Endometriosis – cymaint mwy na “mislif gwael” yn unig

Cyhoeddwyd 01/07/2022   |   Amser darllen munudau

Ar 23 Mai, bu Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn ystyried deiseb i wella gofal iechyd endometriosis yng Nghymru. Fe'i cyflwynwyd gan Beth Hales a chasglwyd bron i 6,000 o lofnodion. 

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe, sy’n debyg i’r hyn sydd yn y groth, yn tyfu mewn mannau eraill yn y corff. I rai, gall achosi symptomau difrifol, gan gynnwys poen eithafol yn y pelfis neu boen lle lleolir y clefyd ac, weithiau, anffrwythlondeb. Gall y cyflwr effeithio ar ferched, menywod a'r rhai a bennwyd yn fenyw ar enedigaeth. Mae'n cymryd cyfartaledd o naw mlynedd a 26 ymweliad â’r meddyg i wneud diagnosis yng Nghymru.

Mae'r erthygl hon yn ystyried datblygiadau diweddar mewn gofal endometriosis a gwybodaeth am ble y gallwch ddod o hyd i gymorth.

Adolygiad o ofal endometriosis 2018 – Beth sydd wedi’i gyflawni?

Mae adroddiad gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ym mis Mawrth 2017, yn disgrifio oedi ac effaith dealltwriaeth a darpariaeth wael o wasanaethau endometriosis. Yn dilyn hyn, sefydlodd GIG Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu gwasanaethau endometriosis, dan gadeiryddiaeth yr obstetrydd a gynaecolegydd ymgynghorol, Dr Richard Penketh.

Roedd adroddiad 2018 y grŵp gorchwyl a gorffen yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru,  gan gynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a hyrwyddo addysg am les mislif. Derbyniwyd y rhain gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething AS, a neilltuodd y Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod yn gyfrifol am eu gweithredu.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi bod yn ffactor allweddol yn y cynnydd araf sydd wedi’i wneud. Mae'r rhan fwyaf o gynaecoleg yn ddewisol ac felly ni chafodd ei ystyried yn flaenoriaeth yng nghamau cynnar y pandemig.

Mae tri ddatblygiad allweddol sy'n werth eu nodi:

  • Y cyhoeddiad diweddar (Mawrth 2022) bod nyrsys endometriosis arbenigol wedi cael eu penodi ym mhob Bwrdd Iechyd. Bydd y nyrsys yn arwain ar wella ymwybyddiaeth a diagnosis, yn ogystal â darparu arbenigedd ym maes y menopos, cyngor ar reoli poen, a chymorth seicolegol.
  • Ffocws ar addysg mislif a chwalu'r tabŵ o amgylch mislif a lles mislifol, gan gynnwys yr ymgyrch Mislif Fi (sy'n ceisio rhoi'r gorau i wneud i ferched a menywod ifanc deimlo ei bod yn normal dioddef poen difrifol gyda mislifoedd).
  • Lansio Endometriosis Cymru, sef gwefan ddwyieithog wedi’i hanelu at gefnogi pobl yng Nghymru a thu hwnt sydd â diagnosis posibl neu wedi’i gadarnhau o endometriosis. Mae’n cynnwys straeon cleifion, gwybodaeth, a nifer o offer i helpu pobl sy’n byw gyda symptomau i olrhain eu heffaith a rhoi gwybod i’w meddyg a gwella sgyrsiau am effaith symptomau ar ansawdd bywyd.

Byw gydag endometriosis - symptomau cyffredin

Er bod endometriosis yn effeithio ar tua un o bob deg o fenywod yn y DU, cymerodd tan 2017 i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) gyhoeddi canllawiau i feddygon ar sut i ymdrin ag endometriosis.

Dywed yr awdur ac ymgyrchydd ffeministaidd blaenllaw Caroline Perez y bu methiant i wrando ar fenywod, yn enwedig pan ddaw i boen. Dywed fod poen corfforol menywod yn llawer mwy tebygol o gael ei ddiystyru fel rhywbeth ‘emosiynol’ neu ‘seicosomatig’..

Dywed yr eiriolwr endometriosis Ros Wood fod y cyflwr yn anodd ei ddeall:

From a woman’s perspective, endometriosis is a disease surrounded by taboos, myths, delayed diagnosis, hit-and-miss treatments, and a lack of awareness, overlaid on a wide variety of symptoms that embody a stubborn, frustrating and, for many, painfully chronic condition.

Mae mislifoedd poenus, poen pelfig cronig, poen yn ystod neu ar ôl rhyw, poen wrth fynd i’r tŷ bach, blinder ac anawsterau beichiogi, i gyd yn symptomau cyffredin o endometriosis. Gall difrifoldeb y symptomau amrywio ond i rai menywod gall fod yn gyflwr cronig a gwanychol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o endometriosis yn gyffredinol wael. Mae hynny er ei fod mor gyffredin â diabetes neu asthma.

Mae menywod yn dweud y gall ceisio cael diagnosis fod yn flinedig ac yn rhwystredig

Nododd adroddiad ymchwiliad gan Grŵp Seneddol Hollbleidiol y DU ar endometriosis ddwy flynedd yn ôl bod diagnosis yng Nghymru yn cymryd naw mlynedd ar gyfartaledd, blwyddyn yn hwy nag yn Lloegr, a gall gynnwys trallod apwyntiadau meddygol mynych sy’n methu â nodi achos y symptomau.

Dywed FTWW fod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r clefyd ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn arwain at oedi mewn gofal i fenywod. Mae tystiolaeth hefyd fod rhai meddygon teulu yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyson i fenywod am y clefyd, gan arwain at gamddiagnosis.

Dywed FTWW mai un o’r problemau mwyaf i gleifion yw bod symptomau mor eang ac amrywiol fel y gall fod yn heriol nodi endometriosis fel yr achos. Ynghyd â diffyg parhaus o brawf diagnostig heb lawdriniaeth, bydd meddygon teulu yn aml yn anfon cleifion am lawer o brofion ymchwiliol gwahanol, yn hytrach na gwneud atgyfeiriad at gynaecolegydd os yw'r symptomau'n awgrymu endometriosis. I gyfran sylweddol o fenywod, ni fydd endometriosis yn weladwy ar unrhyw fath o sgan neu archwiliad pelfig.

Gwneir diagnosis o'r cyflwr drwy laparosgopi. (Llawdriniaeth twll clo yw hon a gyflawnir i ganfod y briwiau a'r adlyniadau sy'n rhan o'r clefyd). Mae'n llawdriniaeth gymhleth. Gan fod endometriosis yn ymddangos mewn sawl ffordd wahanol ac yn aml yn cuddio tu ôl neu o dan organau, weithiau gellir ei fethu a all oedi diagnosis a thriniaeth ymhellach.

Mae menywod yn adrodd eu bod yn aros am flynyddoedd i gael eu cyfeirio at gynaecolegydd. Yna, mae amseroedd aros hir ar gyfer apwyntiadau gynaecoleg a llawdriniaeth. Cyn y pandemig, gallai 48 y cant o gleifion endometriosis yng Nghymru ddisgwyl aros dros chwe mis am apwyntiad ysbyty (o gymharu â chyfartaledd y DU o 30 y cant), sefyllfa a waethygwyd gan oedi yn ymwneud â’r pandemig.

Gall fod yn anodd dod o hyd i ofal a thriniaeth dda

Ar hyn o bryd dim ond dau feddyg sy'n arbenigo mewn endometriosis yng Nghymru. Mae FTWW yn egluro mai toriad yw'r enw ar y driniaeth lawfeddygol safonol aur gyfredol ar gyfer endometriosis. Dyma lle caiff yr adlyniadau eu tynnu'n iawn - eu torri allan, yn hytrach na'u llosgi'n unig. Dywed FTWW fod y diffyg arbenigwyr yn golygu y bydd llawer o ddioddefwyr yn cael llawdriniaethau aneffeithiol dro ar ôl tro i losgi'r endometriosis - yn debyg i ddim ond tynnu crib y rhewfryn. Mae'r afiechyd yn parhau o dan yr wyneb ac yn aml mae'r symptomau'n parhau.

Maent hefyd yn dweud nad oes gan y rhan fwyaf o gynaecolegwyr cyffredinol yr arbenigedd i gyflawni’r toriad endometriosis.

Yn aml, caiff menywod eu hatgyfeirio am hysterectomi (tynnu'r groth) a/neu dynnu'r ofarïau, neu cynigir meddyginiaethau hormonau iddynt (fel y bilsen neu'r coil, neu bigiadau sy'n achosi'r menopos). Gall y driniaeth hon leddfu symptomau i rai menywod ond nid ydynt yn gwella'r afiechyd ac yn aml yn golygu sgil-effeithiau sylweddol i nifer sylweddol o gleifion.

Yn debyg i gymaint o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod, nid oes digon o waith ymchwil wedi’i wneud i effeithiolrwydd triniaethau i reoli endometriosis.

Gofal arbenigol

Mae canllawiau endometriosis NICE yn nodi y dylid atgyfeirio cleifion sydd angen gofal arbenigol i Gymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain (BSGE) - canolfan arbenigol endometriosis achrededig. Ond nid yw hynny'n wir bob amser.

Mae canolfan BSGE yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac ail ganolfan dros dro yn Ysbyty Singleton Abertawe. Gall cleifion y tu allan i Gaerdydd sydd angen gofal arbenigol gael eu hatgyfeirio ond dywed FTWW fod trefniadau ariannu annigonol yn atal atgyfeiriadau y tu allan i’r ardal. Maent am weld gofal arbenigol yn dod o dan gylch gorchwyl Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i oresgyn heriau ariannu presennol ac i ddod â'r ‘loteri cod post’ mewn gofal i ben.

Yn sicr, mae ymrwymiad gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd presennol,  i wella gofal endometriosis. Efallai y daw’r ymrwymiad hwn yn gliriach fis nesaf pan fydd y Gweinidog yn cyhoeddi ei datganiad ansawdd ar iechyd menywod.

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru