Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Sarah Coe, pan oedd ar ymweliad ag Ymchwil y Senedd o Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin.
Ar ôl ymadael â’r UE yn 2020, roedd cyfle i’r DU ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi ffermwyr yn ariannol ar ôl degawdau o ddilyn rheolau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC).
Mae amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli: mae pob cenedl yn dilyn ei dull ei hun, ar ei chyflymder ei hun. Mae’r cynlluniau newydd a’r rhai sy’n cael eu datblygu i gefnogi ffermydd yng Nghymru a Lloegr yn rhannu'r nod o hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy, ond drwy ddefnyddio gwahanol fecanweithiau a chymhellion. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dweud bod eu dulliau newydd yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd a diogelu'r amgylchedd yn mynd law yn llaw.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar elfennau allweddol sy’n gyffredin i gynlluniau ffermio'r ddwy wlad – a’r elfennau sy'n wahanol. Noder mai’r cynlluniau a drafodir yw’r rhai a rannodd Llywodraeth Cymru fel rhan o'i hymgynghoriad diweddar, ond fe allai’r rhain newid. Bydd gwahaniaethau rhwng y cynlluniau o ddiddordeb i ffermydd trawsffiniol a hefyd wrth ystyried marchnad gyffredin y DU.
Mae rhagor o fanylion am y cynigion ar gyfer Cymru i'w gweld ym mhapur briffio Ymchwil y Senedd, Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: diweddariad 2024. Mae’r erthygl gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin, sef New approaches to farm funding in England, yn cynnig gwybodaeth am y cynlluniau yn Lloegr.
Pa mor debyg yw cynlluniau Cymru a Lloegr ar gyfer cyllido ffermydd?
Bydd cynlluniau newydd y ddwy wlad yn cael eu seilio ar y syniad y dylid gwobrwyo ffermwyr am sicrhau budd amgylcheddol neu fuddiannau cyhoeddus eraill, yn hytrach na’u talu'n gyffredinol am faint o dir maen nhw’n ei ffermio.
O dan gynllun PAC yr UE, roedd 80% o gyllideb y DU ar gyfer ffermydd yn cael ei wario ar daliadau’n seiliedig ar ardal, sef taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol. I gael Cynllun y Taliad Sylfaenol, roedd rhaid i ffermwyr fodloni rhai rheolau cynaliadwyedd. Roedd gweddill cyllideb y cynllun PAC yn cael ei wario ar raglenni cymorth gwledig, gan gynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel cynllun rheoli tir Glastir yng Nghymru, a chynlluniau stiwardiaeth cefn gwlad yn Lloegr.
Mae llywodraethau'r ddwy wlad yn bwriadu cael gwared ar Gynllun y Taliad Sylfaenol yn raddol wrth iddynt gyflwyno cynlluniau ffermio cynaliadwy newydd fesul cam.
Yn Lloegr, mae cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd yn cael eu cyflwyno. Mae tair haen i gynlluniau o’r fath:
- O dan y cymhelliant ffermio cynaliadwy , caiff ffermwyr eu talu i fabwysiadu a chynnal arferion ffermio cynaliadwy sy'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd; gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol; a chefnogi cynhyrchiant a gwytnwch ffermydd.
- Mae haen uchaf y cynllun stiwardiaeth cefn gwlad yn talu am gamau gweithredu sydd wedi'u targedu yn fwy ar gyfer lleoliadau, nodweddion a chynefinoedd penodol. Stiwardiaeth cefn gwlad oedd y prif gynllun amaeth-amgylcheddol o dan gynllun PAC yr UE. Mae’r cynlluniau haen uchaf yn fwy cymhleth tra bo'r cytundebau haen ganol, sy'n addas i'r rhan fwyaf o ffermwyr, bellach yn ddarostyngedig i’r cymhelliant ffermio cynaliadwy.
- Mae’r cynllun adfer tirwedd yn talu am brosiectau pwrpasol, mwy hirdymor, ar raddfa fwy i wella'r amgylchedd naturiol.
Mae Cymru wrthi'n datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd hyn yn adlewyrchu’r amcanion rheoli tir cynaliadwy a ganlyn:
- cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy;
- lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd;
- cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;
- cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg.
Cyflwynwyd Cynllun Cynefin Cymru dros dro yn lle Glastir o 2024 tan fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ar waith.
Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng y cynlluniau?
Mae gan Gymru a Lloegr wahanol amserlenni ar gyfer newid ac mae gwahaniaethau sylweddol o ran dyluniad y cynlluniau.
Yn Lloegr, mae newidiadau eisoes ar waith. Ar ôl cyflwyno Deddf Amaethyddiaeth 2020, cafodd taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol eu gostwng yn raddol a chyflwynwyd cynlluniau newydd fesul cam o dan gyfnod pontio amaethyddol a fydd ar waith rhwng 2021 a 2027:
- Dechreuwyd gostwng y Taliad Sylfaenol yn 2021 a blwyddyn olaf y cynllun oedd 2023. O 2024 ymlaen, gall ffermwyr hawlio taliadau ‘datgysylltiedig’ ar sail eu Taliad Sylfaenol heb fod angen iddynt fod yn berchen ar dir neu fod yn ffermio tir, a bydd y rhain yn cael eu lleihau'n raddol i gyrraedd sero yn 2027. Mae’r taliadau datgysylltiedig ar gyfer 2024 50-70% yn is na’r swm a dalwyd i ffermwr ar gyfartaledd o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2020-22 (yn dibynnu ar faint hawliad y ffermwr).
- Cafodd y cymhelliant ffermio cynaliadwy ei dreialu yn 2021 a'i gyflwyno’n ehangach o 2022 ymlaen, gan ychwanegu camau newydd yn 2023 a rhagor o gamau newydd yn 2024. Mae cyfraddau’r taliadau wedi cynyddu hefyd.
Yng Nghymru, mae'r broses ymgynghori yn parhau. Ar ôl cyflwyno Deddf Amaeth (Cymru) 2023, ym mis Rhagfyr 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roedd yn bwriadu:
- Dechrau’r broses o bontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025, a’i weithredu'n llawn yn 2029. Protestiodd ffermwyr yn erbyn y cynllun newydd, yn enwedig y gofynion o ran gorchudd coed a'r fethodoleg ar gyfer taliadau. Wedi hynny, ym mis Mai 2024, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y byddai cyfnod pontio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau o 2026.
- Gostwng y Taliad Sylfaenol fesul cam, i 80% o'r lefelau cyfredol yn 2025, gan gynyddu’r gostyngiad 20% bob blwyddyn i gyrraedd sero yn 2029. Fodd bynnag, ar ôl i’r broses gael ei gohirio tan 2026, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’r Taliad Sylfaenol yn parhau yn 2025, ac y byddai’n rhoi rhagor o fanylion maes o law.
Er y bydd y cynlluniau yng Nghymru a Lloegr yn talu ffermwyr am yr ardal o dir y maent yn ei rheoli’n unol â safonau amgylcheddol penodol, mae gwahaniaethau sylfaenol o ran yr hyn y gofynnir i ffermwyr ei wneud.
Mae’r cymhelliant fermio cynlaiadwy yn Lloegr yn dilyn dull ‘dewis a dethol’:
- Gall ffermwyr ddewis cyflawni un neu ragor o 102 o gamau gweithredu’r cymhelliant ffermio cynaliadwy, dros gyfnod o dair blynedd gan fwyaf, gyda chyfraddau gwahanol o dâl blynyddol fesul hectar. Er enghraifft, £13 fesul pob 100 metr ar gyfer rheoli gwrychoedd, neu £798 fesul hectar ar gyfer ymylon o laswellt sy’n llawn blodau. Gallant gyfuno camau gweithredu i gynyddu’r cyfanswm taliadau ar gyfer eu fferm a gallant hawlio taliad rheoli ar ben hynny. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU derfyn uchaf fel na all ffermwyr weithredu rhai o gamau’r cymhelliant ffermio cynaliadwy ar fwy na 25% o'u tir er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cefnogi’r gwaith o gynhyrchu bwyd ochr yn ochr â sicrhau budd o ran yr amgylchedd.
Ar y llaw arall, mae Cymru yn cynnig dull ‘popeth neu ddim byd’ i gael taliad:
- Byddai ffermwyr yn cael ‘Taliad Sylfaenol Cyffredinol’ newydd fesul hectar ar yr amod eu bod yn ymgymryd â phob un o'r 17 o ‘Weithredoedd Cyffredinol’ ac yn bodloni rheolau'r cynllun ar gyfer 10% o orchudd coed a 10% o gynefin lled-naturiol. Byddai eithriadau yn dibynnu ar y math o fferm – er enghraifft nid oes angen i ffermwyr âr gyflawni gweithredoedd yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid. Disgwylir manylion am yr haenau gwirfoddol ychwanegol arfaethedig o 'Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol’.
- Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cyfraddau talu yn seiliedig ar y costau a ysgwyddir gan ffermwyr i gyflawni’r weithred ac ar yr ‘incwm a gollir’ ond nid yw wedi cyhoeddi cyfraddau penodol eto. Mae’n bwriadu cynnig taliad cymdeithasol hefyd i adlewyrchu gwerth gweithredoedd ffermwr i'r gymuned/amgylchedd, ond nid oes manylion ar gael.
Mae Cymru'n bwriadu cynnal safonau rheoleiddio gofynnol sy'n ategu’r gofynion amgylcheddol y bu'n rhaid i ffermwyr eu bodloni i gael y Taliad Sylfaenol (proses y cyfeirir ato fel trawsgydymffurfio). Daeth trawsgydymffurfio i ben yn Lloegr ddiwedd 2023 ac nid yw wedi cael ei ailgyflwyno’n gyfan gwbl yn y rheoliadau dilynol, er bod y rheoliadau newydd a gyflwynwyd yn 2024 ar reoli gwrychoedd yn ategu'r rheolau trawsgydymffurfio penodol hynny.
Beth yw’r camau nesaf i ffermwyr yng Nghymru a Lloegr?
Yng Nghymru, mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd wedi ei ohirio o 2025 i 2026. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sefydlu Bord Gron gyda rhanddeiliaid i drafod manylion pellach, gydag is-grŵp yn edrych yn benodol ar opsiynau dal carbon. Nodir y cynlluniau yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i wella’r cynlluniau ar gyfer Lloegr.
Un o brif bryderon nifer o ffermwyr yng Nghymru a Lloegr yw faint o arian fydd ar gael ar gyfer y cynlluniau newydd.
Nid yw Llywodraeth newydd y DU wedi nodi cyllidebau ffermydd eto, er bod maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn dweud y byddai'n sicrhau y caiff cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd eu cyflwyno’n effeithiol. Roedd ymrwymiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr i roi £1 biliwn ychwanegol i gynorthwyo ffermydd y DU dros dymor y Senedd nesaf (hyd at bum mlynedd) ac roedd ymrwymiad yn strategaeth fwyd genedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol i roi £1 biliwn yn fwy y flwyddyn.
Bydd y gyllideb ar gyfer ffermydd yng Nghymru yn y dyfodol a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dibynnu ar y cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth y DU. Bu anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y gorffennol ynghylch lefel y cyllid newydd yn lle cyllid yr UE ar gyfer amaethyddiaeth, felly bydd yn werth cadw llygad ar y gyllideb a ddyrennir i Gymru.
Ffigur 1. Elfennau tebyg a gwahaniaethau rhwng cynlluniau ffermio arfaethedig/newydd Cymru a Lloegr
Erthygl wadd gan Sarah Coe, Uwch-ymchwilydd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin