Cyhoeddwyd 19/05/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
19 Mai 2015
Erthygl gan David Millett a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru
Gwelodd Etholiad Cyffredinol 2015 ddarlun gwleidyddol Cymru yn newid gyda'r Ceidwadwyr yn ennill seddi oddi ar y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma nifer y seddi a enillwyd yn yr etholiad a'r newid ers 2010:
- Llafur: 25 (i lawr 1)
- Ceidwadwyr: 11 (i fyny 3)
- Plaid Cymru: 3 (dim newid)
- Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (i lawr 2)
Mae'r etholaethau tua'r un maint o ran nifer y preswylwyr, ond mae'r arwynebedd tir yn amrywio'n fawr, o'r ardaloedd gwledig mawr lle mae'r boblogaeth yn is i ardaloedd trefol llai lle mae'r boblogaeth yn uwch, yn enwedig yn y De.
Bwriad y ffeithlun yw dangos canlyniadau'r etholiad yng Nghymru trwy ddull
traddodiadol sy'n seiliedig ar arwynebedd tir, a thrwy
ddull mwy cyfrannol gan ddefnyddio poblogaeth breswyl yr etholaethau.
Mae'r mapiau yn y ffeithlun yn dangos y seddi a enillwyd gan bob plaid, ond mewn dwy ffordd wahanol iawn:
- Map traddodiadol yw'r cyntaf, sy'n seiliedig ar etholaethau San Steffan yng Nghymru, lle y dangosir pob etholaeth yn ôl ei harwynebedd tir.
- Mae'r ail fap yn cynrychioli'r boblogaeth yn gyfrannol ym mhob etholaeth. Gan gymryd y data ar boblogaeth breswyl o Gyfrifiad 2011, mae ffiniau etholaethau San Steffan wedi eu hail-lunio er mwyn adlewyrchu'n well nifer y bobl sy'n byw ym mhob etholaeth, ond gan gadw siâp ffiniau Cymru.
Cartogram yw'r ail fap, lle mae ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, sydd â llai o breswylwyr, wedi eu crebachu. Mae ardaloedd lle mae'r boblogaeth yn uwch, fel y de-ddwyrain, yn enwedig yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yng nghymoedd y De, ac yn y Gogledd yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, wedi eu chwyddo.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg