Llun o feliau gwair ac awyr las

Llun o feliau gwair ac awyr las

Erthygl wadd: Cymharu’r cynlluniau ffermio yng Nghymru a Lloegr

Cyhoeddwyd 19/07/2024   |   Amser darllen munud

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Sarah Coe, pan oedd ar ymweliad ag Ymchwil y Senedd o Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin.

Ar ôl ymadael â’r UE yn 2020, roedd cyfle i’r DU ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi ffermwyr yn ariannol ar ôl degawdau o ddilyn rheolau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC).

Mae amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli: mae pob cenedl yn dilyn ei dull ei hun, ar ei chyflymder ei hun. Mae’r cynlluniau newydd a’r rhai sy’n cael eu datblygu i gefnogi ffermydd yng Nghymru a Lloegr yn rhannu'r nod o hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy, ond drwy ddefnyddio gwahanol fecanweithiau a chymhellion. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dweud bod eu dulliau newydd yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd a diogelu'r amgylchedd yn mynd law yn llaw.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar elfennau allweddol sy’n gyffredin i gynlluniau ffermio'r ddwy wlad – a’r elfennau sy'n wahanol. Noder mai’r cynlluniau a drafodir yw’r rhai a rannodd Llywodraeth Cymru fel rhan o'i hymgynghoriad diweddar, ond fe allai’r rhain newid. Bydd gwahaniaethau rhwng y cynlluniau o ddiddordeb i ffermydd trawsffiniol a hefyd wrth ystyried marchnad gyffredin y DU.

Mae rhagor o fanylion am y cynigion ar gyfer Cymru i'w gweld ym mhapur briffio Ymchwil y Senedd, Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: diweddariad 2024. Mae’r erthygl gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin, sef New approaches to farm funding in England, yn cynnig gwybodaeth am y cynlluniau yn Lloegr.

Pa mor debyg yw cynlluniau Cymru a Lloegr ar gyfer cyllido ffermydd?

Bydd cynlluniau newydd y ddwy wlad yn cael eu seilio ar y syniad y dylid gwobrwyo ffermwyr am sicrhau budd amgylcheddol neu fuddiannau cyhoeddus eraill, yn hytrach na’u talu'n gyffredinol am faint o dir maen nhw’n ei ffermio.

O dan gynllun PAC yr UE, roedd 80% o gyllideb y DU ar gyfer ffermydd yn cael ei wario ar daliadau’n seiliedig ar ardal, sef taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol. I gael Cynllun y Taliad Sylfaenol, roedd rhaid i ffermwyr fodloni rhai rheolau cynaliadwyedd. Roedd gweddill cyllideb y cynllun PAC yn cael ei wario ar raglenni cymorth gwledig, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel cynllun rheoli tir Glastir yng Nghymru, a chynlluniau stiwardiaeth cefn gwlad yn Lloegr.

Mae llywodraethau'r ddwy wlad yn bwriadu cael gwared ar Gynllun y Taliad Sylfaenol yn raddol wrth iddynt gyflwyno cynlluniau ffermio cynaliadwy newydd fesul cam.

Yn Lloegr, mae cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd yn cael eu cyflwyno. Mae tair haen i gynlluniau o’r fath:

  • O dan y cymhelliant ffermio cynaliadwy , caiff ffermwyr eu talu i fabwysiadu a chynnal arferion ffermio cynaliadwy sy'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd; gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol; a chefnogi cynhyrchiant a gwytnwch ffermydd.
  • Mae haen uchaf y cynllun stiwardiaeth cefn gwlad yn talu am gamau gweithredu sydd wedi'u targedu yn fwy ar gyfer lleoliadau, nodweddion a chynefinoedd penodol. Stiwardiaeth cefn gwlad oedd y prif gynllun amaeth-amgylcheddol o dan gynllun PAC yr UE. Mae’r cynlluniau haen uchaf yn fwy cymhleth tra bo'r cytundebau haen ganol, sy'n addas i'r rhan fwyaf o ffermwyr, bellach yn ddarostyngedig i’r cymhelliant ffermio cynaliadwy.
  • Mae’r cynllun adfer tirwedd yn talu am brosiectau pwrpasol, mwy hirdymor, ar raddfa fwy i wella'r amgylchedd naturiol.

Mae Cymru wrthi'n datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd hyn yn adlewyrchu’r amcanion rheoli tir cynaliadwy a ganlyn:

  1. cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy;
  2. lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd;
  3. cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;
  4. cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg.

Cyflwynwyd Cynllun Cynefin Cymru dros dro yn lle Glastir o 2024 tan fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ar waith.

Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng y cynlluniau?

Mae gan Gymru a Lloegr wahanol amserlenni ar gyfer newid ac mae gwahaniaethau sylweddol o ran dyluniad y cynlluniau.

Cyflymder y newid

Yn Lloegr, mae newidiadau eisoes ar waith. Ar ôl cyflwyno Deddf Amaethyddiaeth 2020, cafodd taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol eu gostwng yn raddol a chyflwynwyd cynlluniau newydd fesul cam o dan gyfnod pontio amaethyddol a fydd ar waith rhwng 2021 a 2027:

Yng Nghymru, mae'r broses ymgynghori yn parhau. Ar ôl cyflwyno Deddf Amaeth (Cymru) 2023, ym mis Rhagfyr 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roedd yn bwriadu:

Dyluniad y cynlluniau a’r cyfraddau talu

Er y bydd y cynlluniau yng Nghymru a Lloegr yn talu ffermwyr am yr ardal o dir y maent yn ei rheoli’n unol â safonau amgylcheddol penodol, mae gwahaniaethau sylfaenol o ran yr hyn y gofynnir i ffermwyr ei wneud.

Mae’r cymhelliant fermio cynlaiadwy yn Lloegr yn dilyn dull ‘dewis a dethol’:

Ar y llaw arall, mae Cymru yn cynnig dull ‘popeth neu ddim byd’ i gael taliad:

  • Byddai ffermwyr yn cael ‘Taliad Sylfaenol Cyffredinol’ newydd fesul hectar ar yr amod eu bod yn ymgymryd â phob un o'r 17 o ‘Weithredoedd Cyffredinol’ ac yn bodloni rheolau'r cynllun ar gyfer 10% o orchudd coed a 10% o gynefin lled-naturiol. Byddai eithriadau yn dibynnu ar y math o fferm – er enghraifft nid oes angen i ffermwyr âr gyflawni gweithredoedd yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid. Disgwylir manylion am yr haenau gwirfoddol ychwanegol arfaethedig o 'Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol’.
  • Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cyfraddau talu yn seiliedig ar y costau a ysgwyddir gan ffermwyr i gyflawni’r weithred ac ar yr ‘incwm a gollir’ ond nid yw wedi cyhoeddi cyfraddau penodol eto. Mae’n bwriadu cynnig taliad cymdeithasol hefyd i adlewyrchu gwerth gweithredoedd ffermwr i'r gymuned/amgylchedd, ond nid oes manylion ar gael.

Mae Cymru'n bwriadu cynnal safonau rheoleiddio gofynnol sy'n ategu’r gofynion amgylcheddol y bu'n rhaid i ffermwyr eu bodloni i gael y Taliad Sylfaenol (proses y cyfeirir ato fel trawsgydymffurfio). Daeth trawsgydymffurfio i ben yn Lloegr ddiwedd 2023 ac nid yw wedi cael ei ailgyflwyno’n gyfan gwbl yn y rheoliadau dilynol, er bod y rheoliadau newydd a gyflwynwyd yn 2024 ar reoli gwrychoedd yn ategu'r rheolau trawsgydymffurfio penodol hynny.

Beth yw’r camau nesaf i ffermwyr yng Nghymru a Lloegr?

Yng Nghymru, mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd wedi ei ohirio o 2025 i 2026. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sefydlu Bord Gron gyda rhanddeiliaid i drafod manylion pellach, gydag is-grŵp yn edrych yn benodol ar opsiynau dal carbon. Nodir y cynlluniau yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i wella’r cynlluniau ar gyfer Lloegr.

Un o brif bryderon nifer o ffermwyr yng Nghymru a Lloegr yw faint o arian fydd ar gael ar gyfer y cynlluniau newydd.

Nid yw Llywodraeth newydd y DU wedi nodi cyllidebau ffermydd eto, er bod maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn dweud y byddai'n sicrhau y caiff cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd eu cyflwyno’n effeithiol. Roedd ymrwymiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr i roi £1 biliwn ychwanegol i gynorthwyo ffermydd y DU dros dymor y Senedd nesaf (hyd at bum mlynedd) ac roedd ymrwymiad yn strategaeth fwyd genedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol i roi £1 biliwn yn fwy y flwyddyn.

Bydd y gyllideb ar gyfer ffermydd yng Nghymru yn y dyfodol a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dibynnu ar y cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth y DU. Bu anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y gorffennol ynghylch lefel y cyllid newydd yn lle cyllid yr UE ar gyfer amaethyddiaeth, felly bydd yn werth cadw llygad ar y gyllideb a ddyrennir i Gymru.

Ffigur 1. Elfennau tebyg a gwahaniaethau rhwng cynlluniau ffermio arfaethedig/newydd Cymru a Lloegr

Diagram Venn o’r elfennau tebyg a’r gwahaniaethau rhwng cynlluniau ffermio Cymru a Lloegr


Erthygl wadd gan Sarah Coe, Uwch-ymchwilydd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin