Cymal 1
Mae Cymal 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Bil.
Cymal 2
Mae Cymal 2 yn datgymhwyso rhannau o'r Protocol a'r Cytundeb Ymadael mewn cyfraith ddomestig drwy newid sut y mae Deddf yr UE (Ymadael) 2018 yn gweithio. Mae Deddf 2018 yn rhoi effaith i'r ddau mewn cyfraith ddomestig.
Cymal 3
Mae Cymal 3 yn cyfyngu ar effaith cyfraith cytundeb gwahanu fel bod yn rhaid ei ddarllen yn unol â'r Bil ac nid y Cytundeb Ymadael, fel sy'n ofynnol ar hyn o bryd.
Cymal 4
Mae Cymal 4 yn datgymhwyso gofynion y Protocol ar gyfer symudiad nwyddau a thollau ac yn rhoi pwerau i Weinidogion newid y dull hwn.
Cymal 5
Mae Cymal 5 yn grymuso Gweinidogion i ddeddfu ar gyfer rheolau symudiad nwyddau newydd.
Cymal 6
Mae Cymal 6 yn grymuso Cyllid a Thollau EM a'r Trysorlys i reoleiddio tollau.
Cymal 7
Mae Cymal 7 yn sefydlu cyfundrefn reoleiddio ddeuol yng Ngogledd Iwerddon a'r opsiwn i ddewis rhwng cydymffurfedd â gofynion y DU neu'r UE, neu'r ddwy set o ofynion.
Cymal 8
Mae Cymal 8 yn datgymhwyso'r darpariaethau sy'n golygu bod cyfraith yr UE yn gymwys i Ogledd Iwerddon pan maent yn atal Cymal 7 rhag cael effaith.
Cymal 9
Mae Cymal 9 yn grymuso Gweinidogion i ddeddfu ar gyfer rheoleiddio nwyddau mewn cysylltiad â'r Protocol os ydynt o'r farn bod hynny’n briodol.
Cymal 10
Mae Cymal 10 yn diffinio 'rheoleiddio nwyddau' yna'n rhoi'r pŵer i Weinidogion newid hyn.
Cymal 11
Mae Cymal 11 yn rhoi pwerau ychwanegol i Weinidogion mewn perthynas â Chymal 7 ar y gyfundrefn reoleiddio ddeuol, megis darparu eithriadau.
Cymal 12
Mae Cymal 12 yn datgymhwyso darpariaethau cymorth gwladol y Protocol ac yn rhoi pwerau i Weinidogion roi trefniadau newydd ar waith.
Cymal 13
Mae Cymal 13 yn dileu awdurdodaeth Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, pwerau cynrychiolwyr yr UE a rhai o bwerau strwythurau llywodraethu'r Cytundeb Ymadael. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion ddeddfu ar gyfer trefniadau newydd, gan gynnwys y rhai y cytunwyd arnynt â'r UE ar gyfer goruchwylio a rhannu gwybodaeth.
Cymal 14
Mae Cymal 14 yn datgymhwyso rhannau o'r Protocol a'r Cytundeb Ymadael sy'n ymwneud â rhannau sydd wedi'u datgymhwyso eisoes. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion ddeddfu ar gyfer trefniadau newydd.
Cymal 15
Mae Cymal 15 yn nodi y caiff Gweinidogion newid pa rannau o'r Protocol neu'r Cytundeb Ymadael sy'n cael eu diffodd/gweithredu, ac i ba raddau, os bodlonir un o ddau amod. Mae eithriadau pwysig yn gymwys fel na chaniateir gwneud newidiadau i erthyglau’r Protocol a ddyluniwyd i ddiogelu rhannau o Gytundeb Gwener y Groglith (Belfast) 1998 ar hawliau dinasyddion, cydweithrediad rhwng y Gogledd a’r De, a’r Ardal Deithio Gyffredin rhwng y DU ac Iwerddon. Fodd bynnag, gallai'r amddiffyniadau hyn gael eu diystyru yn y dyfodol gan Weinidogion.
Cymal 16
Mae Cymal 16 yn grymuso Gweinidogion i wneud cyfreithiau newydd pan fo hynny'n briodol mewn cysylltiad â newid cymhwysiad y Protocol a'r Cytundeb Ymadael, yn unol â Chymal 15.
Cymal 17
Mae Cymal 17 yn rhoi pwerau eang i'r Trysorlys reoleiddio TAW, tollau ac unrhyw dreth arall mewn cysylltiad â'r Protocol, gan gynnwys lleihau neu ddileu gwahaniaethau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.
Cymal 18
Mae Cymal 18 yn awdurdodi Gweinidogion i gymryd rhan mewn ymddygiad sy'n ymwneud â'r Protocol pan fo hynny'n briodol, hyd yn oed os nad yw wedi'i awdurdodi gan y Ddeddf hon. Rhestrir llunio canllawiau fel enghraifft yn nodiadau'r Bil ond nid yw ymddygiad wedi’i ddiffinio (na'i gyfyngu) gan y Ddeddf.
Cymal 19
Mae Cymal 19 yn rhoi pwerau i Weinidogion weithredu unrhyw gytundeb rhwng y DU a'r UE sy'n addasu, yn atodi neu'n disodli'r Protocol, ac i ddeddfu ar faterion cysylltiedig.
Cymal 20
Mae Cymal 20 yn gwneud mwy o newidiadau i rôl Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd fel bod llysoedd domestig yn cael eu hatal rhag dilyn egwyddorion neu benderfyniadau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a rhag cyfeirio achosion i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cymal 20 hefyd yn rhoi dau bŵer newydd i Weinidogion – yn gyntaf, i wneud trefniadau newydd ar gyfer llysoedd domestig ac, yn ail, i gael yr opsiwn o ganiatáu i lysoedd gyfeirio materion i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ond dim ond i ofyn am gymorth gyda dehongli cyfraith yr UE.
Cymal 21
Mae Cymal 21 yn awdurdodi Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru i wario arian at ddiben unrhyw beth, neu mewn cysylltiad ag ef, sydd ei angen wrth lunio rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon.
Cymal 22
Mae Cymal 22 yn un o'r cymalau mwyaf arwyddocaol yn y Bil. Mae'n pennu paramedrau ar gyfer rheoliadau, gan gynnwys y câi Gweinidogion y DU roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud pwerau i gyflawni'r Ddeddf, ac y câi Gweinidogion y DU benderfynu pa weithdrefnau graffu a ddefnyddir yn y Senedd. Mae Cymal 22 hefyd yn awdurdodi rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon i atal dros dro, diddymu neu newid cyfraith ddomestig, gan gynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wneir gan y Senedd sy'n rhoi effaith i'r Protocol neu'r Cytundeb Ymadael.
Cymal 23
Mae Cymal 23 yn gosod rheolau gweithdrefnol ar gyfer rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon.
Cymal 24
Mae Cymal 24 yn gosod rheolau ar gyfer rheoliadau treth a thollau a wneir o dan y Ddeddf hon.
Cymal 25
Mae Cymal 25 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.
Cymal 26
Mae Cymal 26 yn penderfynu graddau tiriogaethol y Ddeddf hon, pryd y daw i rym a'i henw. Mae hyn yn darparu bod ei hadran ar ddarpariaethau terfynol (cymalau 21-25) yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf ei phasio, a bod ei darpariaethau sy'n weddill yn dod i rym ar ddyddiau a benodir gan Weinidogion y DU mewn rheoliadau.