View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Etholiad y Cynulliad yn 2016: Cynrychiolaeth menywod ym maes gwleidyddiaeth
Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
27 Mai 2016
Erthygl gan Owen Holzinger, Helen Jones a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ers datganoli, mae'r gyfran o Aelodau'r Cynulliad sy'n fenywod ac a etholwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ymhlith yr uchaf yn y byd, o'i chymharu a deddfwrfeydd eraill.
Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol nifer cyfartal o ddynion a menywod yn Aelodau'r Cynulliad. Ers hynny, bu gostyngiad yn nifer yr Aelodau Cynulliad sy'n fenywod. Fodd bynnag, yn dilyn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o'r holl ddeddfwrfeydd datganoledig, sy'n parhau'n fwyaf cynrychioliadol.
Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, etholwyd 25 o fenywod yn Aelodau'r Cynulliad, sy'n cyfateb i 41.7% o Aelodau'r Cynulliad. Mae hyn yr un faint â 2011 ac yn uwch nag etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Cyfartaledd y byd ar hyn o bryd yw 22.7%.
Yn dilyn yr etholiad, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfran uwch o gynrychiolwyr benywaidd na Senedd yr Alban (34.9%), Tŷ'r Cyffredin (29.4%) a Chynulliad Gogledd Iwerddon (27.8%).
Yn gyfan gwbl, safodd 553 o ymgeiswyr yn yr etholiad i'r Cynulliad yn 2016 (heb ei addasu ar gyfer ymgeiswyr a safodd ar y rhestr ranbarthol ac ar gyfer etholaeth.) O'r rhain, roedd 362 (65.5%) yn ddynion a 191 (34.5%) yn fenywod.
Menywod oedd 31.5% o'r ymgeiswyr etholaeth ond cawsant eu hethol i gynrychioli 47.5% o etholaethau. Yn Senedd y DU, mae Aelodau Seneddol benywaidd yn cynrychioli 30.0% o etholaethau Cymru.
Os hoffech ragor o wybodaeth am fenywod mewn bywyd cyhoeddus, darllenwch ein blog blaenorol.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg