’n golygu bod 20 Aelod rhanbarthol o’r Senedd. Fe'u hetholir gan ddefnyddio'r System Aelodau Ychwanegol sy'n helpu i adlewyrchu'r gefnogaeth i bob plaid ledled Cymru.

Dros yr wythnosau sydd i ddod, fe fydd y Senedd yn cynnal sesiynau ar-lein rhad ac am ddim sy'n agored i unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am rôl y Senedd, a phleidleisio yn etholiad 2021.

Pryd fyddwn ni'n gwybod beth yw’r canlyniadau?

Bydd y canlyniadau'n cymryd mwy o amser eleni oherwydd ni fydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif dros nos o ganlyniad i’r pandemig. Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn rhagweld y bydd y broses ddilysu a chyfrif pleidleisiau’n cymryd mwy o amser er mwyn sicrhau amgylchedd sy’n ddiogel o ran COVID ond dylai’r holl bleidleisiau fod wedi cael eu cyfrif ddau ddiwrnod ar ôl yr etholiad.

Mae angen i'r Senedd gyfarfod erbyn 27 Mai 2021, yn unol â Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws). Bydd y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd newydd yn cael eu hethol yn y cyfarfod hwn.

A fydd y diwrnod pleidleisio yn wahanol o dan gyfyngiadau’r Coronafeirws?

Mae Llywodraeth Cymru’n gneud yn siŵr bod £1.5 miliwn ar gael i sicrhau bod Etholiad y Senedd eleni’n ddiogel o ran COVID. Bydd hyn yn cynnwys gorsafoedd hylif diheintio dwylo, sgriniau, a marciau cadw pellter cymdeithasol y tu mewn a'r tu allan i orsafoedd pleidleisio.

Rhaid i bleidleiswyr wisgo gorchudd wyneb, oni bai eu bod wedi'u heithrio, ac fe'u cynghorir i ddod â'u beiro neu bensil eu hunain. Fodd bynnag, bydd pensiliau glân ar gael i'r rheini sy'n anghofio dod â'u rhai eu hunai.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gyda chyngor a threfniadau yn benodol ar gyfer Etholiad y Senedd 2021.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru