Mae’r etholaethau ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf wedi’u cadarnhau.
Bydd pleidleiswyr ym mhob un o’r 16 etholaeth newydd yn ethol 6 aelod drwy’r system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig. Mae’r newidiadau’n rhan o ddiwygiadau ehangach i’r Senedd a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys mapiau o’r etholaethau newydd, yn esbonio sut y cawsant eu dewis ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Pwy sy’n penderfynu ar y ffiniau?
Fel sy’n ofynnol gan y Ddeddf, penderfynwyd ar y ffiniau etholaethol newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, corff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Yn ei adolygiad, roedd yn ofynnol i’r Comisiwn baru 32 etholaeth Senedd y DU yn 16 etholaeth Senedd Cymru.
Wrth wneud ei gynigion, gallai’r Comisiwn ystyried y canlynol:
- Ffiniau llywodraeth leol presennol;
- “Ystyriaethau daearyddol arbennig”, megis maint, siâp a hygyrchedd etholaeth arfaethedig;
- Cysylltiadau lleol (gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â’r defnydd o'r Gymraeg) a fyddai’n cael eu torri gan gynigion.
Roedd yn ofynnol i’r Comisiwn roi un enw i etholaethau i’w ddefnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg, oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n annerbyniol.
Dechreuodd y Comisiwn ei adolygiad ym mis Gorffennaf 2024.
Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd ei gynigion cychwynnol (ac ymgynghori arnynt). Dilynwyd y rhain gan gynigion diwygiedig ym mis Rhagfyr 2024. Gwnaeth y cynigion diwygiedig ddau newid i’r parau etholaethol yng Nghaerdydd.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad terfynol ar 11 Mawrth 2025. Yn ei adroddiad terfynol, gwrthdrodd y Comisiwn ei newid cynharach i’r parau etholaethol yng Nghaerdydd. Cadarnhaodd hefyd y bydd gan bob etholaeth un enw Cymraeg.
Dod o hyd i’ch etholaeth Senedd newydd
Etholaethau'r Senedd 2026 (PDF)
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae’r Comisiwn wedi cyflwyno ei adroddiad i Weinidogion Cymru, ac mae wedi’i osod gerbron y Senedd. Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i ddod â phenderfyniadau’r Comisiwn yn gyfraith.
Nid oes angen cymeradwyaeth y Senedd ar yr etholaethau newydd, a byddant yn cael eu mabwysiadu’n awtomatig.
Er y bydd yr etholaethau hyn ar waith ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, bydd adolygiad arall cyn etholiad 2030. Bydd yn adolygiad llawn o’r ffiniau, heb ofyniad i gadw at barau o etholaethau San Steffan. Mae rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad ar yr adolygiad hwn erbyn 1 Rhagfyr 2028.
Erthygl gan Josh Hayman, Adam Cooke, Sam Jones a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru