Cyhoeddwyd 06/05/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
6 Mai 2016
Erthygl gan Helen Jones a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae cyfansoddiad gwleidyddol Cymru wedi newid yn sgil Etholiad y Cynulliad 2016. Dyma nifer y seddi a enillwyd gan bob plaid yn yr etholiad hwn a'r newid ers 2011:
- Llafur: 29 (un yn llai)
- Plaid Cymru: 12 (un yn fwy)
- Y Ceidwadwyr: 11 (tair yn llai)
- UKIP: 7 (saith yn fwy)
- Y Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (pedair yn llai)
Mae'r etholaethau tua'r un maint o ran nifer y bobl sy'n byw yno ond yn amrywio'n fawr o ran arwynebedd tir. Mae rhai etholaethau'n ardaloedd gwledig eang â dwysedd poblogaeth isel ac eraill yn ardaloedd bach trefol â phoblogaeth ddwys, yn enwedig yn ne Cymru.
Mae'r ffeithlun hwn yn ceisio dangos canlyniadau'r etholiad yng Nghymru o
safbwynt traddodiadol sy'n seiliedig ar arwynebedd y tir, a
safbwynt mwy cyfrannol sy'n defnyddio ffigurau poblogaeth yr etholaethau a'r rhanbarthau.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg