Etholiad y Cynulliad yn 2016: y ganran a bleidleisiodd
Cyhoeddwyd 12/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
12 Mai 2016
Erthygl gan Owen Holzinger, Helen Jones a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pleidleisiodd canran uwch yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 nag yn unrhyw un o etholiadau'r Cynulliad ers 1999.
Ar 18 Ebrill roedd tua 2.25 miliwn o bleidleiswyr cofrestredig yng Nghymru. Pleidleisiodd dros 1.02 miliwn o'r unigolion hyn yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai 2016.
Y ganran a bleidleisiodd yn seiliedig ar y pleidleisiau dilys* oedd 45.4%. Mae'r ganran hon yn llai nag ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 (65.7%) ond 4 pwynt canran yn fwy nag yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011 (41.4%).
Ar lefel etholaeth, yng Ceredigion y gwelwyd y ganran fwyaf yn peidleisio (57.6%), ac yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy y gwelwyd y ganran leiaf (34.6%). Y ganran fwyaf erioed i bleidleisio oedd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ym 1999 (60.9%). Pleidleisiodd y ganran leiaf erioed yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003 (24.9%).
Cynyddodd y ganran a bleidleisiodd ym mhob etholaeth ac eithrio Alun a Glannau Dyfrdwy, lle y bu gostyngiad o 2.3 pwynt canran, o 36.9% yn 2011 i 34.6% yn 2016. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y ganran a bleidleisiodd yn y Rhondda, o 38.1% yn 2011 i 47.2% yn 2016 (9.1%).
Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho rhestr gyflawn o’r canrannau a bleidleisiodd fesul etholiad.
* mae'r ffigurau i gyd yn seiliedig ar y pleidleisiau dilys a gafodd eu cyfrif. Pleidleisiau dilys yw'r rhai hynny a fwriwyd ac yr ystyrid y gellid eu caniatáu.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg