Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw'r Chweched Senedd?

Cyhoeddwyd 11/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2021   |   Amser darllen munud

Yn ystod y Bumed Senedd, dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd fod ‘gwaith craffu, y gynrychiolaeth a’r broses o wneud penderfyniadau yn well lle ceir amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol, a phan ellir elwa ar ystod o brofiadau uniongyrchol.’ Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod angen darlun eang o’r gwahaniaethau y mae pobl yn eu profi er mwyn symud tuag at greu Senedd sy'n ‘amrywiol, yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol’.

Yn ogystal, dywedodd y Pwyllgor, er bod y Senedd wedi ‘perfformio’n gymharol gryf’ o ran cynrychiolaeth gytbwys rhwng y rhywiau, roedd ‘prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd’.

Gyda chanlyniadau'r etholiad bellach yn hysbys, beth mae'r data'n ei ddweud wrthym am y bobl sy'n ein cynrychioli yn y Chweched Senedd, o safbwynt eu hamrywiaeth? Sut mae’r sefyllfa hon yn cymharu â Seneddau’r gorffennol a Seneddau eraill y DU? Beth yw’r materion nad oes gennym ddata dibynadwy yn eu cylch?

Mae 43 y cant o'r Aelodau a etholwyd i'r Chweched Senedd yn fenywod – cynnydd bach o'i gymharu ag etholiad 2016, ond nifer is na’r hyn a welwyd yn nyddiau cynnar datganoli

Mae 26 o fenywod bellach yn Aelodau o'r Senedd (43 y cant o'r holl Aelodau), o gymharu â 34 o ddynion. Natasha Asghar AS yw'r fenyw groenliw gyntaf i gael ei hethol i'r Senedd. Ei thad, y diweddar Mohammad Asghar oedd yr Aelod cyntaf o gefndir lleiafrifoedd ethnig i gael ei ethol, a hynny yn 2007.

Etholwyd y 26 o fenywod i'r Senedd yn 2021, sef nifer ychydig yn uwch na'r 25 o fenywod a etholwyd yn 2016. Fodd bynnag, mae'r nifer hwn yn is na’r nifer a welwyd ar ddiwedd y Bumed Senedd. Yn sgîl newidiadau aelodaeth, roedd 29 o fenywod a 31 o ddynion yn Aelodau o'r Senedd cyn etholiad 2021.

Ers dechrau datganoli, mae canran y menywod sydd wedi cael eu hethol i'r Senedd bob amser wedi bod ymhell uwchlaw'r cyfartaledd byd-eang, sef un o bob pedwar seneddwr. Oddeutu 20 mlynedd yn ôl, yn 2003, cafwyd penawdau di-ri am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, yn sgîl y ffaith mai’r Cynulliad oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol nifer cyfartal o fenywod a dynion i lenwi ei 60 sedd. Rhwng 2006 a 2007, roedd nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd yn uwch na nifer yr Aelodau gwrywaidd, yn dilyn is-etholiad Blaenau Gwent yn 2006. (Erbyn hyn, gelwir yr Aelodau hyn yn Aelodau o’r Senedd). Ers hynny, mae canran yr Aelodau benywaidd sydd wedi cael eu hethol wedi gostwng, er bod y ganran hon wedi aros yn uwch na 40 y cant drwyddi draw. Mae amrywiaeth arwyddocaol o ran cynrychiolaeth o safbwynt rhywedd i’w gweld ar draws y pleidiau gwleidyddol yn 2021—mae 57 y cant o Aelodau'r Blaid Lafur yn fenywod, ynghyd â 38 y cant o Aelodau Plaid Cymru ac 19 y cant o Aelodau'r Blaid Geidwadol. Mae unig Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn fenyw.

Roedd cyfanswm o 470 o ymgeiswyr wedi sefyll i gael eu hethol i'r Senedd yn 2021. Roedd 322 (69 y cant) o'r rhain yn ddynion, ac roedd 148 ohonynt (31 y cant) yn fenywod. Roedd 220 (71 y cant) o'r ymgeiswyr etholaethol yn ddynion, ac roedd 89 ohonynt (29 y cant) yn fenywod. Er bod 29 y cant o’r ymgeiswyr etholaethol yn fenywod, roedd 43 y cant o'r Aelodau a etholwyd mewn etholaethau yn etholiad 2021 yn fenywod. Roedd 223 (68 y cant) o’r ymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol yn ddynion, ac roedd 104 ohonynt (32 y cant) yn fenywod. Er bod 32 y cant o ymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol yn fenywod, roedd 45 y cant o'r Aelodau a etholwyd drwy'r rhestrau rhanbarthol yn etholiad 2021 yn fenywod. Safodd rhai ymgeiswyr ar restr ranbarthol ac mewn etholaeth hefyd. Yn yr achosion hynny, dim ond unwaith y cawsant eu cyfrif fel rhan o’r cyfanswm.

Canfu gwaith dadansoddi gan y Clwb Democratiaeth a Chymdeithas Fawcett fod gostyngiad wedi bod yn y ganran o ymgeiswyr benywaidd ledled y DU yn 2021, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roedd gan Gynulliad Llundain (42 y cant) a Senedd yr Alban (37 y cant) ganran uwch o ymgeiswyr benywaidd na’r Senedd yn etholiadau 2021. Yn y cyfamser, dim ond 24 y cant o ymgeiswyr yn etholiadau maerol Lloegr, a 22 y cant o ymgeiswyr yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, oedd yn fenywod.

Yn dilyn etholiadau 2021, roedd gan y Senedd ganran is o Aelodau benywaidd na Senedd yr Alban am y tro cyntaf ers dechrau datganoli. Etholwyd 58 o fenywod – sef 45 y cant o holl Aelodau Senedd yr Alban –- i’r Senedd honno, gan gynnwys y ddwy fenyw groenliw gyntaf i gael eu hethol. Dyna’r ffigur uchaf erioed. Mae gan Senedd Cymru, fodd bynnag, ganran uwch o Aelodau benywaidd na Chynulliad Gogledd Iwerddon (36 y cant) a Thŷ'r Cyffredin (34 y cant). Yn Senedd y DU, mae 35 y cant o etholaethau Cymru yn cael eu cynrychioli gan Aelodau Seneddol benywaidd.

Mae tri Aelod o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn y Chweched Senedd – yr un nifer â’r hyn a welwyd ar ôl etholiad 2016.

Yn 2007, cafodd yr Aelod cyntaf o gefndir lleiafrifoedd ethnig, sef y diweddar Mohammad Asghar, ei ethol. Yn 2016, cafodd tri Aelod a oedd wedi nodi eu bod o gefndir lleiafrifoedd ethnig eu hethol i’r Senedd, sef 5 y cant o’r Aelodau. Ni newidiodd y ffigur hwn yn sgîl etholiad 2021, ac roedd tri Aelod (5 y cant o'r holl Aelodau a gafodd eu hethol) yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys y fenyw groenliw gyntaf i gael ei hethol ers dechrau datganoli. Mae hyn yn cymharu â 5.6 y cant o boblogaeth Cymru yn 2020. Mae rhywfaint o amrywiaeth yn y pleidiau gwleidyddol o ran y ganran o'u Haelodau sydd o gefndir lleiafrifoedd ethnig – 13 y cant o Aelodau'r Blaid Geidwadol, 3 y cant o Aelodau'r Blaid Lafur a dim un o Aelodau Plaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae 10 y cant o’r Aelodau sydd wedi’u hethol i Dŷ'r Cyffredin yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 13.2 y cant o boblogaeth y DU yn 2020. Mae gan Senedd yr Alban chwe Aelod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, sef 4.7 y cant o'r holl Aelodau, o’i gymharu â 5.3 y cant o boblogaeth y wlad yn 2020. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gynulliad Gogledd Iwerddon unrhyw Aelodau o gefndir lleiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 2.7 y cant o boblogaeth y wlad yn 2020.

Nid oes gennym gymaint â hynny o wybodaeth ddibynadwy ynghylch amrywiaeth Aelodau o’r Senedd

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n gyhoeddus am amrywiaeth a chefndiroedd Aelodau o’r Senedd yn gyfyngedig, sy’n ei gwneud hi'n anodd deall pa mor amrywiol yw'r Senedd mewn gwirionedd. Er enghraifft, nid oes dim gwybodaeth yn cael ei chasglu na'i chyhoeddi ynghylch nifer yr Aelodau sydd ag anableddau. Gwnaeth Pwyllgor y Bumed Senedd ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd argymhelliad bod gofyniad cyfreithiol yn cael ei gyflwyno o ran cyhoeddi data dienw ynghylch amrywiaeth ymgeiswyr. Fodd bynnag, byddai angen i Lywodraeth y DU gyflwyno’r gofyniad cyfreithiol dan sylw gan nad yw hynny o fewn pwerau'r Senedd.

Yn sgîl etholiad 2016, cafodd tri Aelod sy'n dewis nodi'n gyhoeddus eu bod yn bobl LGBT+ eu hethol i'r Senedd. Cafodd pob un o’r Aelodau hynny eu hailethol i’r Senedd yn etholiad 2021. Mae data a gyhoeddwyd gan PinkNews, sef papur newydd ar-lein, yn awgrymu bod 46 o Aelodau Senedd y DU a gafodd eu hethol yn 2019 yn nodi’n agored eu bod yn bobl LGBT+, sef 7.1 y cant o’r holl Aelodau.

Mae rhai pethau na fyddwn yn gwybod popeth yn eu cylch yn syth ar ôl yr etholiad, gan gynnwys oedran a chefndir cymdeithasol yr Aelodau newydd. Fodd bynnag, byddwn yn deall rhagor am y pethau hyn wrth i amser fynd heibio. Mae 20 o’r Aelodau a gafodd eu hethol yn 2021 yn unigolion na wasanaethodd fel Aelodau yn ystod y Bumed Senedd. Mae 19 ohonynt yn Aelodau nad ydynt erioed wedi cael eu hethol o’r blaen; roedd un ohonynt (Altaf Hussain) yn Aelod rhwng 2015 a 2016.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd BBC Wales adroddiad yn nodi mai 55 mlwydd oed oedd oedran cyfartalog Aelodau o'r Senedd, o'i gymharu ag oed canolrifol poblogaeth Cymru, sef 42.5.

Roedd adroddiad a luniwyd gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Metropolitan Llundain yn cynnwys y canfyddiad a ganlyn ynghylch etholiad 2016: ‘…slightly more than a third of the Assembly Members elected were new to the Assembly, yet, in terms of professional backgrounds, around eight had already worked in politics in some capacity’. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod Aelodau newydd eraill wedi dilyn llwybrau traddodiadol i faes gwleidyddiaeth, fel llywodraeth leol, yr undebau llafur a'r sector gwirfoddol; neu wedi bod yn gweithio mewn proffesiynau a allai hwyluso gyrfa mewn gwleidyddiaeth, fel y gyfraith, newyddiaduraeth ac addysg. Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu bod hyn yn wir am rai o'r Aelodau newydd a gafodd eu hethol y tro hwn.

Rydym eisoes yn gwybod bod gan y Senedd newydd hon 26 o Aelodau benywaidd, tri Aelod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, a thri Aelod sydd wedi dewis nodi'n gyhoeddus eu bod yn bobl LGBT+. Dros amser, byddwn yn dysgu rhagor am yr Aelodau a'r profiadau amrywiol a fydd yn sail i’w gweithgarwch wrth iddynt gyflawni eu rôl.

Yfory, cofiwch ddarllen yr erthygl olaf yn ein cyfres ar etholiad 2021, sy'n trafod nifer y bobl a bleidleisiodd.


Erthygl gan Gareth Thomas, Lucy Morgan, a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru