Etholiad y Cynulliad yn 2016: Cynrychiolaeth menywod ym maes gwleidyddiaeth

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

27 Mai 2016 Erthygl gan Owen Holzinger, Helen Jones a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ers datganoli, mae'r gyfran o Aelodau'r Cynulliad sy'n fenywod ac a etholwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ymhlith yr uchaf yn y byd, o'i chymharu a deddfwrfeydd eraill. Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol nifer cyfartal o ddynion a menywod yn Aelodau'r Cynulliad. Ers hynny, bu gostyngiad yn nifer yr Aelodau Cynulliad sy'n fenywod. Fodd bynnag, yn dilyn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o'r holl ddeddfwrfeydd datganoledig, sy'n parhau'n fwyaf cynrychioliadol. Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, etholwyd 25 o fenywod yn Aelodau'r Cynulliad, sy'n cyfateb i 41.7% o Aelodau'r Cynulliad.   Mae hyn yr un faint â 2011 ac yn uwch nag etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Cyfartaledd y byd ar hyn o bryd yw 22.7%. Yn dilyn yr etholiad, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfran uwch o gynrychiolwyr benywaidd na Senedd yr Alban (34.9%), Tŷ'r Cyffredin (29.4%) a Chynulliad Gogledd Iwerddon (27.8%). Yn gyfan gwbl, safodd 553 o ymgeiswyr yn yr etholiad i'r Cynulliad yn 2016 (heb ei addasu ar gyfer ymgeiswyr a safodd ar y rhestr ranbarthol ac ar gyfer etholaeth.) O'r rhain, roedd 362 (65.5%) yn ddynion a 191 (34.5%) yn fenywod. Menywod oedd 31.5% o'r ymgeiswyr etholaeth ond cawsant eu hethol i gynrychioli 47.5% o etholaethau. Yn Senedd y DU, mae Aelodau Seneddol benywaidd yn cynrychioli 30.0% o etholaethau Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth am fenywod mewn bywyd cyhoeddus, darllenwch ein blog blaenorol. Male and Female Representation_Welsh-01 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg