Effaith y coronafeirws ar ofal cymdeithasol: Gofalwyr di-dâl

Cyhoeddwyd 26/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Dyma'r erthygl olaf yn ein cyfres sy'n edrych ar rai o'r prif faterion ym maes gofal cymdeithasol ar y pwynt hwn yn y pandemig, yn dilyn ein herthyglau ar gyfyngiadau o ran ymweld â chartrefi gofal a phryderon ynghylch profion coronafeirws.

Gofalwyr di-dâl

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2020 (Tachwedd 26), rydym yn troi ein sylw at ofalwyr yn yr erthygl hon.

Mae pryder cynyddol am les gofalwyr di-dâl yng Nghymru wrth i bandemig y coronafeirws fynd rhagddo.

Yn ôl Gofalwyr Cymru, y prif bryder i lawer o ofalwyr yn ddiweddar fu’r straen parhaus a achosir gan gyfnodau hir o ofalu heb unrhyw gefnogaeth a'r blinder y mae hyn wedi'i achosi. Canfu’r ymchwil yr hyn a ganlyn:

  • Mae 80% o ofalwyr yn dweud eu bod nhw’n darparu mwy o ofal nawr na chyn i'r pandemig ddechrau; ac
  • Mae 76% yn dweud eu bod nhw wedi blino’n lân ac wedi hen alaru oherwydd eu rôl ofalu yn ystod y pandemig.

Mae gofalwyr wedi gweld gostyngiad yn y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt, neu mae’r gwasanaethau wedi cau’n llwyr, ar adeg pan maent wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu, yn aml oherwydd amhariad i wasanaethau gofal, a/neu ymdrechion i ddiogelu eu hanwyliaid.

Dim rhyddhad mewn unrhyw ffordd am ofal 24 awr. Rwyf wedi gofalu am fy ngŵr heb unrhyw gymorth o gwbl ers 17 Mawrth 2020. Mae’r straen yn ofnadwy - Benyw, 85-89 oed, Abertawe.

Age Cymru, Profiadau pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid-19, a’u hadferiad

Siaradodd arweinwyr awdurdodau lleol â Phwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd am freuder gofalwyr a bod angen eu cefnogi, gan fod llawer ohonynt bellach yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Clywodd y Pwyllgor fod llawer o ofalwyr wedi dweud ar ddechrau'r pandemig nad oeddent am i weithwyr gofal cartref ymweld, i leihau'r risg o drosglwyddo’r haint i anwyliaid. Fodd bynnag, ar ôl ychydig fisoedd, daeth teuluoedd yn ôl i ddweud eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn a bod angen pecynnau gofal arnynt unwaith eto.

Mae ymchwil gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol y mae'r pandemig wedi'i chael ar ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Roedd y prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • Mae 58% o ofalwyr ifanc a 56% o ofalwyr sy’n oedolion ifanc nawr yn gofalu am fwy o oriau bob wythnos;
  • Dydy 1 ym mhob 5 o ofalwyr ifanc ac 1 ym mhob 3 o ofalwyr sy’n oedolion ifanc ddim yn gallu cymryd unrhyw seibiant o'u rôl ofalu ar hyn o bryd;
  • Mae mwy na 2 ym mhob 3 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc dan fwy o bwysau;
  • Mae 37% o ofalwyr ifanc a bron hanner (47%) o ofalwyr sy’n oedolion ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth nag yr oedd cyn i’r pandemig ddechrau;
  • Byddai 1 ym mhob 4 o ofalwyr ifanc a bron 1 ym mhob 3 (32%) o ofalwyr sy’n oedolion ifanc yn hoffi cael cefnogaeth â’u hiechyd meddwl ond dydyn nhw ddim yn gallu cael gafael ar hynny ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr, ynghyd â Chronfa Cymorth Gofalwyr gwerth £1m i sicrhau bod grantiau ar gael ar gyfer amrywiaeth o hanfodion, gan fod ymchwil yn awgrymu bod bron i 40 y cant o ofalwyr yn poeni am eu sefyllfa ariannol.

Dywed Gofalwyr Cymru ei bod yn hen bryd i ofalwyr di-dâl yng Nghymru gael eu cydnabod fel trydydd piler ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r elusen yn galw ar awdurdodau cyhoeddus i adfer gwasanaethau a sefydlu gwasanaethau newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl cyn gynted â phosibl. Mae hefyd yn credu y dylid rhoi blaenoriaeth i ofalwyr di-dâl ynghyd â gweithwyr allweddol eraill i gael profion coronafeirws ac wrth gyflwyno'r brechlyn.

Mae llawer o randdeiliaid yn pwysleisio bod gofal cymdeithasol yn haeddu cymaint o barch â'r GIG. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wrth Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ei bod yn hanfodol bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael yr un gydnabyddiaeth, cefnogaeth ac amddiffyniad â gweithwyr y GIG.

Mae strategaeth ail-greu ar ôl COVID-19 Llywodraeth Cymru yn nodi bod ymatebwyr i'r ymgynghoriad wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddu statws gofal cymdeithasol, a chydnabod cyfraniad gofalwyr cyflogedig trwy well cyflogau a gwell safonau gwaith.

Materion eraill o bwys yn ymwneud â gofal cymdeithasol

Mae rhai o’r materion sy’n cael eu trafod yn y gyfres hon o erthyglau yn debygol o gael eu trafod ym Mhwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd maes o law. Mae'r Pwyllgor yn cynnal rhagor o sesiynau tystiolaeth sy'n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol gyda rhanddeiliaid ar 2 a 9 Rhagfyr, fel rhan o'i ymchwiliad i effaith COVID-19.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru