Etholiad 2017 yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gwelodd Etholiad Cyffredinol 2017 ddarlun seneddol Cymru yn newid, gyda’r Blaid Lafur yn ennill seddi oddi ar y Ceidwadwyr a Plaid Cymru yn ennill sedd olaf y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Dyma nifer y seddi a enillwyd yn yr etholiad a’r newid ers 2015:

  • Llafur: 28 (i fyny 3)
  • Ceidwadwyr: 8 (i lawr 3)
  • Plaid Cymru: 4 (i fyny 1)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 0 (i lawr 1)

Mae’r etholaethau tua’r un maint o ran nifer y preswylwyr, ond mae’r arwynebedd tir yn amrywio’n fawr, o’r ardaloedd gwledig mawr lle mae’r boblogaeth yn is i ardaloedd trefol llai lle mae’r boblogaeth yn uwch, yn enwedig yn y De.

Bwriad y ffeithlun yw dangos canlyniadau’r etholiad yng Nghymru trwy ddull traddodiadol sy’n seiliedig ar arwynebedd tir, a thrwy ddull mwy cyfrannol gan ddefnyddio poblogaeth breswyl yr etholaethau.

Mae’r mapiau yn y ffeithlun yn dangos y seddi a enillwyd gan bob plaid, ond mewn dwy ffordd wahanol iawn:

  1. Map traddodiadol yw’r cyntaf, sy’n seiliedig ar etholaethau San Steffan yng Nghymru, lle y dangosir pob etholaeth yn ôl ei harwynebedd tir.
  2. Mae’r ail fap yn cynrychioli’r boblogaeth yn gyfrannol ym mhob etholaeth. Gan gymryd y data ar boblogaeth breswyl o Gyfrifiad 2011, mae ffiniau etholaethau San Steffan wedi eu hail-lunio er mwyn adlewyrchu’n well nifer y bobl sy’n byw ym mhob etholaeth, ond gan gadw siâp ffiniau Cymru.

Cartogram yw’r ail fap, lle mae ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, sydd â llai o breswylwyr, wedi eu crebachu. Mae ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn uwch, fel y de-ddwyrain, yn enwedig yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yng nghymoedd y De, ac yn y Gogledd yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, wedi eu chwyddo.


Erthygl gan Sam Jones, David Millett a Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Etholiad 2017 yng Nghymru (PDF, 285KB)