pleidleisio

pleidleisio

Canlyniadau etholiad 2021 – beth sydd wedi newid?

Cyhoeddwyd 10/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd etholiad y Senedd ei gynnal ar 6 Mai, gan ethol 40 o Aelodau etholaethol a 20 o Aelodau rhanbarthol ar gyfer y pum rhanbarth ledled Cymru. Eleni oedd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio.

Oherwydd y pandemig COVID-19 a’r mesurau iechyd cyhoeddus cysylltiedig sydd yn eu lle, ni chafodd y pleidleisiau eu cyfrif dros nos, fel sy’n digwydd yn arferol. Y tro hwn, cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar 7 ac 8 Mai.

Newidiodd yr etholiad gyfansoddiad gwleidyddol Cymru, ac ni chafodd unrhyw un o’r pleidiau fwyafrif cyffredinol (mae’n rhaid ennill 31 o seddi i sicrhau mwyafrif). Mae nifer y seddi a enillwyd yn yr etholiad hwn a’r newid mewn cynrychiolaeth o gymharu â 2016 wedi’u nodi isod:

Mae’r cymariaethau hyn wedi’u seilio ar ganlyniadau etholiad 2016, yn hytrach na chyfansoddiad y Bumed Senedd ar adeg y diddymiad ar 29 Ebrill 2021.

Newid cyffredinol yn nifer y seddi ers 2016

Delwedd sy’n dangos y newid mewn seddi. Llafur +1, Ceidwadwyr +5, Plaid Cymru +1, y Democratiaid Rhyddfrydol dim newid, UKIP -7.

Cyfanswm y seddi fesul plaid

Delwedd sy’n dangos cyfanswm y seddi: Llafur 30, Ceidwadwyr 16, Plaid Cymru 13, y Democratiaid Rhyddfrydol 1.

Dangosir y canlyniadau fesul etholaeth a rhanbarth yn y ffeithlun a ganlyn.

Seddi etholaeth a seddi rhanbarthol

Delwedd sy’n dangos canlyniadau yn yr etholaethau, gan gynnwys y Ceidwadwyr yn ennill sedd oddi ar y Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd, y Ceidwadwyr yn ennill sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed a’r Blaid Lafur yn ennill sedd oddi ar Blaid Cymru yn y Rhondda.

Mae’r etholaethau i raddau helaeth yr un maint o ran nifer y preswylwyr sydd ynddynt, ond maent yn amrywio’n sylweddol o ran maint daearyddol, o ardaloedd gwledig mawr sydd â dwysedd poblogaeth isel i’r ardaloedd trefol lawer llai sydd â dwysedd poblogaeth uchel, yn enwedig de Cymru. Mae’r ffeithlun a ganlyn yn dangos canlyniadau’r etholiad yng Nghymru gan ddefnyddio dull mwy cyfrannol sy’n seiliedig ar nifer y preswylwyr yn yr etholaethau a’r rhanbarthau.

Seddi etholaethol a seddi rhanbarthol (cyfrannol)

Seddi’r Senedd yn ôl etholaeth a rhanbarth ar sail gyfrannol.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi erthyglau ar amrywiaeth a nifer y pleidleiswyr yn ystod y diwrnodau nesaf.


Erthygl gan Owen Holzinger, Owain Davies a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

 

Ffynonellau ar gyfer y ffeithluniau: Y BBC a Chofnodion Ystadegol (lle y maent ar gael), Cyfrifiad 2011. Yn cynnwys data o’r Arolwg Ordnans. © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2021. Rhif drwydded yr Arolwg Ordnans: 10047295.