Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Etholiad Cyffredinol 2015: Y darlun gwleidyddol newydd yng Nghymru
Cyhoeddwyd 19/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
19 Mai 2015
Erthygl gan David Millett a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru
Gwelodd Etholiad Cyffredinol 2015 ddarlun gwleidyddol Cymru yn newid gyda'r Ceidwadwyr yn ennill seddi oddi ar y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma nifer y seddi a enillwyd yn yr etholiad a'r newid ers 2010:
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
- Llafur: 25 (i lawr 1)
- Ceidwadwyr: 11 (i fyny 3)
- Plaid Cymru: 3 (dim newid)
- Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (i lawr 2)
- Map traddodiadol yw'r cyntaf, sy'n seiliedig ar etholaethau San Steffan yng Nghymru, lle y dangosir pob etholaeth yn ôl ei harwynebedd tir.
- Mae'r ail fap yn cynrychioli'r boblogaeth yn gyfrannol ym mhob etholaeth. Gan gymryd y data ar boblogaeth breswyl o Gyfrifiad 2011, mae ffiniau etholaethau San Steffan wedi eu hail-lunio er mwyn adlewyrchu'n well nifer y bobl sy'n byw ym mhob etholaeth, ond gan gadw siâp ffiniau Cymru.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg