“Rydym wedi dod i’r casgliad unfrydol nad yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru. Mae angen i’r system gyfiawnder, a’r drefn ddatganoli bresennol, gael eu diwygio’n sylweddol” yn ôl y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
Roedd adroddiad y Comisiwn ar y system gyfiawnder yng Nghymru a’r newidiadau y dylid eu gwneud iddi, a gyhoeddwyd ar 24 Hydref 2019, yn dod i’r casgliad “Rydym wedi llunio cyfres unfrydol o gasgliadau ac argymhellion a fydd, o’u gweithredu, yn sicrhau cyfiawnder yng Nghymru i bobl Cymru”, yn hytrach na’i gadw’n fater i Senedd y DU fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Pam y sefydlwyd y Comisiwn?
Crëwyd y Comisiwn i ymdrin â “busnes heb ei orffen sy’n deillio o Gomisiwn Silk”. Sefydlodd Llywodraeth y DU Gomisiwn Silk ym mis Hydref 2011, i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Gwnaeth nifer o argymhellion ynghylch cyfiawnder a phlismona yn ei Adroddiad Rhan 2 ar bwerau deddfwriaethol i gryfhau Cymru.
Argymhellodd Comisiwn Silk ddatganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid i’r Cynulliad erbyn 2017. Roedd hefyd yn argymell cwblhau a gweithredu adolygiad o ddatganoli deddfwriaethol agweddau eraill ar y system gyfiawnder erbyn 2025. Fodd bynnag, ni chafodd yr argymhellion ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder eu hymgorffori yn Neddf Cymru 2017, a oedd yn datganoli rhagor o bwerau i Gymru.
Ar 18 Medi 2017 cyhoeddodd Carwyn Jones AC, y cyn-Brif Weinidog ei fod am sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, i adolygu’r system gyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Cyhoeddwyd datganiad yn ddiweddarach yn amlinellu aelodaeth y Comisiwn ynghyd â’r cylch gorchwyl, sef:
Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda’r nod o:
- hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu’r broses adsefydlu;
- sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy’n codi yng Nghymru;
- hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.
Dechreuodd y Comisiwn ei waith ym mis Rhagfyr 2017 a chyhoeddwyd cais am dystiolaeth y mis Chwefror canlynol.
Beth wnaeth y Comisiwn ei argymell?
Gwnaeth y Comisiwn 78 o argymhellion yn ei adroddiad. Mae’r argymhellion cyffredinol yn cynnwys:
- dylid datganoli cyfiawnder i’r Cynulliad yn ddeddfwriaethol gan gynnwys datganoli polisi cyfiawnder ieuenctid, plismona a lleihau troseddau;
- i gyd-fynd â datganoli deddfwriaethol, dylid datganoli swyddogaethau sy’n ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru yn weithredol i Lywodraethu Cymru.
- dylai datganoli cyfiawnder hefyd gynnwys trosglwyddo adnoddau ariannol yn llwyr;
- dylid nodi’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru yn ffurfiol fel cyfraith Cymru, ar wahân i gyfraith Lloegr; a
- dylai’r Cynulliad ymgymryd â rôl fwy rhagweithiol wrth graffu ar weithrediad y system gyfiawnder.
Byddwn yn ymdrin â rhai o’r argymhellion hyn yn fanylach mewn erthyglau eraill a gyhoeddir yn yr wythnosau nesaf.
Sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r adroddiad?
Gwnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford AC ddatganiad ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Tachwedd. Fe’i disgrifiodd fel “adroddiad pwysig” a dywedodd ei fod yn haeddu “ystyriaeth o ddifrif a gofalus” gan holl Aelodau’r Cynulliad”.
Dywedodd Chris Philip AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yn ystod Dadl yn San Steffan ar yr adroddiad, nad oes gan Lywodraeth y DU ddim bwriad i lunio ymateb llawn a ffurfiol oherwydd comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru, nid ganddi hi.
Dywedodd nad yw Llywodraeth y DU yn cytuno â chasgliad y Comisiwn y dylid datganoli cyfiawnder yn llwyr, ac y dylid creu awdurdodaeth Gymreig. Wrth wneud hynny, nododd eu rhesymau dros ddod i’r casgliad hwn, gan gynnwys na ellid cyfiawnhau’r gost. Fodd bynnag, dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau cyfiawnder yn gydnaws â’i gilydd, ac i ystyried anghenion gwahanol Cymru.
Beth sy’n digwydd yn y Cynulliad?
Ddydd Mercher 29 Ionawr cytunodd y Cynulliad i newid enw ei Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Cytunodd hefyd i ychwanegu cyfiawnder at gylch gwaith y Pwyllgor. Mae hyn yn dilyn argymhelliad y Comisiwn y dylai’r Cynulliad fod yn fwy rhagweithiol wrth graffu ar sut mae’r system gyfiawnder yn gweithredu, a monitro ac adolygu cynnydd o ran diwygio cyfiawnder.
Caiff dadl ei chynnal gan Aelodau’r Cynulliad ar adroddiad y Comisiwn ddydd Mawrth, 4 Chwefror.
Erthygl gan Manon George, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru